Trafod, delio â gwrthwynebiadau a dod i gytundeb ar werthiannau
URN: INSSAL008
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwerthu
Datblygwyd gan: Instructus
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thrafod, ymdrin â gwrthwynebiadau a dod i gytundeb ar werthiannau. Mae'n cynnwys sut rydych yn rhagweld ac yn ymdrin â gwrthwynebiadau i gynnydd ac yna'n dod i gytundeb ar werthiant er boddhad cwsmeriaid a'ch sefydliad. Bydd angen i chi werthuso ystod o wahanol sefyllfaoedd gwerthu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o'ch cynhyrchion a'ch gwasanaethau mewn ffordd sy'n eich galluogi i ddarbwyllo'ch cwsmeriaid i fuddsoddi yn eich cynnig. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr gwerthu proffesiynol sy'n trafod, yn delio â gwrthwynebiadau ac yn dod i gytundeb ar werthiannau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- diffinio amcanion cwsmeriaid ar gyfer trafodaethau, yn seiliedig ar eu hanghenion a chynhyrchion a gwasanaethau'r sefydliad
- nodi problemau posibl a allai godi a pharatoi atebion i'w goresgyn
- cynllunio i fynd i’r afael ag amrywiaeth o wrthwynebiadau arferol ac anarferol o ran gwerthu cyn delio â'r cwsmeriaid
- nodi anghenion a dymuniadau cwsmeriaid mewn perthynas â'u gwrthwynebiadau drwy ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau holi
- ateb gwrthwynebiadau cwsmeriaid mewn ffordd sy’n dangos empathi a dealltwriaeth cyn ceisio eu datrys
- nodi’r pryderon sy’n atal y darpar gwsmer rhag bwrw ymlaen â’r trafodaethau neu ddod i gytundeb at y gwerthiant
- ystyried gwrthwynebiadau cwsmeriaid er mwyn blaenoriaethu eu pryderon a’u goresgyn
- creu sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill yn ystod y trafodaethau drwy gydbwyso anghenion y sefydliad ac anghenion y cwsmeriaid
- gwneud yn siŵr bod y darpar gwsmeriaid yn cytuno â'r ateb i oresgyn y pryderon neu'r gwrthwynebiadau
- penderfynu a oes modd dod i gytundeb ar y gwerthiant ai peidio
- defnyddio dull arbrofol o ddod i gytundeb ar werthiant i alluogi cwsmeriaid i ateb a mynd i'r afael ag unrhyw bryderon neu wrthwynebiadau pellach
- chwilio am ragor o gyfleoedd posibl i ychwanegu, uwch-werthu neu draws-werthu cyn dod i gytundeb ar y gwerthiant
- cofnodi canlyniadau trafodaethau yn gywir a storio'r cofnodion hynny'n briodol
- dadansoddi ac adolygu canlyniadau blaenorol trafodaethau i nodi problemau a gwneud gwelliannau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion cyfreithiol, moesegol a rheoleiddiol cyfredol mewn perthynas â gwerthu'r cynhyrchion a'r gwasanaethau yn y diwydiant neu'r sector
- y mathau o wybodaeth am gystadleuwyr er mwyn cymharu cystadleuwyr allweddol
- strwythurau prisio'r diwydiant neu'r sector a'u heffaith ar wrthwynebiadau i werthiannau
- gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer trafod ac ymdrin â gwrthwynebiadau
- sut i ddiffinio amcanion ar gyfer cyd-drafod yn seiliedig ar asesiad o safbwynt negodi'r cwsmeriaid, a chryfderau a gwendidau cynnyrch a gwasanaethau'r sefydliad
- yr ystod o faterion nodweddiadol ac anarferol a allai godi a'r gwahaniaeth rhwng gwrthwynebiadau didwyll ac annidwyll
- sut i ddefnyddio sgiliau gwrando a sut i grynhoi i gadarnhau dealltwriaeth
- y mathau o dechnegau holi a sut i'w defnyddio i ddod i gytundeb ar y gwerthiant
- y mathau o rwystrau a allai fodoli rhwng cwsmeriaid a gweithwyr gwerthu proffesiynol
- pwysigrwydd tystebau wrth oresgyn gwrthwynebiadau
- sut i ddangos buddion a nodweddion cynhyrchion a gwasanaethau
- y cysyniad o sefyllfaoedd lle mae pawb ar eu hennill a sut i'w creu mewn trafodaethau
- sut i drafod er mwyn dod i gytundeb ar werthiant, a gwybod pryd i ddweud `na' wrth y cwsmeriaid
- y cysyniad o draws-werthu, uwch-werthu ac ychwanegion a sut y gellir eu defnyddio i gynyddu gwerthoedd a phroffidioldeb gwerthiannau
- yr amrywiaeth o dechnegau i ddod i gytundeb ar werthiant
- y gwahaniaeth rhwng ymddygiad pendant ac ymosodol yng nghyd-destun dod i gytundeb ar werthiant
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi a storio canlyniadau trafodaethau
- pwysigrwydd adolygu hanes trafodaethau gwerthu blaenorol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2029
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
CFASAL020
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithredwyr gwerthiannau busnes, Rheolwyr marchnata a gwerthu, Rheolwyr cyfrifon gwerthu a datblygu busnes, Gwerthwyr dros y ffôn, Galwedigaethau sy’n gysylltiedig â gwerthu
Cod SOC
7129
Geiriau Allweddol
Negodi gwerthiannau; trin gwerthiannau; gwrthwynebiadau i werthiannau; dod i gytundeb ar werthiannau; diffinio amcanion; cynllunio sut i ddelio â gwrthwynebiadau; technegau holi; arwyddion prynu geiriol a di-eiriau; uwch-werthu; traws-werthu; gwybodaeth am gystadleuwyr; gweithdrefnau sefydliadol; sgiliau gwrando; rhwystrau i werthu