Datblygu, rheoli a gwerthuso rhaglenni ymchwil ym maes marchnata cymdeithasol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu, rheoli a gwerthuso rhaglenni ymchwil ym maes marchnata cymdeithasol sy'n ceisio cynnig dealltwriaeth o ffyrdd o fyw, ymddygiadau, agweddau a chredoau grwpiau targed. Dylai'r rhaglen marchnata cymdeithasol gael ei hategu gan ddamcaniaethau perthnasol a thystiolaeth am yr hyn sy'n dylanwadu ar ymddygiad y grwpiau targed ac ymyriadau a allai ddylanwadu ar y newid er gwell.
Nod yr ymchwil yw nodi'r materion i fynd i'r afael â nhw, beth allai gymell ymddygiadau'r grwpiau targed, beth allai atal camau gweithredu a pha ymyriadau allai gyflawni'r newid a'i gynnal. Mae hyn yn cynnwys diffinio'r broblem, cynllunio, dyrannu adnoddau ac asedion, gwerthfawrogi cyd-greu drwy gydweithio ac ymgysylltu, cydlynu a gwerthuso gweithgareddau ymchwil fydd yn llywio strategaethau marchnata cymdeithasol.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli rhaglenni ymchwil sy'n llywio strategaethau marchnata cymdeithasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- llunio cynllun prosiect sy'n rhoi diben, cwmpas, amcanion a cherrig milltir i'r rhaglen ymchwil
- nodi a chadarnhau'r cwestiynau pwysig i'w hateb gan yr ymchwil
- ymchwilio i gwmpas a dimensiynau'r broblem gymdeithasol o dan sylw
- cytuno ar gynllun y prosiect gyda rhanddeiliaid allweddol a dyrannu adnoddau ar gyfer yr ymchwil
- sefydlu dulliau ymgysylltu â'r grwpiau a dargedir, partneriaid a'r rhanddeiliaid allweddol, gan sicrhau bod grwpiau agored i niwed ac anodd eu cyrraedd wedi'u cynnwys
- sefydlu'r dulliau, cyfarpar a'r technegau i'w defnyddio ar gyfer yr ymchwil a gwerthuso pa mor addas a dibynadwy yw'r rhain
- cynnal asesiad risg ar gyfer eich prosiect a chadarnhau'r camau unioni er mwyn lliniaru'r risgiau
- hysbysu'r ymchwilwyr er mwyn sicrhau eu bod yn deall diben, cwmpas, eu rôl, cyfrifoldebau a'r dulliau ar gyfer y rhaglen ymchwil
- disgrifio marchnata cymdeithasol i gydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill a nodi sut mae'n wahanol i ddulliau eraill sy'n dylanwadu ar ymddygiadau a newid cymdeithasol
- cynnal ymchwil sylfaenol ac eilaidd er mwyn cyfosod y wybodaeth berthnasol ar gyfer eich rhaglen.
- nodi'r amrediad o ffactorau a allai ddylanwadu ar ymddygiadau yn ogystal â chredoau, gwerthoedd ac agweddau'r grwpiau targed a ddiffiniwyd
nodi'r damcaniaethau perthnasol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a allai egluro beth sy'n cymell ac yn atal mathau penodol o ymddygiadau ymhlith y grwpiau targed
- gwerthuso arwyddocâd a pherthnasedd gwahanol ddamcaniaethau a thystiolaeth o ymyriadau sy'n llywio strategaethau marchnata cymdeithasol
- nodi unrhyw broblemau, bylchau neu ddiffygiadau sy'n deillio o'r rhaglen ymchwil a chymryd camau i fynd i'r afael â'r rhain
- nodi'r ymyriadau perthnasol a gwerthuso eu heffeithiolrwydd o ran dylanwadu ar ymddygiadau'r grwpiau targed cymaradwy
- monitro cynnydd y rhaglen ymchwil, a rhoi unrhyw ganllawiau neu gefnogaeth sydd eu hangen ar ymchwilwyr i gyflawni'r canlyniadau disgwyliedig
- diffinio'r dulliau a'r technegau gwerthuso perthnasol er mwyn sicrhau bod yr ymchwil yn addas i'r diben
- myfyrio ar eich arferion eich hun o ran ansawdd yr ymchwil a'u gwerthuso
- cymhwyso egwyddorion moesegol wrth gynnal ymchwil a datblygu, gweithredu a gwerthuso cynllun ymchwil marchnata
- cyflwyno amcanion yr ymchwil i randdeiliaid allweddol mewn dull y cytunwyd arno gyda dehongliad ac esboniad manwl, a pharchu cyfrinachedd a sensitifrwydd y canlyniadau
- crynhoi'r gwersi a ddysgwyd er mwyn diffinio dulliau ar gyfer cyfleoedd ychwanegol
- sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i lunio cynllun prosiect i gefnogi rhaglen yr ymchwil
- sut i ddiffinio diben, cwmpas, amcanion ac adnoddau rhaglen yr ymchwil
- dulliau a thechnegau ymchwil perthnasol ar gyfer cynnal yr ymchwil er mwyn nodi cwmpas y broblem gymdeithasol
- sut i bennu amcanion ymchwil y gellir eu mesur a sicrhau bod yr ymchwilwyr yn cadw atynt
- sut i ymgysylltu â'r grwpiau a dargedir, partneriaid a'r rhanddeiliaid allweddol, gan sicrhau bod grwpiau agored i niwed ac anodd eu cyrraedd wedi'u cynnwys
- y rhanddeiliaid perthnasol, y grwpiau a dargedir, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
- yr egwyddorion perthnasol sy'n gysylltiedig â rheoli prosiectau o ran ymchwil marchnata cymdeithasol
- y dulliau a'r technegau perthnasol o asesu risgiau a'r camau unioni er mwyn lliniaru'r risgiau
- yr egwyddorion perthnasol ar gyfer hysbysu ac adrodd yn ôl
- y dull ymchwil perthnasol a ddefnyddir mewn ymchwil sylfaenol ac eilaidd
- yr amrediad o ffactorau a allai ddylanwadu ar ymddygiadau yn ogystal â chredoau, gwerthoedd ac agweddau'r grwpiau targed a ddiffiniwyd
- y dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd o'r hyn sy'n cymell ac yn rhwystro mewn cysylltiad ag ymddygiadau a dargedir, gan gynnwys bylchau a diffygion
- sut i asesu arwyddocâd a pherthnasedd gwahanol ddamcaniaethau a thystiolaeth o ymyriadau sy'n llywio strategaethau marchnata cymdeithasol
- yr ymyriadau perthnasol sy'n dylanwadu ar ymddygiadau'r grwpiau targed cymaradwy
- y modelau marchnata cymysg sy'n addas ar gyfer marchnata cymdeithasol
- pwysigrwydd myfyrio a gwerthuso er mwyn gwella eich arferion eich hun
- sut i ddadansoddi'r amcanion ymchwil a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cyflwyno'r rhain
- y gwarant ansawdd perthnasol a'r dulliau gwerthuso ar gyfer prosesu'r wybodaeth
- yr egwyddorion moesegol ar gyfer cynnal yr ymchwil a datblygu, gweithredu a gwerthuso cynllun ymchwil marchnata
- y gwersi a ddysgwyd i'w defnyddio mewn cyfleoedd ymchwil ychwanegol
- y patrymau a'r datblygiadau yn y sector ar hyn o bryd ac sy'n dod i'r amlwg yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol
- pwysigrwydd cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) er mwyn gwybod am bolisïau, gweithdrefnau a chanllawiau arferion gorau ym maes gwybodaeth
- y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Rhaglen marchnata cymdeithasol
Fel y defnyddir yn y safonau, mae'r "rhaglen marchnata cymdeithasol" yn cwmpasu rhaglenni tymor hwy (>3 blynedd), ymgyrchoedd tymor canolig (1-3 blynedd) a chynlluniau tymor byr (<1 flwyddyn) wedi'u targedu.
Rhanddeiliaid
Mae hyn yn cynnwys pawb sy'n gysylltiedig â'r strategaeth marchnata cymdeithasol, neu wedi'i heffeithio ganddi, a'r problemau mae'n ceisio'u datrys. Y rhanddeiliaid allweddol yw'r rheiny sydd â'r diddordeb mwyaf yn y problemau hyn neu ddylanwad arnynt. Bydd y rhain bob amser yn cynnwys y grwpiau targed neu fuddiolwyr y gweithgaredd marchnata cymdeithasol mewn golwg.
Diben
Dyma'r rheswm pam mae'r rhaglen ymchwil yn cael ei chynnal. Cewch hyd i'r diben drwy ofyn: pa benderfyniadau mae'r ymchwil yn ceisio eu llywio?
Cwmpas
Yn cynnwys y grwpiau targed a'r ymddygiadau yr ydych am fynd i'r afael â nhw
Adnoddau
Yn cynnwys: ffisegol (eiddo, cyfarpar, nwyddau traul, ynni); ariannol; dynol (boed am dâl neu'n ddi-dâl, mewnol neu allanol); gwybodaeth
Risg
Yn golygu'r posibilrwydd o ddigwyddiad a difrifoldeb goblygiadau'r digwyddiad hwn. Nid oes arwyddocâd negyddol yn gysylltiedig â 'risg' o reidrwydd; gall digwyddiad beri goblygiadau cadarnhaol a negyddol fel ei gilydd. Un o'r prif risgiau wrth gynnal gweithgaredd marchnata prawf yw bod newidiadau mewn ffactorau amgylcheddol eraill yn difetha'r canlyniadau.
Asesu Risg
Yn cynnwys: asesu'r risgiau; cymryd camau lliniarol i osgoi digwyddiadau sy'n peri goblygiadau negyddol; cynllunio camau wrth gefn fel bod cyn lleied o oblygiadau negyddol â phosibl, a manteisio'n llawn ar gyfleoedd os bydd digwyddiadau.
Arwyddocâd
Yn golygu perthnasedd a phwysigrwydd y dystiolaeth i'r mater(ion) penodol y bydd y rhaglen ymchwil yn mynd i'r afael â nhw.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a'i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html
Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf
Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf