Datblygu eich hun fel ymarferydd datblygu cymunedol

URN: JETSCD04
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg


Mae'r safon hon yn ymwneud â pherthynas ymarferwyr datblygu cymunedol ag eraill, ac yn egluro eu rôl, eu cyfraniad a'u ffiniau. Mae'n golygu adfyfyrio ar eu hymarfer beunyddiol eu hunain yn erbyn gwerthoedd, sgiliau a gwybodaeth am ddatblygu cymunedol, a cheisio gwella eu hymarfer trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus. 

Mae'r safon hon yn berthnasol i bob ymarferydd datblygu cymunedol. 

Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol: 
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol 
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw 
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd 
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau 
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol  
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol 

Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Un 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1 defnyddio gwerthoedd datblygu cymunedol yn eich ymarfer eich hun
2 cynnal ymddygiad, cyflwyniad a phersbectifau cyson er mwyn datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol yn eich maes cyfrifoldeb
3 atal gwahaniaethau personol rhag cael effaith negyddol ar eich ymarfer eich hun
4 cyfathrebu'r hyn sy'n ymarferol bosibl o ran disgwyliadau a'ch cyfyngiadau eich hun i'r grwpiau cymunedol a'r sefydliadau rydych chi'n gweithio gyda nhw
5 datblygu grwpiau cymunedol cryf, annibynnol yn eich maes cyfrifoldeb
6 datblygu cynlluniau gwaith sy'n adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau cymunedol
7 hybu dealltwriaeth o amrywiaeth a chyfle cyfartal yn eich sefydliad eich hun
8 defnyddio adborth gan gymunedau neu eraill i wella eich ymarfer eich hun
9 sicrhau eich bod yn cadw eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun yn gyfredol trwy gyfleoedd dysgu
10 adolygu effaith eich ymarfer eich hun ar eraill yn eich maes cyfrifoldeb


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Gwerthoedd a phrosesau datblygu cymunedol
1 diben, gwerthoedd a phroses allweddol datblygu cymunedol ar waith 
2 sut mae rhoi proses, dulliau a gwerthoedd datblygu cymunedol ar waith i gefnogi gweithredu ar y cyd a newid cymdeithasol
3 sut mae adnabod sylfaen eich pŵer a'ch dylanwad eich hun wrth weithio gyda chymunedau
4 gwybodaeth hanesyddol a chyd-destunol am ddulliau gweithredu a strategaethau cenedlaethol a lleol ar gyfer datblygu cymunedol 
5 ffyrdd o ddefnyddio Safonau Cenedlaethol Galwedigaethol Datblygu Cymunedol wrth ymgysylltu â chymunedau

Arfer adfyfyriol
6 technegau seiliedig ar werth, sy'n canolbwyntio ar ddatrysiadau, ar gyfer adfyfyrio a datrys problemau 
7 sut mae defnyddio adborth gan aelodau o'r gymuned, cydweithwyr a phartneriaid
8 adolygiadau a chynlluniau gwella ar gyfer eich ymarfer eich hun ac ymarfer y sefydliad
9 ymwybyddiaeth o'ch cyfyngiadau eich hun wrth roi cyngor cyfreithiol, a phryd mae angen ceisio cefnogaeth arbenigol
10 arwyddocâd teyrngarwch rhanedig neu sy'n gwrthdaro a sut gall hynny effeithio ar berthnasoedd gwaith
11 sut gall eich gwerthoedd a'ch credoau eich hun effeithio ar ymarfer a pherthnasoedd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;

1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.

1 bod ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol yn cael ei arddangos yn ymarferol
2 bod ymarferwyr yn defnyddio'u pŵer a'u dylanwad i herio camwahaniaethu
3 bod ymarfer beunyddiol yn cyfrannu at rymuso cymunedau 
4 bod sgiliau, gwybodaeth, profiad ac arbenigedd eraill yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi
5 bod ymarferwyr yn chwilio'n barhaus am ffyrdd o wella ymarfer a chynyddu gwybodaeth er mwyn ymateb i anghenion a heriau newidiol​


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Learning Skills Improvement Service

URN gwreiddiol

LSICD04

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol

Cod SOC

3231

Geiriau Allweddol

datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol