Defnyddio offer gwerthu a systemau technoleg

URN: INSSAL0014
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwerthu
Datblygwyd gan: Instructus
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio offer gwerthu a systemau technoleg ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, megis cynllunio, gweithredu, cynhyrchu cwsmeriaid posibl, rhagweld, gwella gweithgareddau gwerthu a chynyddu'r tebygolrwydd o ddod i gytundeb ar werthiant. Mae'n cynnwys defnyddio, storio a chynnal gwybodaeth o fewn system technoleg gwerthu, coladu cwsmeriaid posibl a’u gwerthuso, dyrannu'r rhain o fewn y tîm gwerthu a'u hymgorffori’n rhan o'ch piblinell werthu. Mae hefyd yn cynnwys monitro eich defnydd eich hun o'r systemau a rhoi adborth i wella'r systemau. Nid yw wedi'i anelu at y rhai sy'n rheoli systemau technoleg gwerthu. Yn hytrach mae ar gyfer gweithwyr gwerthu proffesiynol sy'n defnyddio offer a systemau technoleg ar gyfer gweithgareddau gwerthu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. defnyddio gwybodaeth sy’n ymwneud â gwerthu i gynllunio gweithgareddau gwerthu a’u rhoi ar waith
  2. storio gwybodaeth am y systemau technoleg gwerthu, gan wirio eu hansawdd, eu dilysrwydd a'u dibynadwyedd
  3. cynnal y wybodaeth sy'n gysylltiedig â gwerthu a gaiff ei storio yn y systemau technoleg, gan wneud yn siŵr ei bod yn gywir ac yn gyfredol
  4. defnyddio offer a systemau technoleg i awtomeiddio tasgau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwerthu
  5. rhannu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â gwerthu er mwyn cydweithio ag aelodau'r tîm gwerthu
  6. defnyddio’r dechnoleg awtomeiddio ddiweddaraf i werthuso'r cwsmeriaid posibl
  7. coladu cwsmeriaid posibl a blaenoriaethu'r rhain yn unol â thargedau gwerthu
  8. crynhoi gwybodaeth yn briodol o systemau gwerthu er mwyn adrodd i reolwyr
  9. mynd ar drywydd cwsmeriaid posibl sy'n dod i’r amlwg a neilltuo aelodau mwyaf perthnasol o'r tîm gwerthu i fod yn berchen ar y rhai o ansawdd
  10. monitro, prosesu neu ddirprwyo tasgau dyddiol ymhlith y rhai sydd wedi’u neilltuo ar eu cyfer a gwneud hyn yn weledol ar systemau technoleg
  11. monitro eich defnydd eich hun o'r system technoleg gwerthu, gan ofyn am arweiniad, cymorth a datblygu sgiliau, lle bo angen
  12. rhoi adborth ar y systemau technoleg gwerthu, sut rydych yn rheoli eich biblinellau yn ogystal â thasgau a gweithgareddau eraill
  13. gofyn am argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwella gweithgareddau gwerthu a chynhyrchiant personol drwy ddefnyddio'r systemau technoleg

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y materion cyfreithiol a moesegol cyfredol mewn perthynas â defnyddio offer gwerthu a systemau technoleg
  2. manteision offer a systemau technoleg ar gyfer tasgau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwerthu
  3. ystod y tasgau a gweithgareddau ar offer gwerthu a systemau technoleg
  4. yr opsiynau o ran gwelededd a dyrannu aelodau'r tîm gwerthu ar systemau technoleg
  5. y gofynion o ran gwybodaeth ar gyfer y swyddogaeth werthu, cynhyrchu cwsmeriaid posibl a’u gwerthuso
  6. targedau gwerthu eich sefydliad
  7. pwysigrwydd awtomeiddio tasgau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwerthu
  8. sut i goladu, gwerthuso a blaenoriaethu'r cwsmeriaid posibl ar systemau technoleg
  9. y biblinell werthu a sut i gynnwys y cwsmeriaid posibl ynddi drwy ddefnyddio systemau technoleg
  10. sut i gynnal a monitro eich piblinell werthu
  11. pryd i aseinio'r cwsmeriaid posibl i aelodau perthnasol y tîm gwerthu neu i chi'ch hun
  12. prosesau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer defnyddio, storio a chynnal gwybodaeth
  13. sut i ddefnyddio'r system technoleg gwerthu yn rhan o waith cynllunio gweithgareddau gwerthu a’u rhoi ar waith
  14. y cymorth, yr arweiniad a'r datblygiad sgiliau sydd ar gael i ddefnyddwyr offer gwerthu a systemau technoleg
  15. sut i ofyn am argymhellion i wella gweithgareddau gwerthu drwy ddefnyddio'r offer a'r systemau technoleg

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFASAL002

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwyr gwerthiannau busnes, Rheolwyr marchnata a gwerthu, Rheolwyr cyfrifon gwerthu a datblygu busnes, Gwerthwyr dros y ffôn, Galwedigaethau sy’n gysylltiedig â gwerthu

Cod SOC

7129

Geiriau Allweddol

Systemau technoleg gwerthu; systemau monitro; gweithgareddau gwerthu; storio a chynnal gwybodaeth; cynllunio gweithgareddau gwerthu a’u rhoi ar waith; anghenion gwybodaeth; prosesau sefydliadol