Hyrwyddo arferion effeithiol ym maes marchnata cymdeithasol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â hyrwyddo tystiolaeth o arferion effeithiol ym maes marchnata cymdeithasol ac annog y grwpiau targed i gymhwyso'r egwyddorion hyn yn eu cyd-destunau a'u materion eu hunain. Gall yr hyrwyddo ddigwydd mewn sawl ffordd, fel mewn cyhoeddiadau electronig neu bapur; digwyddiadau a chyflwyniadau wyneb yn wyneb neu drwy gyfryngau cymdeithasol; cynnwys y dystiolaeth mewn deunyddiau dysgu neu raglenni addysgol arall.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli neu weithredu sy'n gyfrifol am hyrwyddo tystiolaeth o arferion effeithiol ym maes marchnata cymdeithasol ac annog iddi gael ei chymhwyso mewn cyd-destunau a materion amrywiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu tystiolaeth arferion marchnata cymdeithasol ac asesu ei heffeithiolrwydd, ei dilysrwydd a'i dibynadwyedd
ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol er mwyn nodi'r grwpiau targed y gallai'r dystiolaeth fod yn berthnasol iddynt
ymgysylltu â grwpiau targed a rhanddeiliaid allweddol er mwyn nodi eu nodweddion, diddordebau, anghenion, galluoedd a dewisiadau
- sefydlu sut gallai'r grwpiau targed elwa o ddeall tystiolaeth am farchnata cymdeithasol
- cyfosod enghreifftiau o arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a'u cyflwyno yn y fformat perthnasol ac iaith briodol ar gyfer y grŵp targed
- sefydlu'r sianelau cyfathrebu gyda'r grwpiau targed
- annog a chefnogi'r grwpiau targed er mwyn profi a chymhwyso'r arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn marchnata cymdeithasol
- addasu eich ymagwedd at ddyrannu a hyrwyddo'r arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn marchnata cymdeithasol mewn ymateb i adborth neu broblemau neu gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg
- dyrannu'r wybodaeth a thystiolaeth o arferion effeithiol ym maes marchnata cymdeithasol
- gwerthuso sut ydych yn rhannu tystiolaeth a'i harwyddocâd
- adolygu sut y defnyddir ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn marchnata cymdeithasol
- sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- tystiolaeth o arferion effeithiol ym maes marchnata cymdeithasol
- dulliau asesu dilysrwydd a dibynadwyedd y dystiolaeth
- dulliau nodi'r grwpiau targed a'r rhanddeiliaid allweddol y gallai'r dystiolaeth fod yn berthnasol iddynt
- y rhanddeiliaid perthnasol, y grwpiau a dargedir, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
- egwyddorion, dulliau, cyfarpar a thechnegau perthnasol ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a grwpiau targed, gan gynnwys grwpiau agored i niwed ac anodd eu cyrraedd
- dulliau rhannu'r dystiolaeth â'r grwpiau targed a'r rhanddeiliaid allweddol
- ystod y sianelau cyfathrebu a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol y gellir eu defnyddio i rannu gwybodaeth
- enghreifftiau perthnasol a gweithgareddau ymarferol ar gyfer grwpiau targed
- sut i rannu a hyrwyddo'r arferion effeithiol ym maes marchnata cymdeithasol
- dulliau cyfosod yr adborth o weithgareddau rhannu
- camau penodol mewn ymateb i broblemau neu gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg
- eich dulliau gwerthuso er mwyn gwneud i'r grwpiau targed ddeall y dystiolaeth a'i harwyddocâd
- pam mae'n bwysig adolygu sut y defnyddir arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Tystiolaeth
Gall y dystiolaeth fod yn ansoddol a/neu feintiol a gall ddeillio o'r gwerthusiad ffurfiol o effaith (mantais tymor byr) a deilliant (budd yn y pen draw) rhaglenni masnach cymdeithasol.
Rhanddeiliaid
Mae'r rhain yn cynnwys pawb sydd â diddordeb a chysylltiad â'r dystiolaeth o arferion effeithiol ac aneffeithiol ym maes marchnata cymdeithasol neu sydd wedi'i heffeithio ganddi.
Arwyddocaol
Mae hyn yn golygu perthnasol a phwysig i fuddiannau'r grwpiau targed.
Modd
Gall hyn gynnwys: cyhoeddiadau electronig neu bapur; digwyddiadau a chyflwyniadau wyneb yn wyneb neu drwy gyfryngau cymdeithasol; cynnwys y dystiolaeth mewn deunyddiau dysgu neu raglenni addysgol arall.
Dulliau cyfathrebu
Mae'r rhain yn cynnwys: geiriau llafar, geiriau printiedig, cyfathrebu electronig, negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, delweddau gweledol, iaith arwyddion, Braille, ac ati.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a'i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html
Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf
Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf