Datblygu cynlluniau gwerthu
URN: INSSAL002
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwerthu
Datblygwyd gan: Instructus
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu cynlluniau gwerthu. Mae'r cynlluniau hyn yn hanfodol ar gyfer cyflawni gweithgareddau gwerthu. Mae'r safon yn cynnwys cynhyrchu cynllun i gyrraedd targedau gwerthu, ystyried amlder a lefel y gweithgareddau gwerthu sydd eu hangen, a chaniatáu ar gyfer problemau a allai godi. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr gwerthu proffesiynol sy'n ymwneud â chynllunio gweithgareddau gwerthu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio gwybodaeth am gwsmeriaid, cystadleuwyr a marchnadoedd i wneud penderfyniadau gwybodus am ddatblygiad y cynlluniau gwerthu
- adolygu proffidioldeb a chynaliadwyedd cynhyrchion a gwasanaethau o fewn y portffolio i bennu blaenoriaethau gwerthu
- nodi a gwerthuso ystod, natur ac amlder y gweithgareddau gwerthu sydd eu hangen i gyrraedd targedau gwerthu
- cynhyrchu cynlluniau gwerthu yn unol ag ystyriaethau cyfreithiol, rheoleiddiol, gwleidyddol, technegol a moesegol cyfredol
- nodi'r adnoddau allweddol a'r gofynion cyllidebol ar gyfer rhoi'r cynlluniau ar waith, gan ystyried nifer, maint a lleoliad cwsmeriaid
- monitro a rheoli dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer mesur llwyddiant y cynlluniau
- nodi risgiau a allai effeithio ar gyflawni’r cynlluniau a nodi camau lliniaru
- casglu adborth am gynlluniau gwerthu gan gydweithwyr a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i'r cynlluniau yn unol â phrosesau sefydliadol
- cyfleu'r cynlluniau i randdeiliaid a chael ymrwymiad i roi'r cynllun ar waith a chyflawni'r targedau
- gwerthuso'r cynlluniau gwerthu a nodi camau gweithredu priodol i adolygu’r rhain a’u gwella
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, moesegol a rheoleiddiol cyfredol y diwydiant a'r sectorau proffesiynol
- yr ystod o weithgareddau gwerthu gan gystadleuwyr yn y diwydiant a’r sectorau proffesiynol
- strategaethau marchnata a gwerthu’r sefydliad a sut mae'r cynlluniau gwerthu yn cyd-fynd â'r rhain
- egwyddorion cynlluniau gwerthu
- y modelau, yr offer a’r templedi perthnasol ar gyfer cynlluniau gwerthu
- y ffactorau i'w hystyried wrth adolygu proffidioldeb a chynaliadwyedd cynhyrchion a gwasanaethau
- y dulliau cyfathrebu ac ymgynghori sy’n gysylltiedig â datblygu cynlluniau gwerthu
- yr ystod o adnoddau sydd ar gael ar gyfer rhoi cynlluniau gwerthu ar waith
- sut i ystyried gwybodaeth a chyfyngiadau cyllidebol wrth ddatblygu cynllun gwerthu
- sut i nodi'r adnoddau sydd eu hangen i roi cynlluniau gwerthu ar waith
- arferion y sefydliad ar gyfer monitro a rheoli gweithgareddau gwerthu
- y risgiau a'r materion posibl sy'n gysylltiedig â chynlluniau gwerthu a dulliau lliniaru
- sut i fonitro perfformiad cynlluniau gwerthu a’u gwerthuso
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2029
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
CFASAL006
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithredwyr gwerthiannau busnes, Rheolwyr marchnata a gwerthu, Rheolwyr cyfrifon gwerthu a datblygu busnes, Gwerthwyr dros y ffôn, Galwedigaethau sy’n gysylltiedig â gwerthu
Cod SOC
7129
Geiriau Allweddol
Cynlluniau gwerthu; cyrraedd targedau gwerthu; proffidioldeb a chynaliadwyedd cynhyrchion a/neu wasanaethau; datrys problemau; blaenoriaethau gwerthu; gofynion allweddol o ran adnoddau; gofynion y gyllideb; dangosyddion perfformiad allweddol;