Pennu targedau a rhagolygon ar gyfer gwerthu

URN: INSSAL0012
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwerthu
Datblygwyd gan: Instructus
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â phennu targedau a rhagolygon ar gyfer gwerthu. Mae'r safon yn cynnwys sut i gasglu a defnyddio gwybodaeth i ddatblygu rhagolygon gwerthu, yn seiliedig ar ddata am werthu yn y gorffennol a'r presennol, ffactorau sy'n dylanwadu neu'n effeithio ar werthiannau, tueddiadau gwerthu, amodau'r farchnad a datblygu cynhyrchion a gwasanaethau o fewn eich sefydliad. Mae hefyd yn cynnwys defnyddio rhagolygon sy'n seiliedig ar ddulliau mesur gwerth a maint i ddatblygu targedau gwerthu. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr gwerthu proffesiynol sy'n pennu targedau ac yn gwneud rhagolygon gwerthu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r metrigau a'r rhagolygon gwerthu priodol sydd eu hangen i bennu'r amcanion a'r targedau gwerthu
  2. nodi a dadansoddi tueddiadau o ran gwerthu ac amodau'r farchnad i gynnal rhagolygon gwerthu dros gyfnod ariannol
  3. nodi a gwerthuso ffactorau mewnol ac allanol a fydd yn dylanwadu ac yn effeithio ar dueddiadau gwerthu
  4. dadansoddi amodau'r farchnad a chyfleoedd posibl i werthu i werthuso eu heffaith debygol ar ragolygon gwerthu
  5. defnyddio data hanesyddol am werthiannau i lywio rhagolygon gwerthu newydd
  6. gwerthuso ystod o dechnegau cynnal rhagolygon gwerthu
  7. dewis y dull sydd fwyaf tebygol o roi rhagolygon cywir o’r cyfnod ariannol
  8. defnyddio meddalwedd a dulliau rhagweld priodol i baratoi dadansoddiad a fydd yn rhagweld tueddiadau gwerthu yn y dyfodol
  9. addasu’r dyddiad a’r tebygolrwydd o ddod i gytundeb, gan ystyried yr amser fydd ei angen i gwblhau gwaith gwerthu, hanes gyda'r cwsmer, maint y cyfle, math o gwsmer, ac ati
  10. ymgynghori â chydweithwyr am ragolygon gwerthu a nodi'r goblygiadau i'r sefydliad
  11. gwneud argymhellion ar gyfer amcanion a thargedau gwerthu
  12. datblygu cynlluniau gweithredu yn seiliedig ar ragolygon gwerthu a thargedau cyflawni
  13. sefydlu gweithgareddau mesur i fonitro perfformiad gwirioneddol yn erbyn gwerthiannau a ragwelir
  14. adolygu targedau a bennwyd a rhagolygon gwerthu yn rheolaidd
  15. diwygio targedau a rhagolygon gwerthu yn dibynnu ar ganlyniadau adolygiadau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. amcanion a strategaeth werthu eich sefydliad mewn perthynas â'r gweithgareddau gwerthu
  2. y gwahaniaeth rhwng gwybodaeth ansoddol a meintiol at ddibenion cynnal rhagolygon
  3. y gwahanol fathau o fetrigau a ddefnyddir wrth gynnal rhagolygon gwerthu
  4. y gwahanol fathau o wybodaeth ar gyfer cynnal rhagolygon gwerthu a sut y cânt eu dadansoddi
  5. sut i ddod o hyd i'r wybodaeth berthnasol ar gyfer cynnal rhagolygon gwerthu
  6. y ffactorau mewnol ac allanol a allai ddylanwadu neu effeithio ar dueddiadau gwerthu
  7. y tueddiadau i'w nodi ar sail rhagolygon a gweithgareddau gwerthu blaenorol
  8. amrywiaeth y technegau ansoddol a meintiol a ddefnyddir i gynnal rhagolygon gwerthu
  9. canllawiau eich sefydliad ar ddatblygu a chofnodi rhagolygon gwerthu
  10. ystod yr amodau a chyfleoedd yn y farchnad a sut gall y rhain effeithio ar werthu yn y dyfodol
  11. sut i bennu amcanion a thargedau gwerthu i wneud rhagolygon dibynadwy o dueddiadau yn y dyfodol
  12. y targedau gwerthu nodweddiadol y mae sefydliadau yn eu defnyddio, megis refeniw, maint, cyfran o'r farchnad, cyfraddau galw, trosiant neu dwf
  13. sut i fesur perfformiad gwerthu yn erbyn perfformiad a ragwelir
  14. y rhaglenni meddalwedd perthnasol i gynorthwyo'r rhagolygon gwerthu
  15. y ffactorau cyffredin sy’n achosi amrywiadau rhwng y rhagolygon a faint sy’n cael ei werthu mewn gwirionedd
  16. y mecanweithiau mesur a rheoli a ddefnyddir gan y sefydliad i adrodd ar amrywiadau
  17. sut i adolygu a diwygio targedau a rhagolygon gwerthu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFASAL009

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwyr gwerthiannau busnes, Rheolwyr marchnata a gwerthu, Rheolwyr cyfrifon gwerthu a datblygu busnes, Gwerthwyr dros y ffôn, Galwedigaethau sy’n gysylltiedig â gwerthu

Cod SOC

7129

Geiriau Allweddol

Cynnal rhagolygon gwerthu; pennu targedau gwerthu; amcanion gwerthu; tueddiadau gwerthu; amodau'r farchnad; technegau cynnal rhagolygon gwerthu; strwythurau bonws a chomisiwn; gwybodaeth ansoddol a meintiol am werthu; ffynonellau gwybodaeth; mesur perfformiad gwerthu; mecanweithiau mesur a rheoli