Darparu cynhyrchion, gwasanaethau a systemau i gefnogi rhaglenni marchnata cymdeithasol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu cynhyrchion, gwasanaethau a systemau i gefnogi rhaglenni marchnata cymdeithasol. Dim ond rhan o'r marchnata cymdeithasol cymysg sy'n ofynnol i elwa'n llawn ar newid ymddygiad yw'r cynhyrchion a'r gwasanaethau.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli sy'n gyfrifol am gyflwyno cynhyrchion, gwasanaethau a systemau er mwyn cefnogi grwpiau targed a sefydliadau i fabwysiadu a chynnal ymddygiad buddiol yn rhan o raglen marchnata cymdeithasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi cynhyrchion, gwasanaethau a systemau sy'n gallu cefnogi'r rhaglenni marchnata cymdeithasol
- nodi nodweddion y cynhyrchion, y gwasanaethau a'r systemau gofynnol
- nodi cynhyrchion, gwasanaethau a systemau fydd yn diwallu anghenion y grwpiau targed
- adolygu cynhyrchion, gwasanaethau a systemau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
pennu'r targedau a dangosyddion perfformiad allweddol y cynhyrchion, gwasanaethau a systemau a chytuno arnynt gyda rhanddeiliaid allweddol
nodi'r angen i ddarparu cynhyrchion, gwasanaethau a systemau
- sicrhau bod y cynhyrchion a'r gwasanaethau yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
- monitro a gwerthuso cynhyrchion, gwasanaethau a systemau er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni gofynion ac amcanion y rhaglen marchnata cymdeithasol.
- ceisio cyngor gan randdeiliaid allweddol mewn ymateb i adborth gan grwpiau targed
- cymryd camau mewn ymateb i unrhyw gyfleoedd, bygythiadau neu gwynion sy'n dod i'r amlwg gyda'r cynhyrchion, gwasanaethau a systemau
- disgrifio marchnata cymdeithasol i gydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill a nodi sut mae'n wahanol i ddulliau eraill sy'n dylanwadu ar ymddygiadau a newid cymdeithasol
- dogfennu canlyniadau cynlluniau marchnata cymdeithasol a'u cyflwyno i gydweithwyr, rhanddeiliaid, cymunedau a sefydliadau a grwpiau perthnasol eraill
- hysbysu'r rhanddeiliaid allweddol am ddeilliannau perfformiad y cynhyrchion, gwasanaethau a systemau yn rhan o'r rhaglen marchnata cymdeithasol
- sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ystod y cynhyrchion a'r gwasanaethau sy'n cefnogi rhaglenni marchnata cymdeithasol
- y rhanddeiliaid perthnasol, y grwpiau a dargedir, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
- nodweddion sylfaenol y cynhyrchion a'r gwasanaethau
- yr anghenion a nodwyd ar gyfer grwpiau targed mewn cysylltiad â darparu cynhyrchion, gwasanaethau a systemau
- yr egwyddorion, y dulliau, y cyfarpar a'r technegau perthnasol ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a grwpiau targed, gan gynnwys grwpiau agored i niwed ac anodd eu cyrraedd
- cydymffurfiad y cynhyrchion a'r gwasanaethau â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
- sut i gyfosod adborth gan ddefnyddwyr cynhyrchion, gwasanaethau a systemau
- egwyddorion a thechnegau perthnasol monitro a gwerthuso cynhyrchion, gwasanaethau a systemau
- y targedau disgwyliedig a'r dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer darparu cynhyrchion, gwasanaethau a systemau
- y manylebau gofynnol, disgwyliadau'r defnyddwyr a lefelau bodlonrwydd a dargedir mewn cysylltiad â chynhyrchion, gwasanaethau a systemau
- y camau perthnasol i'w cymryd mewn ymateb i gyfleoedd, bygythiadau neu broblemau sy'n dod i'r amlwg gyda'r cynhyrchion gwasanaethau a systemau
- sut i ddogfennu canlyniadau cynlluniau marchnata cymdeithasol a'u cyflwyno i gydweithwyr, rhanddeiliaid, cymunedau ac unrhyw sefydliadau neu grwpiau perthnasol eraill
- manteision marchnata cymdeithasol mewn cysylltiad â dylanwadu ar ymddygiadau a newid cymdeithasol
- y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ymddygiad buddiol
Mae hyn yn golygu ymddygiad lle mae cydbwysedd y dystiolaeth yn dangos y gallai wella bywydau pobl.
Rhaglen marchnata cymdeithasol
Fel y defnyddir yn y safonau, mae'r "rhaglen marchnata cymdeithasol" yn cwmpasu rhaglenni tymor hwy (3 blynedd), ymgyrchoedd tymor canolig (1-3 blynedd) a chynlluniau tymor byr (<1 flwyddyn) wedi'u targedu.
Rhanddeiliaid
Mae'r rhain yn cynnwys pawb sy'n gysylltiedig â'r strategaeth marchnata cymdeithasol, neu wedi'i heffeithio ganddi, a'r problemau mae'n ceisio'u datrys.
Partneriaid
Cydnabyddir bod rhaglenni marchnata cymdeithasol fel arfer yn cynnwys nifer o sefydliadau “partner” yn cydweithio’n agos.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a'i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html
Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf
Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf