Datblygu strategaeth frandio ar gyfer rhaglenni marchnata cymdeithasol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu, datblygu a chynnal strategaeth frandio ar gyfer rhaglen marchnata cymdeithasol. Y brand a'i nodweddion yw'r sylfaen ar gyfer y berthynas a ddymunir gyda'r grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol. Nid esbonio sut i ddylunio symbolau posibl i gynrychioli'r brand yw diben y safon hon. Mae datblygu strategaeth brand yn weithgaredd cylchol, gyda sawl elfen yn cael ei hailadrodd, felly nid yw'r meini prawf perfformiad o reidrwydd mewn trefn gronolegol.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn swyddi strategol neu reoli sy'n gysylltiedig â chreu a datblygu strategaethau brandio er mwyn cefnogi rhaglen marchnata cymdeithasol. Gallai'r marchnatwyr hyn fod yn gweithio i'r sefydliad yn uniongyrchol neu i asiantaeth neu ymgynghoriaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu'r achos busnes er mwyn datblygu brand ar gyfer y rhaglen marchnata cymdeithasol
- datblygu a chyflwyno eich dadl er mwyn helpu i ddatblygu'r brand
- pennu'r amcanion a'r strategaeth ar gyfer y brandio a chytuno arnynt gyda'r grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
- ymgysylltu â'r grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol ym mhob cam wrth ddatblygu'r brand a'i roi ar waith
- paratoi a gweithredu'r strategaethau er mwyn sicrhau bod gwerthoedd y brand yn cael eu cyflwyno i'r cynulleidfaoedd perthnasol
- paratoi a gweithredu cynllun rheoli er mwyn sicrhau bod y brand yn cynnal enw da a delwedd gadarn
- dehongli'r dystiolaeth a'r canlyniadau a gynhyrchwyd yn yr ymchwil er mwyn cyflwyno cysyniad y brand a'i werthoedd
- adolygu brandiau cyfredol er mwyn gweld a oes brand tebyg yn bodoli eisoes
- datblygu enw'r brand a dylunio ei ddewisiadau yn unol â'r amcanion strategol
- cadarnhau nad yw enw'r brand yn torri rheolau hawlfraint neu'n cael ei gymysgu gyda brandiau eraill
- cadarnhau gyda'r grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid bod eich brand yn adnabyddadwy ac yn gofiadwy
- peilota'r brand er mwyn sicrhau bod grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol yn ei dderbyn
- trefnu i gofrestru nodau masnach lle bo angen
- sicrhau bod pob cydran yn y gymysgedd farchnata yn eu lle er mwyn cyflawni gwerthoedd y brand
- datblygu a gweithredu dull gwerthuso'r brand er mwyn monitro ei ddelwedd, perthnasedd, ymddiriedaeth a ffyddlondeb
- adolygu'r brand a'i ddatblygu mewn ymateb i adborth o weithdrefnau monitro a gwerthuso
- sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr achos busnes er mwyn datblygu brand ar gyfer y rhaglen marchnata cymdeithasol
- y rhesymeg y tu ôl i gefnogi datblygiad y brand
- y rhanddeiliaid perthnasol, y grwpiau a dargedir, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
- y patrymau a'r datblygiadau yn y sector ar hyn o bryd ac sy'n dod i'r amlwg yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol
- y modelau marchnata cymysg sy'n addas ar gyfer marchnata cymdeithasol
- sut i geisio cymeradwyaeth y grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol ar gyfer yr amcanion a'r strategaethau brandio
- yr egwyddorion, y dulliau, y cyfarpar a'r technegau perthnasol ar gyfer ymgysylltu â phartneriaid, rhanddeiliaid allweddol a grwpiau targed, gan gynnwys grwpiau agored i niwed ac anodd eu cyrraedd
- y technegau perthnasol er mwyn sicrhau bod y brand yn cynnal enw da a delwedd gadarn
- yr egwyddorion sy'n gysylltiedig â phennu cysyniad y brand, ei werthoedd a'i addewid
- cysylltiad y brand â'r grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
- sut i wneud yn siŵr nad yw'n dyblygu brand arall neu'n torri rheolau hawlfraint
- yr egwyddorion o sicrhau bod dyluniad y brand yn gyson ac yn cyd-fynd â'i ystyr a'i amcanion
- sut i dreialu'r brand er mwyn sicrhau bod yn dderbyniol ac yn adnabyddadwy
- y broses a'r gweithdrefnau ar gyfer cofrestru nod masnach
- y cydrannau marchnata cymysg ar gyfer y brand
- yr ymgysylltiad â'r grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol er mwyn cyflwyno'r brand
- y dulliau perthnasol ar gyfer gwerthuso'r brand er mwyn monitro ei ddelwedd, perthnasedd, ymddiriedaeth a ffyddlondeb
- pwysigrwydd cadw'n gyfredol gyda moeseg a chanllawiau arferion gorau sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- y gweithdrefnau monitro perthnasol ar ôl cael adborth gan grwpiau a dargedir, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
- y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Rhaglen marchnata cymdeithasol
Fel y defnyddir yn y safonau, mae'r "rhaglen marchnata cymdeithasol" yn cwmpasu rhaglenni tymor hwy (3 blynedd), ymgyrchoedd tymor canolig (1-3 blynedd) a chynlluniau tymor byr (<1 flwyddyn) wedi'u targedu.
Rhanddeiliaid
Mae'r rhain yn cynnwys pawb sy'n gysylltiedig â'r strategaeth marchnata cymdeithasol, neu wedi'i heffeithio ganddi, a'r problemau mae'n ceisio'u datrys.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a'i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html
Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf
Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf