Adeiladu perthnasoedd gwerthu a’u cynnal

URN: INSSAL007
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwerthu
Datblygwyd gan: Instructus
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag adeiladu perthnasoedd gwerthu a’u cynnal. Mae'r safon wedi'i chynllunio i'ch galluogi i feithrin perthynas gref gyda'ch cwsmeriaid a deall eu hanghenion a'u disgwyliadau drwy weithio mewn partneriaeth â nhw. Mae'r safon hon yn rhoi sylfaen ar gyfer adeiladu perthnasoedd gwerthu a’u cynnal drwy ymddiriedaeth, ymrwymiad a chydweithrediad a gynlluniwyd i ennill teyrngarwch hirdymor gan gwsmeriaid. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr gwerthu proffesiynol sy'n adeiladu perthnasoedd gwerthu a’u cynnal.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a blaenoriaethu cwsmeriaid yr ydych am adeiladu perthnasoedd gwerthu effeithiol â nhw
  2. sefydlu anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid a'u cydbwyso â strategaeth werthu'r sefydliad
  3. cytuno gyda'r cwsmeriaid ar sut y dylai'r berthynas weithredu a chael ei chynnal
  4. datblygu cynllun perthynas â chwsmeriaid yn seiliedig ar gytundebau gyda nhw
  5. gwneud yn siŵr bod y cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigir yn cael eu diffinio'n glir o ran anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid
  6. meithrin perthynas gyda chwsmeriaid
  7. trafod ystod o atebion gwerthu gyda chwsmeriaid sydd o fudd i chi a’r cwsmeriaid
  8. nodi cyfleoedd i ddatblygu'r berthynas â chwsmeriaid
  9. nodi a dilyn cyfleoedd priodol ar gyfer uwch-werthu, traws-werthu a gwerthu ychwanegion
  10. gofyn am adborth gan gwsmeriaid a’i gasglu am y cynhyrchion a’r gwasanaethau y mae’r sefydliad yn eu darparu
  11. defnyddio adborth i wneud yn siŵr bod ansawdd a chysondeb y gwasanaeth yn cael eu cynnal
  12. delio â chwynion neu broblemau cwsmeriaid
  13. gwneud yn siŵr bod adborth yn cael ei roi i gydweithwyr yn rheolaidd ynglŷn â statws perthnasoedd gwerthu
  14. monitro a gwerthuso perthnasoedd â chwsmeriaid yn rheolaidd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion o ran cyfrifoldeb cymdeithasol cyfreithiol, moesegol, gwleidyddol, technegol, amgylcheddol a chorfforaethol cyfredol ar gyfer perthnasoedd cwsmeriaid
  2. yr ystyriaethau o ran ansawdd a chydymffurfiaeth mewn perthynas â pherthnasoedd â chwsmeriaid
  3. dulliau rheoli perthynas â chwsmeriaid
  4. meini prawf eich sefydliad ar gyfer sefydlu perthnasoedd hirdymor a phroffidiol â chwsmeriaid
  5. ffocws strategaeth werthu'r sefydliad, cynlluniau gweithgareddau gwerthu, targedau gwerthu ac amcanion gwerthu
  6. sut i nodi a blaenoriaethu cwsmeriaid y dylai'r sefydliad fod yn meithrin perthnasoedd hirdymor a phroffidiol â nhw
  7. natur a chwmpas y berthynas, ei gwerth a'i photensial i'r sefydliad
  8. cynnwys cynllun perthynas â chwsmeriaid a'r wybodaeth y mae’n seiliedig arni
  9. y sgiliau rhyngbersonol sydd eu hangen i sefydlu perthnasoedd a meithrin perthynas â chwsmeriaid
  10. sut i asesu risgiau a manteision posibl y berthynas â chwsmeriaid
  11. sut i gyfathrebu â chwsmeriaid allweddol yn effeithiol i ddatblygu ymddiriedaeth, ymrwymiad a chydweithrediad
  12. sut i drafod gyda chwsmeriaid i wneud yn siŵr eich bod chi a’r cwsmeriaid ar eu hennill yn ariannol o ganlyniad i’r berthynas
  13. cysyniadau uwch-werthu, traws-werthu a gwerthu ychwanegion a phryd mae'n briodol gwneud hyn
  14. y dulliau monitro a gwerthuso perthnasoedd cwsmeriaid
  15. sut i benderfynu ar lefel yr adnoddau sydd eu hangen i reoli perthnasoedd â chwsmeriaid
  16. y dulliau a ddefnyddir i nodi a chroesawu cyfleoedd i werthu wrth gynnal perthnasoedd â chwsmeriaid

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFASAL024

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwyr gwerthiannau busnes, Rheolwyr marchnata a gwerthu, Rheolwyr cyfrifon gwerthu a datblygu busnes, Gwerthwyr dros y ffôn, Galwedigaethau sy’n gysylltiedig â gwerthu

Cod SOC

7129

Geiriau Allweddol

Perthnasoedd gwerthu effeithiol; perthnasoedd â chwsmeriaid; nodi anghenion cwsmeriaid; cynnig gwasanaeth cynnyrch; meithrin cydberthynas; trafod gyda chwsmeriaid; uwch-werthu; traws-werthu; gwerthu ychwanegion; adborth cwsmeriaid; delio â chwynion cwsmeriaid; datrysiadau gwerthu; rheoli perthynas â chwsmeriaid; strategaeth werthu;