Rheoli rhaglenni marchnata cymdeithasol a’u cynnal
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio, gweithredu, rheoli a chynnal rhaglenni marchnata cymdeithasol Mae'n weithgaredd cylchol, gyda sawl elfen yn cael ei hailadrodd, felly nid yw'r meini prawf o reidrwydd mewn trefn gronolegol. Er enghraifft, efallai bod angen adolygu eich cynlluniau gyda rhanddeiliaid allweddol ar ôl monitro'r canlyniadau. Ar ben hynny, mae rhaglenni marchnata cymdeithasol yn aml yn rhai parhaus ac yn weithdrefnau gwerthuso sy'n gallu symud ymlaen i'r cam nesaf, yn hytrach na diwedd y rhaglen.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli sy'n gyfrifol am reoli rhaglenni marchnata cymdeithasol a'u cynnal.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymgysylltu â'r grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol ym mhob cam o'r rhaglen marchnata cymdeithasol
- paratoi cynllun prosiect ar gyfer y rhaglen marchnata cymdeithasol
- pennu amcanion mesuradwy, cerrig milltir ac amserlenni gyda grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol a chytuno arnynt
- creu strategaeth marchnata cymdeithasol integredig a chymysg gan ystyried yr holl gyfarpar a damcaniaethau priodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth sydd eu hangen i ddylanwadu ar ymddygiad a ddymunir.
- cyfosod y dystiolaeth o'r ymchwil a'u troi'n gynlluniau cymell, atal ac ymyrryd
- myfyrio ar eich arferion eich hun o ran ansawdd yr ymchwil a'u gwerthuso
- gwerthuso patrymau cyfredol, datblygiadau ac effaith bosibl rhaglenni ac ymyriadau eraill
- cytuno ar rôl a chyfrifoldebau staff perthnasol a dyrannu adnoddau yn unol â chynllun y prosiect
- rhoi'r holl wybodaeth berthnasol a chefnogaeth i staff i'w galluogi i gyflawni eu cyfrifoldebau yn unol â chynllun y prosiect
- peilota'r rhaglen marchnata cymdeithasol a'i gwerthuso yn erbyn amcanion y cytunwyd arnynt
- cynnal asesiad risg a paratoi strategaeth liniaru er mwyn rheoli unrhyw effeithiau andwyol posibl
- nodi a datrys unrhyw broblemau posibl sy'n gysylltiedig â'r rhaglen marchnata cymdeithasol
- monitro'r rhaglen a'i gwerthuso yn erbyn y gweithgareddau a gynlluniwyd, yr amcanion, y gyllideb a'r risgiau a nodwyd
- cymryd y camau priodol mewn ymateb i gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg, bygythiadau neu os na chyflawnir yr amcanion
- monitro'r rhaglen, ei haddasu a'i hadolygu mewn cytundeb â'r grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
- gwerthuso canlyniadau'r rhaglen a'u cyflwyno i'r grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
- cyfosod y gwersi a ddysgwyd a'u cyfathrebu er mwyn argymell gweithgareddau yn y dyfodol
- nodi'r cyfleoedd i gynnal yr effaith wedi i'r rhaglen ddod i ben
- chwilio am ragor o gyfleoedd drwy'r perthnasoedd a sefydlwyd
- sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y rhanddeiliaid perthnasol, y grwpiau a dargedir, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
- y patrymau a'r datblygiadau yn y sector ar hyn o bryd ac sy'n dod i'r amlwg yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol
- y modelau marchnata cymysg sy'n addas ar gyfer marchnata cymdeithasol
- sut i baratoi cynllun y prosiect gydag amcanion y gellir eu mesur, cerrig milltir ac amserlenni
- y dystiolaeth o'r ymchwil a'u troi'n gynlluniau cymell, atal ac ymyrryd
- pwysigrwydd myfyrio a gwerthuso er mwyn gwella eich arferion eich hun
- sut i beilota'r rhaglen marchnata cymdeithasol sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt
- y gwerthoedd a'r genhadaeth a ddiffiniwyd ar gyfer y rhaglen marchnata cymdeithasol
- rôl a chyfrifoldebau staff perthnasol a sut y dyrennir adnoddau yn erbyn cynllun y prosiect
- yr egwyddorion, dulliau, cyfarpar a thechnegau perthnasol ar gyfer hysbysu ac adrodd yn ôl
- yr asesiad risg a'r strategaethau asesu risgiau
- y problemau posibl sy'n gysylltiedig â'r rhaglen marchnata cymdeithasol
- yr egwyddorion a'r technegau monitro a gwerthuso perthnasol ar gyfer y rhaglen marchnata cymdeithasol
- pa gamau priodol i'w cymryd mewn ymateb i gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg, bygythiadau neu os na chyflawnir yr amcanion
- dulliau cynnal cynaliadwyedd y rhaglen
- y gweithdrefnau adrodd perthnasol ar gyfer cyflwyno'r canlyniadau
- y gwersi a ddysgwyd a sut i greu rhagor o gyfleoedd ar sail y rhain
- y cyfleoedd i gynnal yr effaith wedi i'r rhaglen ddod i ben
- sut i adolygu'r rhaglen marchnata cymdeithasol a'i haddasu
- y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Fel y defnyddir yn y safonau, mae’r “rhaglen marchnata cymdeithasol” yn cwmpasu rhaglenni tymor hwy (3 blynedd), ymgyrchoedd tymor canolig (1-3 blynedd) a chynlluniau tymor byr (<1 flwyddyn) wedi'u targedu.
Rhanddeiliaid
Mae'r rhain yn cynnwys pawb sy'n gysylltiedig â'r strategaeth marchnata cymdeithasol, neu wedi'i heffeithio ganddi, a'r problemau mae'n ceisio'u datrys.
Risg
Mae hyn yn golygu'r posibilrwydd o ddigwyddiad yn cael ei gynnal a difrifoldeb goblygiadau'r digwyddiad hwn. Nid oes arwyddocâd negyddol yn gysylltiedig â 'risg' o reidrwydd; gall digwyddiad beri goblygiadau cadarnhaol a negyddol fel ei gilydd. Un o'r prif risgiau wrth gynnal gweithgaredd marchnata prawf yw bod newidiadau mewn ffactorau amgylcheddol eraill yn difetha'r canlyniadau.
Rheoli risg
Mae hyn yn cynnwys: asesu'r risgiau; cymryd camau unioni i osgoi digwyddiadau sy'n peri goblygiadau negyddol; cynllunio fel bod cyn lleied o oblygiadau negyddol â phosibl, a manteisio'n llawn ar gyfleoedd os bydd digwyddiadau.
Adnoddau
Mae hyn yn cynnwys rhai ffisegol (eiddo, cyfarpar, nwyddau traul, ynni); ariannol; dynol (boed am dâl neu'n ddi-dâl, mewnol neu allanol); gwybodaeth.
Cydnabyddir bod rhaglenni marchnata cymdeithasol fel arfer yn cynnwys nifer o sefydliadau "partner" yn cydweithio'n agos.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a'i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html
Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf
Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf