Rhoi ymgyrchoedd gwerthu ar waith
URN: INSSAL0019
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwerthu
Datblygwyd gan: Instructus
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi ymgyrchoedd gwerthu ar waith. Mae ymgyrchoedd gwerthu yn rhoi dull ychwanegol a gwerthfawr i'r tîm gwerthu ymestyn eu hymdrechion gwerthu. Mae'r safon yn cynnwys sefydlu amcanion ymgyrchoedd gwerthu ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau'r sefydliad a nodi technegau’r ymgyrchoedd gwerthu mwyaf buddiol i ddenu cwsmeriaid. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr gwerthu proffesiynol sy'n rhoi ymgyrchoedd gwerthu ar waith ar lefel dactegol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi amcanion ymgyrchoedd gwerthu yn unol â strategaeth werthu’r sefydliad
- nodi grwpiau cwsmeriaid i'w targedu gan yr ymgyrch gwerthu
- cwblhau cymhellion yr ymgyrchoedd gwerthu a'r mecanweithiau ymateb
- nodi'r adnoddau sydd eu hangen i roi strategaeth yr ymgyrch werthu ar waith er mwyn manteisio ar gyfleoedd i werthu
- trefnu i gyflwyno'r ymgyrch gwerthu yn eang
- nodi dangosyddion perfformiad gwerthu ar gyfer gweithgareddau’r ymgyrchoedd gwerthu er mwyn monitro a gwerthuso llwyddiant yr ymgyrchoedd
- nodi a gwneud addasiadau perthnasol ar gyfer gwella'r ymgyrchoedd gwerthu yn ystod y cyfnod cyflwyno
- monitro a gwerthuso perfformiad gweithgareddau’r ymgyrchoedd gwerthu
- adolygu ymgyrchoedd gwerthu i lywio ymgyrchoedd yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol cyfredol mewn perthynas ag ymgyrchoedd gwerthu
- marchnad a sector proffesiynol eich sefydliad
- sylfaen eich sefydliad o gwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid
- cystadleuwyr a phartneriaid presennol a phosibl eich sefydliad a nodweddion allweddol eu strategaethau prynu
- anghenion gwirioneddol a chanfyddedig gwahanol grwpiau o gwsmeriaid
- y mecanweithiau ar gyfer rhoi ymgyrchoedd gwerthu ar waith
- effaith ymgyrchoedd gwerthu o ran cymell cwsmeriaid ar hyn o bryd ac yn y dyfodol
- sut mae ymgyrchoedd gwerthu yn dylanwadu ar ymddygiadau a gweithgareddau gwerthwyr
- sut i bennu amcanion perfformiad
- sut i integreiddio ymdrechion ymgyrchoedd gwerthu â gweithgareddau gwerthu
- ffynonellau gwybodaeth i gynorthwyo’r gwaith o fonitro a gwerthuso ymgyrchoedd gwerthu
- sut i ddatblygu mesurau a dulliau ar gyfer monitro a gwerthuso perfformiad ymgyrchoedd gwerthu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2029
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
CFASAL013
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithredwyr gwerthiannau busnes, Rheolwyr marchnata a gwerthu, Rheolwyr cyfrifon gwerthu a datblygu busnes, Gwerthwyr dros y ffôn, Galwedigaethau sy’n gysylltiedig â gwerthu
Cod SOC
7129
Geiriau Allweddol
Ymgyrchoedd gwerthu; rhoi ymgyrchoedd gwerthu ar waith; perfformiad gwerthu; amcanion ymgyrchoedd gwerthu; amcanion perfformiad gwerthu; technegau ymgyrchoedd gwerthu; nodi cwsmeriaid targed; nodi adnoddau angenrheidiol; monitro a gwerthuso perfformiad