Gweithio gyda'r tensiynau sy'n rhan gynhenid o ymarfer datblygu cymunedol

URN: JETSCD02
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg


Mae'r safon hon yn ymwneud â'r tensiynau sy'n codi mewn ymarfer datblygu cymunedol. Mae datblygu cymunedol yn weithgaredd sy'n cael ei sbarduno gan werth, a gall olygu bod ymarferwyr yn gwrthdaro â gwerthoedd pobl eraill, e.e. pobl mewn cymunedau; gweithwyr proffesiynol eraill; nodau a blaenoriaethau sefydliadau eraill, grwpiau cymunedol, ac arweinyddion; a'r diwylliannau sy'n gysylltiedig â chaffael a chontractau. 
Gall ymarferwyr datblygu cymunedol deimlo hefyd y gallai eu gwerthoedd eu hunain wrthdaro â rhai datblygu cymunedol mewn rhai cyd-destunau. 

Mae'r safon hon yn berthnasol i bob ymarferydd datblygu cymunedol. 

Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol: 
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol 
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw 
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd 
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau 
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol  
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol 

Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Un. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1 gwerth uso'r tensiynau rhwng eich dulliau gweithredu a'ch gwerthoedd eich hun, rhai pobl eraill, a rhai datblygu cymunedol 
2 datrys gwrthdaro rhwng gwerthoedd datblygu cymunedol ac ymarfer beunyddiol yn eich maes cyfrifoldeb
3 archwilio ffyrdd o ddatrys gwrthdaro rhwng eich rôl datblygu cymunedol eich hun a gofynion cyflogwyr neu bolisïau sefydliadol; neu arianwyr neu'r gyfraith
4 hyrwyddo hawl cymunedau a grwpiau i osod eu hagendâu eu hunain yn eu sefydliadau eu hunain, a chyda phartneriaid yn eich maes cyfrifoldeb chi
5 cynllunio a gweithredu heb danseilio hawliau cymunedau
6 hybu gwahanol ffyrdd o ddatrys gwrthdaro cymunedol ymhlith grwpiau cymunedol
7 cynllunio sut mae ymateb i gyfleoedd posibl i weithredu ar y cyd a rhwystrau i hynny 
8 cynnwys aelodau o'r gymuned i edrych ar effaith gwneud penderfyniadau ar eu cymunedau
9 lle bo hynny'n briodol, darparu gwybodaeth a chefnogaeth ynghylch dylanwadu ar benderfyniadau gwleidyddol a'u herio


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Gwerthoedd a phrosesau datblygu cymunedol
1 diben, gwerthoedd a phroses allweddol datblygu cymunedol, 
2 sut mae esbonio cysyniadau datblygu cymunedol mewn gwahanol gyd-destunau, i wahanol gynulleidfaoedd ac at wahanol ddibenion
3 technegau seiliedig ar werth, sy'n canolbwyntio ar ddatrysiadau, ar gyfer adfyfyrio a datrys problemau 
4 dulliau o gynnwys a grymuso'r gymuned 
5 dulliau ar gyfer gweithredu a newid a arweinir gan y gymuned
6 sut mae gweithio gyda gwrthdaro cymunedol rhwng grwpiau a rhwng cymunedau

Materion pŵer, anghydraddoldeb a chyfiawnder
7 persbectifau a ddefnyddir i esbonio ffactorau strwythurol a'r cysylltiadau rhyngddynt
8 sut mae ffactorau strwythurol yn effeithio ar gymunedau
9 ffyrdd o herio anghydraddoldeb, anghyfiawnder cymdeithasol a chamwahaniaethu  
10 gwahanol bersbectifau ar sut mae pŵer yn gweithio
11 technegau ar gyfer adnabod a defnyddio pŵer
12 hawliau i osod eich agendâu eich hun a pharhau'n annibynnol

Gwneud penderfyniadau
13 sut mae defnyddio prosesau cyfranogol a democrataidd o wneud penderfyniadau ar gyfer gweithredu a newid cymunedol
14 sut mae ymgysylltu â pholisïau, gwleidyddiaeth a phenderfyniadau lleol, a dylanwadu arnynt
15 sut mae cefnogi cymunedau a grwpiau cymunedol i herio'r broses o lunio penderfyniadau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;

1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.

1 bod anghydbwysedd pŵer wrth wneud penderfyniadau yn cael ei gydnabod ac yn derbyn sylw
2 bod gwahaniaethau ac amrywiaeth rhwng cymunedau yn cael eu harchwilio a'u gwerthfawrogi
3 cydnabyddiaeth bod gwahanol gymunedau'n annibynnol ac yn rhyng-ddibynnol
4 yn y broses o weithredu ar y cyd, bod tensiynau a gwrthdaro yn cael eu cydnabod ac yn derbyn sylw
5 bod heriau cadw'r cydbwysedd rhwng gwahanol elfennau atebolrwydd yn destun trafodaeth ac yn cael eu cydnabod yn rheolaidd​


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Learning Skills Improvement Service

URN gwreiddiol

LSICD02

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol

Cod SOC

3231

Geiriau Allweddol

datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol