Monitro a gwerthuso gwybodaeth i gynorthwyo cynlluniau gwerthu

URN: INSSAL003
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwerthu
Datblygwyd gan: Instructus
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro a gwerthuso gwybodaeth ar gyfer cynlluniau gwerthu. Dylai'r sefydliad gael darlun clir a chyfredol o'i farchnadoedd a'i amgylchedd busnes drwy gael gwybodaeth briodol i gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu strategaethau a chynlluniau gwerthu. Mae'r safon yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr eich bod yn casglu gwybodaeth am werthu yn yr amgylchedd busnes gan gynnwys anghenion cwsmeriaid, risgiau posibl, tueddiadau'r farchnad, technolegau newydd, deddfwriaeth a rheoleiddio, gweithgareddau cystadleuwyr ac amodau prisio. Mae'r safon yn cynnwys amgylchedd gweithredu mewnol eich sefydliad hefyd a'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer gweithgareddau gwerthu. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n monitro ac yn gwerthuso gwybodaeth at ddibenion cynlluniau gwerthu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. coladu gwybodaeth am gwsmeriaid a chystadleuwyr i gynorthwyo cynlluniau gwerthu yn unol â gofynion sefydliadol
  2. monitro a gwerthuso tueddiadau a datblygiadau y tu mewn a'r tu allan i'r sefydliad sy'n effeithio ar weithgareddau busnes a gwerthu
  3. nodi'r cryfderau, y gwendidau, y cyfleoedd a’r bygythiadau (SWOT) yn eich sefydliad
  4. nodi'r ffactorau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, cyfreithiol ac amgylcheddol (PESTLE) sy'n effeithio ar eich sefydliad
  5. dadansoddi'r amgylchedd busnes y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddo
  6. archwilio'r cyfleoedd i werthu a'r risgiau yn yr amgylchedd gweithredu a'u heffaith bosibl ar y cynllun gwerthu
  7. ymgynghori â chydweithwyr a rhanddeiliaid eraill ynghylch datblygiadau yn y farchnad a'r goblygiadau i'r sefydliad
  8. coladu gwybodaeth i gynorthwyo cynlluniau gwerthu yn unol â gofynion sefydliadol
  9. gwneud yn siŵr bod gwybodaeth i gynorthwyo cynlluniau gwerthu yn cael ei chyfleu i gydweithwyr a rhanddeiliaid yn unol â gofynion sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol cyfredol ar gyfer casglu gwybodaeth a’i defnyddio mewn cynlluniau gwerthu
  2. y tueddiadau sy'n dod i'r amlwg yn sector a maes gweithredu daearyddol y sefydliad
  3. y ffactorau ym marchnadoedd y sefydliad sy'n dylanwadu ar gynlluniau gwerthu
  4. yr ystod o ffynonellau a’r mathau o wybodaeth sy'n berthnasol i weithgareddau gwerthu’r sefydliad
  5. patrymau ymddygiad cwsmeriaid a sut mae'r rhain yn effeithio ar y ffordd y mae'r gwerthiannau a gynigir yn cael eu teilwra
  6. sut i gynnal dadansoddiad cystadleuol sy'n archwilio gweithgareddau gwerthu cystadleuwyr a chynigion gwerthu
  7. sut i gynnal dadansoddiad o'r amgylchedd gwerthu a busnes
  8. ffactorau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, cyfreithiol ac amgylcheddol (PESTLE)
  9. sut i gynnal dadansoddiad o gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau (SWOT) o safbwynt gwerthu
  10. sut i ddefnyddio dadansoddiad SWOT i ddatblygu strategaethau a chynlluniau gwerthu
  11. yr amrywiaeth o opsiynau o ran cynlluniau gwerthu a sut i asesu eu goblygiadau
  12. sut i ddefnyddio gwybodaeth a'i hymgorffori wrth ddatblygu strategaeth a chynlluniau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFASAL004

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwyr gwerthiannau busnes, Rheolwyr marchnata a gwerthu, Rheolwyr cyfrifon gwerthu a datblygu busnes, Gwerthwyr dros y ffôn, Galwedigaethau sy’n gysylltiedig â gwerthu

Cod SOC

7129

Geiriau Allweddol

Tueddiadau'r farchnad; amgylchedd busnes; strategaethau a chynlluniau gwerthu; gwybodaeth am werthu; anghenion cwsmeriaid; technolegau newydd; amgylcheddau gweithredu; gweithgareddau gwerthu; gwybodaeth am gwsmeriaid a chystadleuwyr;