Dadansoddi, dehongli a chyfosod data a chanfyddiadau ymchwil er mwyn llywio strategaethau marchnata cymdeithasol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dadansoddi, dehongli a chyfosod data a chanfyddiadau ymchwil er mwyn llywio strategaethau yng nghyd-destun marchnata cymdeithasol. Gellir cynnal y gweithgaredd hwn ar unrhyw adeg yn ystod y rhaglen marchnata cymdeithasol:
- ar y dechrau er mwyn diffinio nodau a dulliau strategol;
 yn ystod y rhaglen er mwyn monitro cynnydd a llywio newidiadau i'r strategaeth; neu;
ar y diwedd er mwyn gwerthuso'r canlyniadau, nodi'r gwersi a ddysgwyd a'u rhannu.
Mae'r safon hon ar gyfer ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli sy'n dadansoddi, dehongli a chyfosod data a chanfyddiadau ymchwil er mwyn llywio strategaethau marchnata cymdeithasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu pwrpas, cwmpas ac adnoddau ar gyfer dehongli a chyfosod y dadansoddiad, a chytuno ar y rhain gyda'r rhanddeiliaid allweddol
 - y rhanddeiliaid perthnasol, y grwpiau a dargedir, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
 - cadarnhau'r amserlen a'r fformatau ar gyfer y dadansoddiad a'r dehongliadau i'w cyflwyno
 - nodi'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer dadansoddi, dehongli a chyfosod
 - nodi'r data a'r canfyddiadau ymchwil sy'n berthnasol i ddiben y dadansoddiad a chael gafael arnynt
 - nodi'r dulliau. y cyfarpar a'r technegau ar gyfer dadansoddi, dehongli a chyfosod, a gwerthuso pa mor addas a dibynadwy yw'r rhain
 - defnyddio'r dulliau, y cyfarpar a'r technegau perthnasol er mwyn dadansoddi'r canfyddiadau ymchwil i ddatblygu dealltwriaeth o'r meysydd o ddiddordeb a gwybodaeth amdanynt
 - rhoi dehongliadau o'r dadansoddiad sy'n cofnodi'r wybodaeth a'r meysydd lle na lwyddodd y canfyddiadau ymchwil i gyflawni deilliant
 - ailadrodd rhwng dadansoddi a dehongli er mwyn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o'r deilliannau ymchwil
 - ymgysylltu â'r grwpiau targed a'r rhanddeiliaid allweddol er mwyn profi eich dadansoddiad a'ch dehongliadau, gan sicrhau bod y grwpiau agored i niwed ac anodd eu cyrraedd wedi'u cynnwys
 - dylunio a chynnal dadansoddiad sefyllfaol ac ymchwil ffurfiannol, gan ddefnyddio dulliau cymysg
 - deall beth sy'n rhwystro neu'n galluogi'r gynulleidfa, yn ogystal â'r gwahanol ymddygiadau a'r hyn sy'n dylanwadu arnynt yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol
 - cymharu eich dehongliadau â'r hyn y mae cydweithwyr wedi'i gynhyrchu mewn meysydd gwaith tebyg
 - nodi unrhyw anawsterau wrth gynnal y dadansoddiad a chymryd camau i fynd i'r afael â'r rhain
 - cofnodi eich dadansoddiad a'ch dehongliadau yn y fformat sy'n hwyluso'r dibenion y cytunwyd arnynt
 - myfyrio ar eich arferion eich hun o ran ansawdd yr ymchwil a'u gwerthuso
 - asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â thybiaethau sy'n sail ar gyfer eich dadansoddiad a'ch dehongliadau
 - cyflwyno eich dadansoddiad a'ch dehongliadau yn y fformat ac o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt, gan barchu cyfrinachedd a sensitifrwydd gwybodaeth
 - sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y pwrpas, y cwmpas a'r adnoddau ar gyfer dehongli'r dadansoddiad a chyfosod y rhaglen ymchwil
 - y patrymau a'r datblygiadau yn y sector ar hyn o bryd ac sy'n dod i'r amlwg yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol
 - y fformatau a'r amserlenni perthnasol ar gyfer cyflwyno dadansoddiad a dehongliadau'r ymchwil
 - yr adnoddau data perthnasol ar gyfer dadansoddi, dehongli a chyfosod
 - y grwpiau targed, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'u dewisiadau amrywiol
 - yr egwyddorion, dulliau, cyfarpar a'r technegau ar gyfer dadansoddi, dehongli a chyfosod data a chanfyddiadau ymchwil
 - sut i gofnodi'r hyn a ddysgir yn y dadansoddiad a'r dehongliadau
 - y modelau marchnata cymysg sy'n addas ar gyfer marchnata cymdeithasol
 - gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd i'r afael ag anawsterau wrth gyfosod, dadansoddi neu ddehongli
 - pam mae'n bwysig profi'r canlyniadau neu eich dadansoddiad a'ch dehongliadau drwy ymgysylltu a'r grwpiau targed a'r rhanddeiliaid allweddol
 - sut i drin gwybodaeth sensitif a chyfrinachol a'r gofynion sefydliadol ar gyfer defnyddio gwybodaeth sensitif a chyfrinachol
 - asesu risgiau'r tybiaethau sy'n sail ar gyfer eich dadansoddiad a'ch dehongliadau
 - pwysigrwydd myfyrio a gwerthuso er mwyn gwella eich arferion eich hun
 - y dulliau dilysu a gwerthuso perthnasol o ddehongliadau yn erbyn gofynion y rhaglen
 - sut i sicrhau bod canfyddiadau'r ymchwil yn cyd-fynd â diben a chwmpas y rhaglen ymchwil
 - y gweithdrefnau adrodd perthnasol ar gyfer y canfyddiadau ymchwil er mwyn llywio'r strategaethau marchnata cymdeithasol
 - yr egwyddorion marchnata cymdeithasol, egwyddorion, cysyniadau, damcaniaethau a thechnegau moesegol
 - y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
 
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Data
Mae hyn yn golygu ffeithiau craidd sydd heb eu dehongli mewn unrhyw ffordd i roi ystyr iddynt.
Canfyddiadau ymchwil
Mae hyn yn golygu troi deilliannau ymchwil yn ddamcaniaethau a thystiolaeth o beth sy'n ysgogi, rhwystro ac yn dylanwadu ar ymddygiadau penodol ymysg y grwpiau targed a ddiffiniwyd. Fel y defnyddir yn y safonau, mae'r "rhaglen marchnata cymdeithasol" yn cwmpasu rhaglenni tymor hwy (3 blynedd), ymgyrchoedd tymor canolig (1-3 blynedd) a chynlluniau tymor byr (<1 flwyddyn) wedi'u targedu.
Dulliau ymchwilio
Gall y rhain fod yn ansoddol (e.e. grwpiau ffocws, cyfweliadau), meintiol (e.e. arbrofion, arolygon), neu gall dyluniad y rhain fod yn gymysg ac yn cyfuno dulliau ansoddol a meintiol fel ei gilydd. Mae dyluniadau sy'n cynnwys dulliau cymysg yn cynnig dull trylwyr o ateb cwestiynau ymchwil i ymchwilwyr.
Diben
Dyma'r rheswm pam mae'r ymchwil yn cael ei chynnal. Cewch hyd i'r diben drwy ofyn: pa benderfyniadau mae'r ymchwil yn ceisio eu llywio?
Cwmpas
Mae hyn yn cynnwys y grwpiau targed a'r ymddygiadau yr ydych am fynd i'r afael â nhw
Adnoddau
Mae hyn yn cynnwys: ffisegol (eiddo, cyfarpar, nwyddau traul, ynni); ariannol; dynol (boed am dâl neu'n ddi-dâl, mewnol neu allanol); gwybodaeth
Rhanddeiliaid
Mae'r rhain yn cynnwys pawb sy'n gysylltiedig â'r strategaeth marchnata cymdeithasol, neu wedi'i heffeithio ganddi, a'r problemau mae'n ceisio'u datrys.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a'i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html
Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf
Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf