Myfyrio ar egwyddorion arferion gorau ym maes marchnata cymdeithasol, eu datblygu a’u cymhwyso
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â myfyrio ar egwyddorion arferion gorau ym maes marchnata cymdeithasol, eu datblygu a'u cymhwyso, drwy eich wybodaeth am egwyddorion, damcaniaethau a thechnegau marchnata craidd er mwyn adolygu eich ymarfer eich yn hun yn sector a'u gwella.
Mae'r safon hon ar gyfer eich arferion proffesiynol ym mhob un o'r camau cynllunio, datblygu, cyflwyno a gwerthuso ac mewn amrywiaeth o weithgareddau marchnata cymdeithasol eraill. Mae'n bwysig dilyn y côd moesegol sy'n mynd i'r afael ag elfennau pwysig o'r fath megis bod yn ddi-duedd, parch, cynhwysedd, amrywiaeth, tegwch, tryloywder, dyletswydd a gofal, a gwasanaethau er lles y cyhoedd.
Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli sy'n myfyrio ar eu harferion, yn datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau, ac yn defnyddio egwyddorion arferion gorau yn eu gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- diffinio diben a manteision marchnata cymdeithasol mewn cysylltiad â dylanwadu ar ymddygiadau a newid cymdeithasol
- nodi'r cysyniadau, egwyddorion, damcaniaethau a dulliau ymchwil craidd mewn cysylltiad â dylanwadau ar newid cymdeithasol
- datblygu eich dealltwriaeth o gysyniadau ac egwyddorion craidd marchnata cymdeithasol a'u cymhwyso yng nghyd-destun rhaglenni marchnata cymdeithasol
- nodi'r patrymau a'r datblygiadau cyfredol ac sy'n dod i'r amlwg ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ym maes marchnata cymdeithasol
- mabwysiadu'r dull perthnasol yn unol ag arferion gorau ym maes marchnata cymdeithasol
- defnyddio cyfarpar sy'n seiliedig ar dystiolaeth i greu strategaethau marchnata cymdeithasol cymysg er mwyn dylanwadu ar newid ymddygiad
- cyfosod argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a'u defnyddio i lywio arferion marchnata cymdeithasol
- cymhwyso egwyddorion moesegol wrth gynnal ymchwil a datblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglenni marchnata cymdeithasol
- cymhwyso gwybodaeth, sgiliau ac egwyddorion arferion gorau mewn cysylltiad â gweithgareddau marchnata cymdeithasol
- nodi eich gwybodaeth, sgiliau ac arferion ym maes marchnata cymdeithasol a myfyrio arnynt yn feirniadol
- manteisio ar y cyfleoedd datblygu sydd eu hangen i gadw eich gwybodaeth, sgiliau ac arferion yn gyfredol
- asesu pa mor effeithiol mae'r cyfleoedd datblygu wedi bod wrth wella eich arferion
- myfyrio ar eich arferion yn barhaus a'u hadolygu yn seiliedig ar ddatblygiadau mewn damcaniaethau, cysyniadau, modelau a chyfarpar sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- rhannu tystiolaeth o arferion effeithiol ag ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes marchnata cymdeithasol
- ceisio adborth gan gydweithwyr, partneriaid neu randdeiliaid er mwyn myfyrio ar eich perfformiad a'i werthuso
- sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben a manteision marchnata cymdeithasol mewn cysylltiad â dylanwadu ar ymddygiadau a newid cymdeithasol
- cysyniadau, egwyddorion a damcaniaethau craidd marchnata cymdeithasol
- y patrymau a'r datblygiadau cyfredol ac sy'n dod i'r amlwg ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ym maes marchnata cymdeithasol
- sut i fabwysiadu'r dull perthnasol yn unol ag arferion gorau ym maes marchnata cymdeithasol
- yr amrywiaeth o gyfarpar sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer creu strategaeth marchnata cymdeithasol cymysg er mwyn dylanwadu ar newid ymddygiad
- yr argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer llywio arferion marchnata cymdeithasol
- yr egwyddorion moesegol, y cysyniadau, y damcaniaethau a'r technegau mewn cysylltiad ag ymchwil a datblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglenni marchnata cymdeithasol
- y wybodaeth, y sgiliau a'r egwyddorion arferion gorau mewn cysylltiad â gweithgareddau marchnata cymdeithasol
- sut i nodi eich gwybodaeth, sgiliau ac arferion ym maes cymdeithasol a myfyrio arnynt yn feirniadol
- sut i asesu'r cyfleoedd datblygu er mwyn gwella eich arferion, gwybodaeth a sgiliau
- sut i rannu tystiolaeth o arferion effeithiol ag ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol eraill
- sut i gadw eich gwybodaeth, sgiliau ac arferion yn gyfredol
- pwysigrwydd myfyrio ar eich arferion yn barhaus a'i adolygu yn seiliedig ar ddatblygiadau mewn damcaniaethau, cysyniadau, modelau a chyfarpar sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- eich technegau gwerthuso eich perfformiad eich hun a'r dulliau a ddefnyddir i gael adborth amdano
- y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata
Cymdeithasol a ddatblygwyd a’i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata
Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA),
Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM).
Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf
Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf