Darparu addysg, hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer arferion marchnata cymdeithasol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu addysg, hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer arferion marchnata cymdeithasol. Gall y gefnigaeth gynnwys cynadleddau, llinellau cymorth, cyngor, arweiniad, gwasanaethau ymgynghorol.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli sy'n gyfrifol am ddarparu addysg, hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer arferion marchnata cymdeithasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- diweddaru eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o ddamcaniaethau ac arferion marchnata cymdeithasol er mwyn eu defnyddio mewn gwasanaethau addysg, hyfforddiant a chefnogaeth
- adolygu'r dystiolaeth ymchwil ac ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol, sefydliadau partner a rhanddeiliaid allweddol
nodi'r meysydd i'w blaenoriaethu ar gyfer darparu addysg, hyfforddiant neu wasanaethau cefnogi
nodi a gwerthuso cyfraniad posibl addysg, hyfforddiant a chefnogaeth at arferion marchnata cymdeithasol
- cytuno gyda gweithwyr proffesiynol, sefydliadau partner a rhanddeiliaid allweddol ar y gofynion wrth roi addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth
- creu manylebau ar gyfer yr addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth yr ydych yn ei ddarparu i weithwyr proffesiynol, sefydliadau partner a rhanddeiliaid allweddol
- sicrhau bod y manylebau'n rhoi'r manylion sydd eu hangen er mwyn comisiynu a gwerthuso addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth
- nodi a dyrannu'r adnoddau sydd eu hangen i roi'r addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth
- comisiynu'r addysg, hyfforddiant neu'r gefnogaeth yn unol â'r manylebau a pholisïau eich sefydliad ac ystyried materion moesegol a chynaliadwyedd
- sicrhau bod addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth yn seiliedig ar dystiolaeth o arferion cyfredol ym maes marchnata cymdeithasol
- peilota addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth a gwneud penderfyniadau deallus ynghylch sut i'w defnyddio
- darparu addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth sy'n bodloni'r manylebau gofynnol
- annog y gweithwyr marchnata cymdeithasol proffesiynol i roi adborth ar yr addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth a ddarperir a'u heffaith ar arferion
- monitro a gwerthuso addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni manylebau gofynnol
- cymryd camau mewn ymateb i adborth o'ch gweithgareddau monitro a gwerthuso
- sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y damcaniaethau ac arferion marchnata cymdeithasol perthnasol er mwyn eu defnyddio mewn gwasanaethau addysg, hyfforddiant a chefnogaeth
- y dulliau ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol cyfredol a darpar weithwyr, sefydliadau partner a rhanddeiliaid allweddol
- y rhanddeiliaid perthnasol, y grwpiau a dargedir, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
- cyfraniad posibl addysg, hyfforddiant a chefnogaeth at wella arferion marchnata cymdeithasol
- gofynion yr ymarferwyr marchnata cymdeithasol, partneriaid a
rhanddeiliaid wrth ddarparu addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth - sut i baratoi manylebau ar gyfer addysg, hyfforddiant a chefnogaeth
- cwmpas y manylion sydd eu hangen er mwyn comisiynu a gwerthuso addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth
- sut i gomisiynu'r addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth yn unol â'r manylebau perthnasol a pholisïau eich sefydliad
- yr arferion cyfredol ym maes marchnata cymdeithasol mewn cysylltiad ag addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth
- sut i beilota addysg, hyfforddiant neu wasanaethau cefnogi er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r gofynion
- yr egwyddorion perthnasol wrth gasglu adborth am addysg, hyfforddiant neu wasanaethau cefnogi
- gofynion, galluoedd a'r hyn sydd orau gan weithwyr marchnata cymdeithasol proffesiynol
- sut i addasu'r addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth i gyd-fynd â gofynion, galluoedd a'r hyn sydd orau gan weithwyr marchnata cymdeithasol proffesiynol
- y technegau gwerthuso a monitro ar gyfer mesur perfformiad addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth
- y camau perthnasol mewn ymateb i adborth o'ch gweithgareddau monitro a gwerthuso
- y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithiwr proffesiynol ym maes marchnata cymdeithasol
Mae hyn yn cynnwys pawb sy'n gwneud gwaith sy'n cyfrannu at brif ddiben marchnata cymdeithasol sef "defnyddio marchnata ochr yn ochr â chysyniadau a thechnegau eraill er mwyn dylanwadu ar unigolion, sefydliadau, llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i fabwysiadu a chynnal ymddygiadau sy'n gwella bywydau pobl". Gall rhai gweithwyr marchnata cymdeithasol proffesiynol fod yn cyflawni swyddogaethau marchnata cymdeithasol fel rhan fach yn unig mewn rôl lawer ehangach.
Rhanddeiliaid
Mae'r rhain yn cynnwys pawb sydd â diddordeb mewn gwella effeithiolrwydd marchnata cymdeithasol.
Cefnogi
Gall hyn gynnwys cynadleddau, llinellau cymorth, cyngor, arweiniad, gwasanaethau ymgynghorol.
Cynhyrchion a chyfarpar
Gall y rhain gynnwys cyhoeddiadau, fideos, safonau, meincnodau, gwefannau, adnoddau dysgu.
Comisiynu
Gall pobl yn eich tîm (gan eich cynnwys chi) neu eich adran 'gomisiynu' cynhyrchion a gwasanaethau gan adrannau neu bartneriaid eraill neu gan gyflenwyr allanol sy'n arbenigo yn y cynhyrchion neu wasanaethau.
Cynaliadwyedd
Yn yr achos yma mae'n golygu defnyddio adnoddau mewn ffyrdd cynaliadwy ac sy'n cael cyn lleied o effeithiau andwyol â phosibl ar yr amgylchedd. Teilwra'r addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth arall i gyd-fynd ag anghenion, galluoedd a dewisiadau ymarferwyr marchnata cymdeithasol unigol, gan amlygu unrhyw ofynion na ellir eu diwallu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a'i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html
Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf
Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf