Sefydlu strategaethau a chynlluniau gweithredu er mwyn cyflawni nodau marchnata cymdeithasol
Trosolwg
Mae'r strategaeth hon yn ymwneud â sefydlu strategaethau a chynlluniau gweithredu er mwyn cyflawni nodau marchnata cymdeithasol. Mae'n weithgaredd cylchol gyda sawl elfen yn cael ei hailadrodd, felly nid yw'r meini prawf o reidrwydd mewn trefn gronolegol. Er enghraifft, efallai bod angen adolygu a gwerthuso strategaethau sy'n bodoli eisoes, cyn creu rhai newydd.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli sy'n arwain ar ran sefydliad neu bartneriaeth er mwyn diffinio a chael cytundeb ar nodau marchnata cymdeithasol a'r strategaeth er mwyn eu cyflawni.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a defnyddio damcaniaethau, modelau ac ymchwil berthnasol am farchnata cymdeithasol, ymddygiad, cyfnewid a gwyddorau cymdeithasol er mwyn llywio'r gwaith o lunio cynllun marchnata cymdeithasol strategol.
- nodi a dadansoddi'r materion strategol, amcanion polisïau a'r heriau ymddygiadol y bydd y rhaglenni marchnata cymdeithasol yn mynd i'r afael â nhw
- cymhwyso egwyddorion moesegol wrth gynnal ymchwil a datblygu, gweithredu a gwerthuso cynllun ymchwil marchnata
- nodi rhanddeiliaid ac ymgysylltu â nhw a'u diddordebau mewn cysylltiad â'r materion, amcanion polisïau a heriau ymddygiadol
- paratoi nodau marchnata cymdeithasol a chytuno ar y rhain gyda rhanddeiliaid allweddol
- ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a grwpiau targed sydd wedi'u heffeithio gan y materion a'r heriau ymddygiadol
- cytuno ar y gwerthoedd craidd sy'n sail ar gyfer y strategaethau marchnata cymdeithasol gyda'r rhanddeiliaid allweddol a sut i fynegi'r gwerthoedd hyn drwy frand cydlynol
- dylunio a gweithredu cynllun gwerthuso, gan gynnwys system monitro i wneud yn siŵr bod rhaglenni ar y trywydd cywir i gyflawni nodau a bodloni safonau y cytunwyd arnynt o ran ansawdd ac effeithlonrwydd
- creu strategaethau a chynlluniau gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn cyflawni nodau marchnata cymdeithasol
- cael cefnogaeth a chymeradwyaeth rhanddeiliaid allweddol ar gyfer strategaethau marchnata cymdeithasol a chynlluniau gweithredu
- cynnal asesiadau risg o'ch strategaethau er mwyn lleihau unrhyw effeithiau andwyol ac ystyried effeithiau posibl
- nodi'r adnoddau sydd eu hangen a'u defnyddio ar gyfer y strategaethau marchnata cymdeithasol a chynlluniau gweithredu
- dyrannu cyfrifoldebau ac adnoddau, cydlynu a monitro gweithgareddau er mwyn rhoi'r strategaethau ar waith
- nodi a diffinio'r prif gynulleidfaoedd targed a'r cynulleidfaoedd targed eilaidd
- adolygu'r strategaethau er mwyn nodi ffactorau a allai effeithio ar nodau marchnata cymdeithasol neu gystadlu â nhw
- gwerthuso'r dystiolaeth o ymchwil marchnata cymdeithasol sy'n berthnasol i'r grwpiau targed, ymyriadau neu weithgareddau perthnasol eraill
- nodi unrhyw rwystrau cyfreithiol, sefydliadol a phroffesiynol a allai arwain neu addasu'r gwaith o greu nodau marchnata cymdeithasol neu gyfyngu arnynt
- ystyried unrhyw ystyriaethau moesegol mewn cysylltiad â nodau marchnata cymdeithasol a'u datrys gyda rhanddeiliaid allweddol
- monitro a gwerthuso'r strategaethau yn erbyn nodau marchnata cymdeithasol
- peilota ac adolygu'r strategaethau marchnata cymdeithasol a chynlluniau gweithredu
- sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y damcaniaethau, modelau ac ymchwil berthnasol am farchnata cymdeithasol, ymddygiad, cyfnewid a gwyddorau cymdeithasol sy'n llywio'r gwaith o ddatblygu cynlluniau marchnata cymdeithasol strategol.
- y materion strategol, amcanion polisïau a'r heriau ymddygiadol y bydd y rhaglenni marchnata cymdeithasol yn mynd i'r afael â nhw
- yr egwyddorion moesegol o gynnal ymchwil a datblygu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau ymchwil marchnata
- y patrymau a'r datblygiadau yn y sector ar hyn o bryd ac sy'n dod i'r amlwg yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol
- yr egwyddorion, y dulliau, y cyfarpar a'r technegau perthnasol ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a grwpiau targed, gan gynnwys grwpiau agored i niwed ac anodd eu cyrraedd
- y dulliau datblygu nodau marchnata cymdeithasol
- y rhanddeiliaid perthnasol, y grwpiau a dargedir, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
- sut i feithrin gwerthoedd craidd ar gyfer y strategaeth gymdeithasol a'u mynegi drwy'r brand cydlynol
- technegau monitro a gwerthuso'r strategaeth yn erbyn y nodau marchnata
- y strategaethau a'r cynlluniau gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n ategu'r nodau marchnata cymdeithasol
- y modelau marchnata cymysg sy'n addas ar gyfer marchnata cymdeithasol
- sut i gael cefnogaeth a chymeradwyaeth rhanddeiliaid ar gyfer strategaethau marchnata cymdeithasol a'r cynlluniau gweithredu
- egwyddorion asesu risg a strategaethau lliniaru perthnasol fel bod cyn lleied o effeithiau andwyol â phosibl
- yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y strategaethau marchnata cymdeithasol a chynlluniau gweithredu
- sut i gydlynu a monitro gweithgareddau marchnata cymdeithasol er mwyn rhoi'r strategaethau ar waith
- ffynonellau'r prif gynulleidfaoedd targed a'r cynulleidfaoedd targed eilaidd
- y ffactorau a allai effeithio ar y nodau marchnata cymdeithasol
- sut i werthuso'r dystiolaeth o ymchwil marchnata cymdeithasol ac effaith bosibl ymyriadau, rhaglenni a gweithgareddau eraill
- y cyfyngiadau cyfreithiol, sefydliadol a phroffesiynol sy'n dylanwadu ar y nodau marchnata cymdeithasol neu'n effeithio arnynt
- yr ystyriaethau perthnasol mewn cysylltiad â nodau marchnata cymdeithasol a sut i ddatrys y rhain gyda rhanddeiliaid allweddol
- pam mae'n bwysig adolygu'r strategaethau marchnata cymdeithasol a chynlluniau gweithredu
- y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Adnoddau
Mae'r rhain yn cynnwys: ffisegol (eiddo, cyfarpar, nwyddau traul, ynni); ariannol; dynol (boed am dâl neu'n ddi-dâl, mewnol neu allanol); cynlluniau gwybodaeth.
Rhanddeiliaid
Mae'r rhain yn cynnwys pawb sy'n gysylltiedig â'r strategaeth marchnata cymdeithasol, neu wedi'i heffeithio ganddi, a'r problemau mae'n ceisio'u datrys.
Partneriaeth
Cydnabyddir bod strategaeth marchnata cymdeithasol fel arfer yn cynnwys nifer o sefydliadau'n cydweithio neu mewn 'partneriaeth'.
Adolygu nodau marchnata cymdeithasol
Gellir gwneud y rhain drwy ddefnyddio PESTLE (dadansoddiad o ffactorau Gwleidyddol, Economaidd, Cymdeithasiol, Technolegol, Cyfdreithiol ac Amgylcheddol), SWOT (dadansoddiad o Gryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd neu Fygythiadau) neu dechnegau tebyg.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a'i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html
Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf
Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf