Cael gwybodaeth yn ymwneud â gwerthu a’i dadansoddi
URN: INSSAL0017
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwerthu
Datblygwyd gan: Instructus
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chael gwybodaeth sy'n ymwneud â gwerthu a’i dadansoddi. Mae'n cynnwys deall cwsmeriaid, cystadleuwyr, marchnadoedd, meintiau, a chymysgedd, gwerth ac elw'r cynhyrchion a'r gwasanaethau y mae eich sefydliad yn eu gwerthu. Mae'r safon yn cynnwys dod o hyd i wybodaeth o wahanol ffynonellau, ei dadansoddi ac ystyried y newidiadau ar gyfer y sefydliad. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr gwerthu proffesiynol sy'n cael gwybodaeth sy'n ymwneud â gwerthu a’i dadansoddi.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymgynghori â chydweithwyr gwerthu am y cwsmer, y cystadleuydd a'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt am y farchnad
- nodi ffynonellau gwybodaeth priodol sy'n berthnasol i gwsmeriaid, cystadleuwyr a marchnadoedd y sefydliad
- gwneud yn siŵr bod ffynonellau gwybodaeth yn ddigonol, yn berthnasol, yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn gywir
- gwerthuso manteision a goblygiadau defnyddio pob ffynhonnell wybodaeth
- creu cynllun i gael gwybodaeth yn ymwneud â gwerthu drwy ddefnyddio ystod o ffynonellau
- casglu gwybodaeth yn ymwneud â gwerthu gan ddefnyddio systemau a gynlluniwyd a chanlyniadau ymchwil
- dewis a defnyddio amrywiaeth o offer a dulliau dadansoddol i ddadansoddi cwsmeriaid, cystadleuwyr a marchnadoedd y sefydliad
- nodi'r gynulleidfa darged ar gyfer pob categori gwybodaeth sy'n ymwneud â gwerthu a'i chyfleu i'ch tîm gwerthu
- cael adborth gan gydweithwyr am ba mor berthnasol a defnyddiol yw’r wybodaeth sy’n ymwneud â gwerthu
- gwneud yn siŵr bod y wybodaeth sy'n ymwneud â gwerthu yn cael ei storio'n ddiogel yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, cyfreithiol a moesegol
- gwerthuso goblygiadau gwybodaeth sy’n ymwneud â gwerthu ar gyfer eich sefydliad a gwneud addasiadau perthnasol, lle bo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y materion cyfreithiol a moesegol cyfredol sy'n ymwneud â defnyddio gwybodaeth am y farchnad a gwerthu
- y codau ymarfer sy'n ymwneud â gwerthu ar gyfer y diwydiant a'r sector
- y gofynion gwybodaeth ar gyfer y swyddogaethau gwerthu
- y gwahaniaethau rhwng data sylfaenol ac eilaidd
- sut i nodi tueddiadau mewn data sy'n ymwneud â gwerthu
- ffynonellau gwybodaeth am y farchnad a’r amrywiaeth o offer dadansoddol ar gyfer gwybodaeth yn ymwneud â gwerthu
- sut i ddefnyddio pecynnau meddalwedd priodol ar gyfer dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth yn ymwneud â gwerthu
- y dulliau prosesu a chyflwyno gwahanol fathau o wybodaeth yn ymwneud â gwerthu
- sut i werthuso pa mor addas, perthnasol, dilys, dibynadwy a chywir yw gwybodaeth am y farchnad
- sut gall defnyddio gwybodaeth sy'n ymwneud â gwerthu arwain at newidiadau sefydliadol i'r cymysgedd marchnata, strategaethau marchnata a gwerthu
- y perthnasoedd rhwng marchnata, gwerthu a swyddogaethau eraill a sut mae'r rhain yn effeithio ar y sefydliad yn gyffredinol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2029
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
CFASAL001
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithredwyr gwerthiannau busnes, Rheolwyr marchnata a gwerthu, Rheolwyr cyfrifon gwerthu a datblygu busnes, Gwerthwyr dros y ffôn, Galwedigaethau sy’n gysylltiedig â gwerthu
Cod SOC
7129
Geiriau Allweddol
Cael gwybodaeth; dadansoddi gwybodaeth; deall cwsmeriaid; deall marchnadoedd; ffynonellau gwybodaeth; gwybodaeth yn ymwneud â gwerthu; cyfathrebu; codau ymarfer; data sylfaenol ac eilaidd; offer dadansoddol; data meintiol ac ansoddol; swyddogaeth farchnata; cyflwyno gwybodaeth