Meithrin a chynnal perthnasoedd gwaith gyda rhanddeiliaid mewn rhaglenni marchnata cymdeithasol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn mynd i'r afael â materion strategol ym maes marchnata cymdeithasol a allai fod yn gysylltiedig â meithrin a chynnal grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol neu fod wedi'u heffeithio gan y rhaglenni perthnasol.
Gall ystod y gweithgareddau gynnwys sawl nod megis cyd-ddylunio strategaeth, cyflawni drwy gyfryngau (e.e. drwy sianelau er mwyn cyrraedd y grŵp targed i newid eu hymddygiad), neu reoli risgiau. Dylai'r gweithgareddau ymgysylltu hyn fod yn hyblyg ac yn ymatebol i weithgareddau sy'n dod i'r amlwg.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn swyddi strategol neu reoli sy'n gyfrifol am nodi, dadansoddi a chynnal perthnasoedd gwaith gyda rhanddeiliaid, grwpiau targed, cymunedau sy'n gysylltiedig â rhaglenni neu wedi'i heffeithio ganddynt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid er mwyn nodi blaenoriaethau cymunedol, cenedlaethol, rhanbarthol a/neu ryngwladol, a nodi'r rhai lle gallai ymagwedd marchnata cymdeithasol fod yn briodol
- disgrifio marchnata cymdeithasol i gydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill a nodi sut mae'n wahanol i ddulliau eraill sy'n dylanwadu ar ymddygiadau a newid cymdeithasol
- ymgysylltu â grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol er mwyn pennu eu bwriad i gydweithio yn ogystal â'u rôl a'u cyfraniadau posibl
- cynllunio sut ydych am nodi a rheoli grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer eich rhaglenni marchnata cymdeithasol
- segmentu'r grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol sy'n gysylltiedig â'r gweithgareddau marchnata cymdeithasol neu wedi'u heffeithio ganddynt
- nodi anghenion y grwpiau targed, y cymunedau a'r rhanddeiliaid perthnasol er mwyn ymgysylltu ymhellach
- nodi sut mae disgwyl i'r ymgysylltiad â'r grwpiau targed, y cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol ategu ystod y gweithgareddau
- nodi a datblygu cynlluniau i liniaru unrhyw beth a allai rwystro ymgysylltiad â'r grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol a phennu sut i liniaru'r risgiau hyn
- dadansoddi'r grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol er mwyn nodi eu cysylltiad â'ch sefydliad
- nodi'r dulliau, cyfarpar a thechnegau ar gyfer ymgysylltu â grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol
- nodi prif rôl neu rôl eilaidd o fewn grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol mewn cysylltiad â rhaglenni marchnata cymdeithasol
- datblygu a chynnal perthynas waith gyda'r grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol
- paratoi a chytuno ar strategaethau cyfathrebu a chamau eraill ar gyfer rheoli'r grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol
- ymgysylltu â'r grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol drwy rwydweithiau cymdeithasol a chyfryngau perthnasol eraill
- dogfennu canlyniadau cynlluniau marchnata cymdeithasol a'u cyflwyno i grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol
- monitro cysylltiad y grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol â'ch gweithgareddau marchnata cymdeithasol
- adolygu a gwerthuso eich perthnasoedd gyda'ch grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol yn rheolaidd
- sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi a rheoli grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer eich rhaglenni marchnata cymdeithasol
- dulliau segmentu grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol mewn cysylltiad â'ch gweithgareddau marchnata cymdeithasol
- y rhanddeiliaid perthnasol, y grwpiau a dargedir, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
- y dulliau, cyfarpar a thechnegau ar gyfer ymgysylltu â grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol.
- ystod y gweithgareddau y gallai grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol fod yn gysylltiedig â nhw
- y modelau marchnata cymysg sy'n addas ar gyfer marchnata cymdeithasol
- yr hyn a allai eich rhwystro rhag ymgysylltu â grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol a'r strategaethau i liniaru'r risgiau hyn
- sut i asesu a nodi natur cysylltiad y grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol â'ch sefydliad
- y rolau o fewn grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol mewn cysylltiad â rhaglenni marchnata cymdeithasol
- y technegau perthnasol ar gyfer datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith gyda grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol
- y dulliau cyfathrebu ac ymgysylltu perthnasol
- y strategaethau cyfathrebu a strategaethau a chamau eraill ar gyfer rheoli'r grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol
- sut i ddogfennu canlyniadau cynlluniau marchnata cymdeithasol a'u cyflwyno i gydweithwyr, rhanddeiliaid, cymunedau ac unrhyw sefydliadau neu grwpiau perthnasol eraill
- technegau monitro cysylltiad y grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol â'ch gweithgareddau marchnata cymdeithasol
- pam mae'n bwysig adolygu perthnasoedd gyda'ch grwpiau targed, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol yn rheolaidd
- yr egwyddorion marchnata cymdeithasol, egwyddorion, cysyniadau, damcaniaethau a thechnegau moesegol
- pwysigrwydd cadw'n gyfredol gyda chanllawiau arferion gorau sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Rhaglen marchnata cymdeithasol
Fel y defnyddir yn y safonau, mae'r "rhaglen marchnata cymdeithasol" yn cwmpasu rhaglenni tymor hwy (3 blynedd), ymgyrchoedd tymor canolig (1-3 blynedd) a chynlluniau tymor byr (<1 flwyddyn) wedi'u targedu.
Risg
Mae hyn yn golygu'r posibilrwydd o ddigwyddiad yn cael ei gynnal a difrifoldeb goblygiadau'r digwyddiad hwn. Nid oes arwyddocâd negyddol yn gysylltiedig â 'risg' o reidrwydd; gall digwyddiad beri goblygiadau cadarnhaol a negyddol fel ei gilydd. Un o'r prif risgiau wrth gynnal gweithgaredd marchnata prawf yw bod newidiadau mewn ffactorau amgylcheddol eraill yn difetha'r canlyniadau.
Rheoli risg
Mae hyn yn cynnwys: asesu'r risgiau; cymryd camau i osgoi digwyddiadau sy'n peri goblygiadau negyddol, cynllunio fel bod cyn lleied o oblygiadau negyddol â phosibl, a manteisio'n llawn ar gyfleoedd os bydd digwyddiadau.
Cydnabyddir bod rhaglenni marchnata cymdeithasol fel arfer yn cynnwys nifer o sefydliadau "partner" yn cydweithio'n agos.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a'i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html
Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf
Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a
Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf