Gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau wyneb yn wyneb
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau wyneb yn wyneb. Mae hyn yn rhan annatod o'r rhan fwyaf o brosesau gwerthu ac mae'n digwydd mewn amgylcheddau gwerthu amrywiol, fel gwerthu mewn eiddo cwsmeriaid, mewn siopau, mewn ffeiriau ac arddangosfeydd. Mae gwerthu wyneb yn wyneb yn golygu bod angen deallusrwydd emosiynol, a sgiliau da o ran gwrando a chwestiynu. Mae angen i chi ddatgelu anghenion y cwsmer a gallu egluro sut y bydd eich cynnyrch neu wasanaeth yn diwallu’r angen ac yn rhoi gwerth iddynt. Mae'n debyg y bydd sawl cyfarfod wyneb yn wyneb a chyda gwahanol bobl, er mwyn ennill rhywfaint o fusnes. Dylai pob cyfarfod adeiladu ar rai cynharach er mwyn symud y cyfle yn ei flaen. Dylech fynd ati i gael gwybod a yw buddiannau cwsmeriaid yn awgrymu y gallai fod cyfle i werthu, traws-werthu a gwerthu ychwanegion. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr gwerthu proffesiynol sy'n gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau wyneb yn wyneb.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r marchnadoedd targed ar gyfer gwerthu a pharatoi ar gyfer gweithgareddau gwerthu
- nodi cwsmeriaid i gysylltu â nhw ac ystod y cynhyrchion a gwasanaethau
- paratoi a dilyn cynlluniau ar sail galwadau, ymgyrchoedd ebost a dulliau eraill o gyfathrebu â chwsmeriaid
- helpu'r cwsmer i ddod yn gyfforddus â buddsoddi yn eich cynhyrchion neu wasanaethau, gan ddeall gwerth gwneud hynny
- paratoi deunyddiau gwerthu a negeseuon cysylltiedig wrth gysylltu â chwsmeriaid
- cadw at gôd gwisg eich sefydliad wrth werthu i gwsmeriaid
- cytuno ar weithdrefnau ar gyfer casglu manylion cyswllt darpar gwsmeriaid
- cadw at ofynion iechyd, diogelwch a diogeledd sy'n briodol i'r amgylchedd gwerthu wyneb yn wyneb
- cysylltu â chwsmeriaid drwy ddulliau cyfathrebu perthnasol
- nodi gofynion cwsmeriaid drwy gwestiynu a chadarnhau'r rhain drwy grynhoi eu hanghenion a'u diddordebau
- pwysleisio pwyntiau gwerthu unigryw a phwyntiau gwahaniaethu wrth gysylltu â chwsmeriaid
- rhoi deunyddiau i gwsmeriaid i gynorthwyo’r broses o hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau
- strwythuro trafodaethau gwerthu i gynnwys trosolwg o werth cynhyrchion a gwasanaethau
- rhoi gwybodaeth glir i gwsmeriaid a gwneud cynigion sy'n diwallu eu gofynion
- goresgyn gwrthwynebiadau cwsmeriaid a diwallu eu hanghenion
- chwilio am gyfleoedd i uwch-werthu, traws-werthu a gwerthu ychwanegion cyn dod i gytundeb ar y gwerthiant
- gwerthuso cyfaddawdau posibl a fydd o fudd i'r cwsmeriaid a'ch sefydliad
- dod i gytundeb ar y gwerthiant drwy ennill ymrwymiad y cwsmer a chwblhau ffurfioldeb y gwerthiant gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- cofnodi, dadansoddi a gweithredu ar unrhyw elfen o'r cynhyrchion a'r gwasanaethau nad yw'n bodloni gofynion y cwsmeriaid neu na ddenodd unrhyw ddiddordeb
- manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu perthynas â chwsmeriaid drwy nodi a mynd ar drywydd rhagor o gysylltiadau a chwsmeriaid posibl
- casglu a defnyddio tystebau cwsmeriaid ac astudiaethau achos i ategu'r negeseuon gwerthu
- gwerthuso effeithiolrwydd y dulliau gwerthu, y dulliau cyfathrebu a'r amgylcheddau
- myfyrio ar wersi a ddysgwyd a gwneud diwygiadau priodol i'r dulliau gwerthu, y dulliau cyfathrebu, a’r amgylcheddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y cyfyngiadau cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol presennol sy'n gysylltiedig â gweithgareddau gwerthu wyneb yn wyneb
- gweithdrefnau ac arferion eich sefydliad mewn perthynas â gwerthu wyneb yn wyneb
- strategaethau, cynlluniau a thargedau gwerthu eich sefydliad
- y gofynion a’r gweithdrefnau iechyd, diogelwch a diogeledd cyfredol ar gyfer amrywiaeth o amgylcheddau gwerthu wyneb yn wyneb
- amcanion a chynlluniau eich sefydliad ar gyfer cysylltiadau gwerthu wyneb yn wyneb â chwsmeriaid
- yr ystod o gynnyrch a gwasanaethau a'r datblygiadau diweddaraf ym marchnadoedd y sefydliad
- sut i strwythuro a datblygu cysylltiadau gwerthu
- y deunyddiau gwerthu perthnasol a'r negeseuon cysylltiedig ar gyfer rhyngweithio â chwsmeriaid
- gwerth cynhyrchion a gwasanaethau a sut i'w gwerthu
- sut i ddatblygu cynllun galwadau gwerthu a dulliau eraill o gyfathrebu â chwsmeriaid
- y gwahaniaethau rhwng gwerthu rhagweithiol ac adweithiol
- y technegau ar gyfer traws-werthu, uwch-werthu a gwerthu ychwanegion
- y dulliau asesu enillion uchaf ac isaf drwy werthu
- sut i flaenoriaethu datblygu cwsmeriaid posibl yn unol â gwerth posibl a’r tebygolrwydd o ddod i gytundeb ar y gwerthiant
- y pwyntiau gwerthu unigryw a'r pwyntiau gwahaniaethu a sut i'w pwysleisio
- sut i ddod o hyd i ateb i unrhyw faterion neu broblemau gwerthu
- sut i oresgyn gwrthwynebiadau cwsmeriaid a sut i ymateb i ymholiadau cwsmeriaid
- ystod yr ymddygiadau prynu gan gwsmeriaid a sut i'w rheoli
- y technegau ar gyfer cau gwerthiannau ar wahanol gamau gwerthu
- y dulliau a'r prosesau a ddefnyddir i gasglu a chofnodi gwybodaeth am gwsmeriaid posibl
- sut i werthuso a mesur perfformiad technegau gwerthu, dulliau ac amgylcheddau gwerthu wyneb yn wyneb