Ymgysylltu â llunwyr polisïau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn llywodraeth a sefydliadau a’u cefnogi
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â materion strategol marchnata cymdeithasol sy'n gysylltiedig ag ymgysylltu â llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, a'u cefnogi. Nod y gweithgareddau ymgysylltu yw llywio a bod o gymorth wrth wneud penderfyniadau polisi a datblygu gwell dealltwriaeth o raglenni marchnata cymdeithasol.
Hyd yn oed ar ôl cynnal ymchwil drylwyr, mae'n amhosibl darogan yn llawn beth fydd yn digwydd o ganlyniad o ymgysylltu â llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Mae angen i weithgareddau ymgysylltu fod yn hyblyg ac yn ymatebol i ganlyniadau sy'n dod i'r amlwg. Gall y llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau fod naill ai mewn adrannau llywodraeth, awdurdodau neu asiantaethau neu mewn sefydliadau sy'n defnyddio, neu allai ddefnyddio, marchnata cymdeithasol i'w helpu i gyflawni eu hamcanion.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli neu weithredu sy'n ymgysylltu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y llywodraeth neu mewn sefydliadau er mwyn llywio a chynorthwyo penderfyniadau polisi yn rhan o'r rhaglen masnach cymdeithasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi ystod y llunwyr polisiau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i weld a oes posibilrwydd o gydweithio mewn rhaglenni marchnata cymdeithasol
- pennu rôl a swyddi llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn cysylltiad ag amcanion y rhaglen
- ymgysylltu â llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn meithrin eu dealltwriaeth o farchnata a sut allai gyflawni amcanion eu polisïau
- gwerthuso pa mor addas a dibynadwy yw'r llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- nodi unrhyw beth a allai rwystro ar ymgysylltu â llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a phennu sut i leihau'r peryglon hyn
- mynd i'r afael ag unrhyw anawsterau, camdybiaethau ac argraffiadau posibl sydd gan lunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch marchnata cymdeithasol a datrys y rhain
- monitro ac adolygu dulliau hyrwyddo manteision marchnata cymdeithasol ymysg llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- cefnogi llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau wrth baratoi eu strategaethau marchnata cymdeithasol
- monitro strategaethau marchnata cymdeithasol llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a rhoi cyngor arbenigol lle bo angen
- cyfosod barn gyhoeddus drwy gamau cymunedol a digwyddiadau ymgynghori er mwyn cynorthwyo rhagor o ymgysylltu â llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- cyfosod y dystiolaeth, ffactorau a dadleuon a allai lywio a chynorthwyo gyda pholisïau a phenderfyniadau
- blaenoriaethu a dewis ymddygiadau mesuradwy unigolion, sefydliadau neu lunwyr polisïau er mwyn dylanwadu arnynt
- datblygu'r ymyriadau sydd eu hangen i lywio a chynorthwyo gyda phenderfyniadau polisi a pholisïau
- addasu eich ymagwedd at ymgysylltu â llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a defnyddio'r gwersi a ddysgwyd i lywio cyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol
- sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi'r llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn cysylltiad a rhaglenni marchnata cymdeithasol
- sut i flaenoriaethu a dewis ymddygiadau mesuradwy unigolion, sefydliadau neu lunwyr polisïau er mwyn dylanwadu arnynt
- ystod rôl a swyddi llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn cysylltiad ag amcanion y rhaglen
- y dulliau, y cyfarpar a'r technegau ymgysylltu â llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- sut i werthuso pa mor addas a dibynadwy yw'r llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- yr hyn a allai rwystro ymgysylltiad â llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a'r strategaethau i leihau'r risgiau hyn
- mathau o anawsterau, camdybiaethau ac argraffiadau posibl sydd gan lunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch marchnata cymdeithasol a datrys y rhain
- dulliau hyrwyddo manteision marchnata cymdeithasol ymysg llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- strategaethau a gweithgareddau marchnata cymdeithasol llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- sut i gyfosod barn gyhoeddus drwy gamau cymunedol a digwyddiadau ymgynghori
- y dystiolaeth, ffactorau a dadleuon a allai lywio a chynorthwyo gyda phenderfyniadau ynglŷn â pholisïau
- yr ymyriadau perthnasol sy'n ceisio llywio a chynorthwyo gyda pholisïau a phenderfyniadau ynglŷn â pholisïau
- dulliau monitro gweithgareddau ymgysylltu a deilliannau'r rhaglen marchnata cymdeithasol
- pwysigrwydd cadw'n gyfredol gyda chanllawiau arferion gorau sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Rhaglen marchnata cymdeithasol
Fel y defnyddir yn y safonau, mae'r "rhaglen marchnata cymdeithasol" yn cwmpasu rhaglenni tymor hwy (3 blynedd), ymgyrchoedd tymor canolig (1-3 blynedd) a chynlluniau tymor byr (<1 flwyddyn) wedi'u targedu.
Risg
Mae hyn yn golygu'r posibilrwydd o ddigwyddiad yn cael ei gynnal a difrifoldeb goblygiadau'r digwyddiad hwn. Nid oes arwyddocâd negyddol yn gysylltiedig â 'risg' o reidrwydd; gall digwyddiad beri goblygiadau cadarnhaol a negyddol fel ei gilydd. Un o'r prif risgiau wrth gynnal gweithgaredd marchnata prawf yw bod newidiadau mewn ffactorau amgylcheddol eraill yn difetha'r canlyniadau.
Rheoli risg
Mae hyn yn cynnwys: asesu'r risgiau; cymryd camau i osgoi digwyddiadau sy'n peri goblygiadau negyddol, cynllunio fel bod cyn lleied o oblygiadau negyddol â phosibl, a manteisio'n llawn ar gyfleoedd os bydd digwyddiadau.
Llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
Mae gwahaniaeth rhwng llunwyr polisïau (h.y. y rhai sy'n creu polisïau) a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau (h.y. y rhai sy'n penderfynu a ddylai'r polisïau sydd wedi'u creu gael eu rhoi ar waith). Mewn rhai cyd-destunau, gall hwn fod yr un person. Fodd bynnag mewn cyd-destunau llywodraeth gallai'r lluniwr polisïau fod yn was sifil neu'n swyddog llywodraeth leol, a gallai'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau fod yn aelod etholedig (neu'n grŵp o weinidogion neu aelodau etholedig e.e. cabinet, senedd neu gyngor).
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a'i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html
Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf
Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf