Gwerthuso perfformiad a deilliannau strategaethau marchnata cymdeithasol ac adrodd amdanynt
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwerthuso perfformiad a deilliannau strategaethau marchnata cymdeithasol sefydliad neu bartneriaeth ac adrodd amdanynt. Mae'n weithgaredd cylchol gyda sawl elfen yn cael ei hailadrodd, felly nid yw'r safonau o reidrwydd mewn trefn gronolegol. Er enghraifft, efallai bod angen adolygu a gwerthuso strategaethau sy'n bodoli eisoes, cyn creu rhai newydd.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn swyddi strategol sy'n gwerthuso perfformiad a deilliannau strategaethau marchnata cymdeithasol ac adrodd amdanynt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dylunio a gweithredu strategaeth a chynllun gwerthuso, gan gynnwys system monitro i wneud yn siŵr bod rhaglenni ar y trywydd cywir i gyflawni nodau a bodloni safonau y cytunwyd arnynt o ran ansawdd ac effeithlonrwydd
- cytuno ar fframwaith monitro a gwerthuso ar gyfer y strategaethau marchnata cymdeithasol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol
- nodi a chytuno ar amcanion, cyllideb ac adnoddau ar gyfer gwerthuso rhaglen marchnata cymdeithasol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol
- nodi'r dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) ar gyfer monitro cynnydd ac effaith
- datblygu dulliau gwerthuso'r broses er mwyn monitro gweithgareddau a chanlyniadau yn erbyn yr amcanion
- nodi'r dulliau, y cyfarpar a'r technegau ar gyfer casglu data a gwybodaeth a'i dadansoddi
- gwerthuso pa mor ddas a dibynadwy yw canfyddiadau'r ymchwil
- cynnal dadansoddiad ystadegol ac ansoddol o ddata a chanfyddiadau drwy ddefnyddio'r dulliau perthnasol
- monitro cynnydd ac effaith y rhaglen marchnata cymdeithasol yn erbyn canfyddiadau'r ymchwil
- rhoi adborth er mwyn helpu i reoli'r prosiect a'r staff cyflwyno i benderfynu ar sut i wneud y defnydd gorau o'r canfyddiadau
- datblygu'r dulliau perthnasol o ddylanwadu ar y grwpiau targed ac atgyfnerthu ymddygiadau buddiol
- monitro'r strategaeth er mwyn pennu gweithgareddau pellach neu ddod â'r rhain i ben
- mesur effaith y strategaeth, gan nodi cyfraniad y rhaglen marchnata cymdeithasol
- myfyrio'n feirniadol a phrofi effeithiolrwydd, derbynioldeb a moeseg strategaethau marchnata cymdeithasol posibl gyda phartneriaid a rhanddeiliaid, a'u haddasu os oes angen
- dogfennu canlyniadau cynlluniau marchnata cymdeithasol a'u cyflwyno i grwpiau targed, gyda phartneriaid a rhanddeiliaid
- ceisio adborth ar gynnwys a fformat yr adroddiad gan randdeiliaid perthnasol a gwneud newidiadau lle bo'n briodol
- cymhwyso egwyddorion moesegol wrth gynnal ymchwil a datblygu, gweithredu a gwerthuso cynllun ymchwil marchnata
- sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y fframwaith monitro a gwerthuso ar gyfer y strategaethau a'r cynlluniau marchnata cymdeithasol
- y rhanddeiliaid perthnasol, y grwpiau a dargedir, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
- yr amcanion perthnasol a'r dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) ar gyfer monitro cynnydd ac effaith strategaethau marchnata cymdeithasol
- y patrymau a'r datblygiadau yn y sector ar hyn o bryd ac sy'n dod i'r amlwg yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol
- y modelau marchnata cymysg sy'n addas ar gyfer marchnata cymdeithasol
- y dulliau, y cyfarpar a'r technegau ar gyfer casglu, dadansoddi a gwerthuso data a gwybodaeth
- sut i werthuso pa mor addas a dibynadwy yw canfyddiadau'r ymchwil
- y dulliau perthnasol o gynnal dadansoddiad ystadegol ac ansoddol
- egwyddorion hysbysu ac adrodd yn ôl ar y canfyddiadau ar gyfer camau pellach
- y dulliau perthnasol o ddylanwadu ar y grwpiau targed ac atgyfnerthu ymddygiad buddiol
- y penderfyniadau a'r camau sy'n deillio o ddeilliannau'r strategaethau
- yr egwyddorion ar gyfer mesur effaith y strategaeth er mwyn nodi cyfraniad y rhaglen marchnata cymdeithasol
- pwysigrwydd myfyrio a gwerthuso er mwyn gwella eich arferion eich hun
- y dulliau ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol er mwyn cael eu hadborth ar ganfyddiadau'r ymchwil
- y fformatau a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer adrodd
- sut i gymryd camau ar sail yr adborth am berfformiad a deilliannau strategaethau marchnata cymdeithasol
- egwyddorion moesegol o gynnal ymchwil a datblygu, gweithredu a gwerthuso cynllun ymchwil marchnata
- y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Rhanddeiliaid
Mae'r rhain yn cynnwys pawb sy'n gysylltiedig â'r strategaeth marchnata cymdeithasol, neu wedi'i heffeithio ganddi, a'r problemau mae'n ceisio'u datrys.
Fel y defnyddir yn y safonau, mae'r "rhaglen marchnata cymdeithasol" yn cwmpasu rhaglenni tymor hwy (3 blynedd), ymgyrchoedd tymor canolig (1-3 blynedd) a chynlluniau tymor byr (<1 flwyddyn) wedi'u targedu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a'i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html
Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf
Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf