Adolygu a dehongli canlyniadau a goblygiadau ehangach gweithgareddau marchnata cymdeithasol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adolygu gweithgareddau marchnata cymdeithasol, dadansoddi a dehongli'r canlyniadau a'u goblygiadau ehangach. Er enghraifft, sut gellir trosglwyddo'r gwersi a ddysgwyd mewn un rhaglen marchnata gymdeithasol i gyd-destunau a materion eraill. Gallai'r cwmpas ganolbwyntio ar weithgareddau marchnata cymdeithasol sefydliad mwy penodol neu gallai gynnwys gorchwyl ehangach er mwyn monitro a dehongli canlyniadau gweithgareddau marchnata cymdeithasol ar draws ystod o sefydliadau, cyd-destunau neu faterion.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli sy'n gyfrifol am adolygu a dehongli canlyniadau gweithgareddau marchnata cymdeithasol a'u goblygiadau ehangach.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- pennu cwmpas y gweithgareddau marchnata i'w hadolygu
- cael gafael ar yr holl ddata a gwybodaeth sy'n ymwneud â'r gweithgareddau marchnata cymdeithasol
- gwirio dilysrwydd a dibynadwyedd y data a'r wybodaeth, gan gynnal rhagor o ymchwiliadau lle bo angen
- gwerthuso effeithiolrwydd y gweithgareddau marchnata cymdeithasol, gan gymharu â strategaethau amgen
- defnyddio'r dulliau perthnasol i ddehongli'r data a'r wybodaeth, gan ffurfio damcaniaethau am beth sy'n gweithio neu ddim yn gweithio, a pham
- dadansoddi a gwerthuso'r canlyniadau a gyflawnwyd, gan gynnwys yr ystod lawn o ffactorau a allai effeithio ar y canlyniadau
- cymharu eich dehongliadau eich hun â meysydd tebyg eraill er mwyn cadarnhau neu wrthbrofi
- annog y grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol i roi adborth ar eich dehongliadau
- addasu eich dehongliadau fel y bo angen yn unol ag adborth ac argymhellion
- nodi unrhyw feysydd eraill yn eich dehongliadau sy'n ansicr o hyd
- ystyried goblygiadau ehangach y canlyniadau a myfyrio ar y gwersi a ddysgwyd a allai gael eu trosglwyddo i gyd-destunau neu faterion eraill
- cyfathrebu canlyniadau gweithgareddau marchnata cymdeithasol a rhannu'r gwersi a ddysgwyd
- asesu sut mae'r hyn a ddysgwyd yn cadarnhau neu'n gwrthddweud y damcaniaethau a'r paradeimau sy'n sail ar gyfer marchnata cymdeithasol
- cyfosod y gwersi a ddysgwyd i gynghori'r rhaglenni marchnata cymdeithasol
- sicrhau cydymffurfiad â’r gofynion cyfreithiol,
trefniadol, y côd ymarfer a’r polisïau sy’n berthnasol i’ch rôl, eich sefydliad
a’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cwmpas y gweithgareddau marchnata i'w hadolygu
- y rhanddeiliaid perthnasol, y grwpiau a dargedir, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
- sut i gael gafael ar y data a'r wybodaeth sydd wedi'u cynnwys mewn gweithgareddau marchnata cymdeithasol
- y modelau marchnata cymysg sy'n addas ar gyfer marchnata cymdeithasol
- dulliau gwerthuso'r wybodaeth
- y dulliau cymharu gweithgareddau a strategaethau marchnata cymdeithasol
- sut i ffurfio'r damcaniaethau ynghylch deilliannau gweithgareddau marchnata cymdeithasol
- sut i ddadansoddi a gwerthuso'r canlyniadau a gyflawnwyd
- dulliau cyfosod yr adborth ar y dehongliadau gan grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
- sut i roi'r adborth a'r argymhellion er mwyn adolygu eich dehongliadau
- goblygiadau ehangach canlyniadau gweithgareddau marchnata cymdeithasol
- y damcaniaethau a'r paradeimau sy'n sylfaen i farchnata cymdeithasol
- y gweithdrefnau adrodd perthnasol ar gyfer recordio'r dehongliadau y gellir eu defnyddio mewn cyd-destunau a materion eraill
- y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cwmpas
Gallai hyn ganolbwyntio ar weithgareddau marchnata cymdeithasol sefydliad/partneriaeth mwy penodol neu gallai gynnwys gorchwyl ehangach er mwyn monitro a dehongli canlyniadau gweithgareddau marchnata cymdeithasol yn ehangach ar draws ystod o sefydliadau/partneriaethau, cyd-destunau a/neu faterion.
Rhanddeiliaid
Mae'r rhain yn cynnwys pawb sy'n gysylltiedig â'r strategaeth marchnata cymdeithasol, neu wedi'i heffeithio ganddi, a'r problemau mae'n ceisio'u datrys.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata
Cymdeithasol a ddatblygwyd a’i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata
Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA),
Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM).
Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf
Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf