Datblygu strategaethau cyfathrebu a marchnata eraill er mwyn cefnogi rhaglenni marchnata cymdeithasol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu dulliau cyfathrebu a strategaethau marchnata eraill drwy weithgareddau perthnasol er mwyn ategu rhaglenni marchnata cymdeithasol. Mae'n weithgaredd cylchol, gyda sawl elfen yn cael ei hailadrodd, felly nid yw'r meini prawf o reidrwydd mewn trefn gronolegol. Er enghraifft, efallai bydd angen adolygu pob elfen o ymyriadau gyda grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol ar ôl monitro eu heffeithiolrwydd.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli sy'n gyfrifol am reoli gweithgareddau mewn cysylltiad â datblygu dulliau cyfathrebu a strategaethau marchnata eraill er mwyn ategu rhaglenni marchnata cymdeithasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- creu strategaeth marchnata cymdeithasol integredig a chymysg gan ystyried yr holl gyfarpar a damcaniaethau priodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth sydd eu hangen i ddylanwadu ar ymddygiad a ddymunir.
- datblygu'r dulliau cyfathrebu a'r holl strategaethau eraill yn unol ag amcanion y rhaglen marchnata cymdeithasol
- sicrhau bod y dulliau cyfathrebu perthnasol a gweithgareddau eraill yn cael eu cynnal yn unol â gwerthoedd ac amcanion y rhaglen
- rhoi'r dulliau cyfathrebu a strategaethau perthnasol eraill ar waith, cytuno ar rôl a chyfrifoldebau priodol grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
- ymgysylltu â grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol drwy gyfathrebu a gweithgareddau perthnasol eraill a ddiffinnir gan y rhaglen marchnata cymdeithasol
- datblygu amrywiaeth y dulliau cyfathrebu a dulliau perthnasol eraill fydd yn hwyluso ymgysylltiad â gwahanol grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
- nodi'r prif negeseuon ar gyfer gwahanol grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
- sicrhau bod y staff perthnasol yn cyflawni eu cyfrifoldebau yn unol ag elfennau cyfathrebu a thactegau gweithredu perthnasol eraill
- cydlynu dulliau cyfathrebu a gweithgareddau perthnasol eraill yn rhan o'r strategaeth marchnata cymdeithasol
- monitro a gwerthuso dulliau cyfathrebu a gweithgareddau perthnasol eraill yn rheolaidd
- rheoli dulliau cyfathrebu uniongyrchol ac anuniongyrchol ac ymyriadau perthnasol eraill drwy sgyrsiau anffurfiol, a digwyddiadau a drefnwyd yn arbennig
- cymryd camau os na chedwir at ddulliau cyfathrebu ac elfennau marchnata perthnasol eraill neu os na chyflawnir yr amcanion
- nodi'r cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg ac ymateb iddynt
- cyflwyno canlyniadau'r dulliau cyfathrebu a gweithgareddau perthnasol eraill a ddysgwyd i'r grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
- myfyrio'n feirniadol a phrofi effeithiolrwydd, derbynioldeb a moeseg strategaethau marchnata cymdeithasol posibl gyda grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol, a'u haddasu os oes angen
- sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y strategaeth marchnata cymdeithasol integredig a chymysg gan ystyried yr holl gyfarpar a damcaniaethau priodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth sydd eu hangen i ddylanwadu ar ymddygiad a ddymunir.
- y dulliau cyfathrebu a'r gweithgareddau perthnasol eraill a'r amcanion cysylltiedig mewn perthynas â'r strategaethau marchnata cymdeithasol
- y rhanddeiliaid perthnasol, y grwpiau a dargedir, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
- yr egwyddorion, y dulliau, y cyfarpar a'r technegau perthnasol ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a grwpiau targed, gan gynnwys grwpiau agored i niwed ac anodd eu cyrraedd
- y patrymau a'r datblygiadau yn y sector ar hyn o bryd ac sy'n dod i'r amlwg yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol
- sut i ddatblygu dulliau cyfathrebu a strategaethau perthnasol eraill er mwyn llywio'r rhaglen marchnata cymdeithasol
- amrywiaeth y dulliau cyfathrebu a'r mathau eraill o ddulliau, arddull ac iaith y gellir eu defnyddio gyda grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid
- y sianelau cyfryngau cymdeithasol perthnasol sy'n hysbysebu ac yn cyfathrebu â grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
- y rôl a'r cyfrifoldebau a ddyrennir mewn cysylltiad â chyfathrebu a strategaethau perthnasol eraill
- y technegau monitro a gwerthuso perthnasol ar gyfer elfennau cyfathrebu a rhai eraill perthnasol
- y dulliau cyfathrebu uniongyrchol ac anuniongyrchol drwy sgyrsiau anffurfiol, a digwyddiadau a drefnwyd yn arbennig
- pa gamau i'w cymryd os na chaiff amcanion y rhaglen eu cyflawni neu os na chedwir at elfennau cyfathrebu ac elfennau eraill perthnasol
- y gweithdrefnau adrodd perthnasol ar gyfer canlyniadau gweithgareddau cyfathrebu a rhai eraill perthnasol a'r gwersi a ddysgwyd
- sut i nodi'r cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg a'u cyfosod
- sut i fyfyrio'n feirniadol a phrofi effeithiolrwydd, derbynioldeb a moeseg strategaethau marchnata cymdeithasol posibl gyda grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
- y gofynion cyfreithiol,
trefniadol, y côd ymarfer a’r polisïau sy’n berthnasol i’ch rôl, eich sefydliad
a’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Rhaglen marchnata cymdeithasol
Fel y defnyddir yn y safonau, mae'r "rhaglen marchnata cymdeithasol" yn cwmpasu rhaglenni tymor hwy (3 blynedd), ymgyrchoedd tymor canolig (1-3 blynedd) a chynlluniau tymor byr (<1 flwyddyn) wedi'u targedu.
Cydnabyddir bod rhaglenni marchnata cymdeithasol fel arfer yn cynnwys nifer o sefydliadau "partner" yn cydweithio'n agos.
Rhanddeiliaid
Mae'r rhain yn cynnwys pawb sy'n gysylltiedig â'r strategaeth marchnata cymdeithasol, neu wedi'i heffeithio ganddi, a'r problemau mae'n ceisio'u datrys.
Iaith
Mae dau ystyr i hyn: iaith ffurfiol (fel Cymraeg, Saesneg, Wrdw, ac ati) ac iaith anffurfiol (h.y. geirfa, cystrawen a dywediadau priodol i'w defnyddio gyda grŵp targed penodol).
Dulliau cyfathrebu
Mae'r rhain yn cynnwys: geiriau llafar, geiriau printiedig, platfformau a sianelau cyfryngau cymdeithasol, iaith arwyddion, Braille, ac ati.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a'i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html
Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf
Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf