Paratoi ac anfon cynhyrchion a gwasanaethau at gwsmeriaid
URN: INSSAL0013
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwerthu
Datblygwyd gan: Instructus
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi ac anfon cynhyrchion a gwasanaethau at gwsmeriaid. Mae'n cynnwys gwneud yn siŵr bod yr holl ddogfennaeth angenrheidiol wedi'i chwblhau yn ogystal â gwneud yn siŵr bod y cynhyrchion a'r gwasanaethau yn y cyflwr y cytunwyd arno gyda'r cwsmer ar adeg eu gwerthu. Ar ben hynny, mae'r safon yn cynnwys gwneud yn siŵr bod eich cwsmeriaid yn cadarnhau bod y cynhyrchion a'r gwasanaethau yn foddhaol. Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n paratoi ac yn anfon cynhyrchion a gwasanaethau at gwsmeriaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio gwybodaeth ar y ffurflen archebu i wneud yn siŵr ei bod yn cyfateb i ddogfennaeth fewnol a bod cynhyrchion ar gael i'w hanfon
- gwneud yn siŵr bod y cynhyrchion a'r gwasanaethau wedi'u paratoi'n llawn i'w trosglwyddo i'r cwsmer yn unol â thelerau ac amodau gwerthu a pholisi'r sefydliad
- gwneud newidiadau i'r archeb pan fo angen, gan wneud yn siŵr ei fod yn cyfateb i ddisgwyliadau cwsmeriaid
- paratoi dogfennau a chofnodion trosglwyddo, gan wneud yn siŵr eu bod yn unol â gofynion y sefydliad
- cofnodi'r holl wybodaeth angenrheidiol yn unol â gofynion y sefydliad
- gwneud yn siŵr bod y cynhyrchion a'r gwasanaethau'n cael eu darparu i'r cwsmer yn unol â'r cytundeb gwerthu a'r telerau ac amodau gwerthu
- gwneud yn siŵr bod y cwsmer yn fodlon â'r cynhyrchion a'r gwasanaethau
- delio â holl broblemau cwsmeriaid a’u hymholiadau a’u huwch-gyfeirio at rywun sydd ag awdurdod priodol, os oes angen
- gwneud yn siŵr bod yr holl ddogfennaeth i'w chyflwyno a'i derbyn gan y cwsmer yn cyd-fynd â gofynion y sefydliad
- cydnabod amrywiaeth y refeniw pan fydd eich gwasanaethau a’ch cynhyrchion yn cael eu darparu i'r cwsmeriaid a thaliadau’n cael eu prosesu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion cyfreithiol a rheoliadol cyfredol mewn perthynas ag anfon a throsglwyddo neu gyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau
- safonau ac arferion y diwydiant o ran anfon a throsglwyddo cynhyrchion a chyflwyno gwasanaethau
- gweithdrefnau eich sefydliad mewn perthynas ag anfon a throsglwyddo cynhyrchion a chyflwyno gwasanaethau
- telerau ac amodau gwerthu eich sefydliad
- y rolau cymorth wrth gyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau i gwsmeriaid
- y cysyniad o drosglwyddo perchnogaeth
- sut i drosglwyddo cynhyrchion a gwasanaethau i gwsmeriaid
- diben cadw cofnodion o baratoadau trosglwyddo neu gyflwyno
- sut i ddelio â phroblemau ac ymholiadau cwsmeriaid
- sut y gellir nodi cyfleoedd pellach i werthu a manteisio llawn arnynt
- amrywiaeth y refeniw wrth wneud archeb, wrth adael y warws, ar ôl ei dderbyn gan y cwsmer, wrth ei dderbyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2029
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
CFASAL023
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithredwyr gwerthiannau busnes, Rheolwyr marchnata a gwerthu, Rheolwyr cyfrifon gwerthu a datblygu busnes, Gwerthwyr dros y ffôn, Galwedigaethau sy’n gysylltiedig â gwerthu
Cod SOC
7129
Geiriau Allweddol
Cyflwyno cynhyrchion; adborth cwsmeriaid; traws-werthu; uwch-werthu; gwerthu ychwanegion; polisi’r sefydliad; paratoi dogfennau gwerthu; gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn fodlon; delio â phroblemau cwsmeriaid; safonau diwydiant; amodau gwerthu; trosglwyddo perchnogaeth