Datblygu tendrau, cynigion a dyfynbrisiau gwerthu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu tendrau, cynigion a dyfynbrisiau gwerthu. Mae paratoi tendrau a chynigion yn golygu nodi gofynion eich cwsmer a'u paru â’r hyn y gall eich sefydliad ei gynnig. Mae angen i gynigion gynnwys yr holl fanylion perthnasol mewn perthynas â chynhyrchion a gwasanaethau. Mae angen strwythuro tendrau o fewn manylebau clir er mwyn gallu cymharu gwahanol gyflenwyr. Disgwylir i gynnig neu ddyfynbris gydymffurfio ag arddull tŷ eich sefydliad. Mae angen i'r cynigion fod yn gystadleuol ac yn rhoi manylion am unrhyw amodau a chyfyngiadau sy’n angenrheidiol i ddiogelu buddiannau eich sefydliad. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr gwerthu proffesiynol sy'n datblygu tendrau, cynigion a dyfynbrisiau gwerthu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu pa mor debygol ydych chi o ennill y cynnig yn seiliedig ar i ba raddau y byddwch yn fodlon cyfaddawdu yn eich ymateb yn ôl pob tebyg
- cadarnhau gofynion y cwsmer a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau cyn i'r cynigion gael eu cwblhau
- egluro'r amodau a'r cyfyngiadau sydd i'w cynnwys yn y cynigion neu dendrau
- sefydlu a datblygu cynnwys y cynigion ar ffurf tŷ, gan gynnwys disgrifiadau o’r cynhyrchion a’r gwasanaethau, gwybodaeth am bris y contract, telerau ac amodau gwerthu
- sefydlu a datblygu'r tendrau gwerthu drwy ddefnyddio strwythur a thempledi penodedig
- gwneud yn siŵr bod y cynigion neu dendrau yn cyd-fynd â ffactorau'r farchnad a gofynion cwsmeriaid
- cyflenwi'r cynigion neu dendrau o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt
- ymgynghori â chydweithwyr marchnata a chyllid i wneud yn siŵr bod y pris yn adlewyrchu gwerth y cynigion neu dendrau
- cael cymeradwyaeth fewnol i'r dyfynbris cyn ei gyflwyno
- cyflwyno'r cynigion a'r dyfynbrisiau i'r cwsmeriaid o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt
- cysylltu â’r cwsmer posibl wedi hynny i roi cynnig priodol, eglurhad pellach neu wybodaeth, os oes angen
- gwneud yn siŵr bod gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei storio'n ddiogel a'i diogelu rhag cael ei chamddefnyddio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y materion cyfreithiol a moesegol cyfredol sy'n ymwneud â chynigion gwerthu ac ysgrifennu tendrau
- ffynonellau data'r farchnad i gynorthwyo datblygiad cynigion a dyfynbrisiau
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer datblygu cynigion a dyfynbrisiau
- y systemau caffael perthnasol
- y mathau o dempledi i'w defnyddio ar gyfer tendrau
- sut i nodi gofynion cwsmeriaid am gynnyrch a gwasanaethau
- sut i fynd i'r afael â materion ac ymhelaethu ar yr atebion gorau i'r rhain
- sut i gynhyrchu dogfen fewnol am gynnyrch a gwasanaethau
- sut i gyflwyno achos busnes clir i'r cwsmeriaid mewn termau ansoddol a meintiol, gan gynnwys telerau ac amodau contract a chyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau
- sut i wneud yn siŵr bod y cynigion yn rhoi’r cwsmer yn gyntaf o hyd
- sut i gyfleu cynigion i'r penderfynwyr allweddol a’u darbwyllo i gymeradwyo dyfynbrisiau
- sut i gasglu tystebau cwsmeriaid a datganiadau hygrededd i ategu'r cynigion