Ysgogi gweithwyr gwerthu proffesiynol
URN: INSSAL010
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwerthu
Datblygwyd gan: Instructus
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ysgogi gweithwyr gwerthu proffesiynol. Mae arweinwyr tîm a rheolwyr yn cyflawni canlyniadau drwy gymell aelodau’r tîm gwerthu yn effeithiol. Mae'r safon yn canolbwyntio ar yr egwyddorion sy’n gysylltiedig â chymell staff gwerthu i gyflawni'r canlyniadau gofynnol ac mae'n cynnwys cymhellion ffurfiol ac anffurfiol i hybu cymhelliant tîm gwerthu. Mae ar gyfer gweithwyr gwerthu proffesiynol sydd â chyfrifoldebau goruchwylio neu reoli.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dadansoddi perfformiad gwerthu yn erbyn targedau a bennwyd yn y sefydliad
- sefydlu safonau clir ar gyfer ymddygiad a disgwyliadau o ran perfformiad
- cyfleu targedau mewn modd cadarnhaol, ysgogol ac egniol
- nodi ymddygiadau cadarnhaol, negyddol a ffactorau ysgogol i'r tîm gwerthu werthuso'r effaith a gaiff y rhain ar berfformiad
- coladu agweddau a safbwyntiau'r tîm gwerthu mewn perthynas â'u rolau a diwylliant y sefydliad
- nodi a gwerthuso rhwystrau a gwrthdaro sefydliadol sy'n arwain at ddiffyg cymhelliant ac edrych ar ffyrdd o oresgyn y rhwystrau hynny
- nodi ffactorau sefydliadol sy'n cymell aelodau'r tîm gwerthu a hyrwyddo'r rhain
- rhoi meincnodau clir a thryloyw y gall aelodau'r tîm gwerthu fesur eu perfformiad yn eu herbyn
- sefydlu dangosyddion perfformiad allweddol mewn perthynas â monitro er mwyn mesur perfformiad
- cydnabod a dathlu llwyddiannau'r tîm a'r hyrwyddwyr gwerthu
- ymgynghori â chydweithwyr a chreu patrwm o gydnabyddiaeth drwy gynlluniau canmol neu wobrwyo sy'n cyd-fynd â’r hyn sydd orau gan wahanol bobl
- nodi amcanion allweddol ar gyfer gwella cymhelliant a gwella perfformiad gwerthu drwy fesur a gwerthuso
- rhoi cyfleoedd i roi cynlluniau gwerthu ysgogol personol ar waith fel ffordd o gymell aelodau'r tîm gwerthu
- datblygu gweithgareddau cyfathrebu mewnol yn y tîm i hybu cymhelliant
- adolygu perfformiad y tîm gwerthu a gwneud newidiadau priodol, lle bo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth berthnasol mewn perthynas â chyflogaeth, gweithgareddau gwerthu ac iechyd a diogelwch
- yr elfennau cyfreithiol a moesegol sy’n gysylltiedig â chymhellion a gwobrau
- y targedau unigol a sefydliadol ar gyfer y maes yr ydych yn gyfrifol amdano
- sut mae eich sefydliad yn monitro ac yn mesur perfformiad gwerthu a chymhelliant tîm
- y gwahanol fathau o arddulliau rheoli a sut mae'r rhain yn effeithio ar aelodau'r tîm gwerthu yn wahanol
- i ba raddau y gellir newid er mwyn cynnal cymhelliant a’i hybu
- y dulliau mesur a gwerthuso perfformiad unigolion a thimau gwerthu
- gweithdrefnau gwerthuso eich sefydliad
- yr amrywiaeth o fodelau a damcaniaethau cymell a hyfforddi
- ystod y gweithgareddau busnes, swyddogaethau gwerthu a sut mae materion cymhelliant yn effeithio arnynt
- sut i ddatblygu perthnasoedd cynhyrchiol o fewn sefydliad a’u cynnal
- y gwahanol ddulliau o roi cydnabyddiaeth i'r tîm a'r hyrwyddwyr gwerthu
- yr amrywiaeth o gymhellion ariannol ac anariannol a’r offer ysgogi ar gyfer cymell y tîm gwerthu
- sut i gynnal gwerthusiadau ac asesiadau perfformiad rheolaidd i werthuso lefelau cymhelliant unigol yn y tîm gwerthu
- sut i baratoi cynlluniau datblygiad personol i annog cymhelliant a chyflawniad
- pam mae rhyngweithio o fewn y tîm gwerthu yn elfen bwysig o gymhelliant tîm
- yr amrywiaeth o dechnegau adeiladu tîm sy'n cynorthwyo cymhelliant ac yn gwella perfformiad tîm
- yr amrywiaeth o ddangosyddion ar gyfer mesur a gwerthuso perfformiad y tîm gwerthu
- sut i ddatblygu syniadau, atebion a dulliau newydd o gynnal y perfformiad gofynnol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2029
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
CFASAL011
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr marchnata a gwerthu, Arweinwyr, Arweinwyr tîm
Cod SOC
7129
Geiriau Allweddol
Cymhelliant effeithiol; ysgogi tîm gwerthu; cymhellion; perfformiad gwerthu; ymddygiadau cadarnhaol a negyddol; rhwystrau sefydliadol; meincnodau ar gyfer mesur llwyddiant; dangosyddion perfformiad allweddol; cydnabod cyflawniad; cynlluniau gwobrwyo; gwella cymhelliant; gwella perfformiad gwerthu; cynlluniau gwerthu ysgogol personol; cynlluniau datblygiad personol; cyfathrebu mewn tîm; arddulliau rheoli;