Monitro perfformiad ariannol cyfrifon cwsmeriaid

URN: INSSAL001
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwerthu
Datblygwyd gan: Instructus
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro perfformiad ariannol cyfrifon cwsmeriaid. Mae'n cynnwys defnyddio offer ariannol i asesu a blaenoriaethu cwsmeriaid newydd, asesu risgiau busnes ac ariannol sy'n gysylltiedig â chwsmeriaid, a chyflawni'r elw mwyaf posibl drwy fonitro elw o bob cyfrif cwsmer. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr gwerthu proffesiynol sy'n adolygu potensial ariannol parhaus cwsmeriaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. defnyddio offer ariannol i asesu a blaenoriaethu cwsmeriaid newydd i fesur eu gwerth posibl
  2. amcangyfrif beth yw gwerth oes llif arian cyfrifon cwsmeriaid
  3. cyfrifo faint y bydd angen ei werthu i gyflawni'r proffidioldeb a dargedir
  4. cyfrifo'r elw posibl gan gwsmeriaid mewn cylch bywyd cwsmer drwy ddefnyddio technegau llif arian gostyngol
  5. asesu a monitro’n barhaus y costau amrywiol posibl a allai effeithio ar broffidioldeb cwsmeriaid
  6. pennu costau gorbenion sefydlog a chymorth gweinyddol a'u cymhwyso drwy ddilyn gweithdrefnau cyfrifyddu rheolwyr y cwmni
  7. defnyddio cymarebau ariannol i ddadansoddi cyfrifon cwsmeriaid i wneud yn siŵr bod y cwsmer yn ariannol ddiogel, lle bo'n briodol
  8. cynnal gwiriadau allanol i asesu teilyngdod cwsmeriaid i gael credyd a phennu terfynau credyd priodol
  9. asesu'r risgiau busnes ac ariannol sy'n gysylltiedig â phob cwsmer a llunio proffil risg
  10. amcangyfrif gwerth pob cwsmer drwy ddefnyddio tystiolaeth ariannol ac ansoddol
  11. adolygu perfformiad ariannol a nodweddion eraill pob cwsmer yn barhaus i nodi tueddiadau ac amrywiadau allweddol
  12. gwneud penderfyniadau busnes am gyfeiriad y berthynas â chwsmeriaid yn y dyfodol yn seiliedig ar hanes eu perfformiad ariannol
  13. paratoi cynlluniau wrth gefn os oes problemau o ran perfformiad ariannol cwsmer
  14. ymgynghori a chyfathrebu â rhanddeiliaid i wneud yn siŵr eu bod yn cael gweld data priodol am berfformiad ariannol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth bresennol mewn perthynas â threfniadau cyllid cwsmeriaid, gan gynnwys Diogelu Data a Gwasanaethau Ariannol
  2. y safonau a'r rheoliadau ar gyfer cyfrifyddu ac adrodd ariannol
  3. fformatau a phrosesau adrodd ariannol y cwmni ar gyfer gwerthu a data cwsmeriaid
  4. y berthynas rhwng cadw cwsmeriaid a chynyddu proffidioldeb
  5. cysyniadau gwerth oes a phroffidioldeb oes fel modd o fesur gwerth cwsmeriaid
  6. y mathau o wybodaeth sydd eu hangen i gynnal gwerthusiadau ariannol
  7. sut i ddatblygu rhagolygon llif arian
  8. y technegau llif arian gostyngol a pham mae’r rhain yn bwysig i fesur elw posibl cwsmeriaid
  9. sut i ddatblygu datganiad elw ar gyfer cwsmer
  10. y gwahaniaeth rhwng costau sefydlog ac amrywiol a sut gall y rhain effeithio ar broffidioldeb cwsmeriaid
  11. y farchnad fewnol ac allanol a sut mae rhanddeiliaid yn achosi costau amrywiol
  12. sut i ddefnyddio cymarebau ariannol i ddehongli iechyd ariannol sefydliad
  13. y mathau o wiriadau credyd allanol
  14. sut i ddefnyddio gwybodaeth ariannol i bennu terfynau credyd a rheoli gweithgareddau credyd cwsmeriaid
  15. sut i gynnal asesiad risg a datblygu meini prawf ar gyfer risg
  16. yr offer asesu a rheoli risg a'r meini prawf risg a ddefnyddiwyd
  17. y dulliau adrodd ariannol a sut y gellir defnyddio'r rhain i adrodd gwybodaeth am gwsmeriaid
  18. sut i gynnal asesiadau cymharol o wybodaeth ariannol
  19. sut i ddadansoddi tueddiadau
  20. sut i ymgymryd â chynlluniau wrth gefn
  21. sut i gynnal asesiad ac ysgrifennu adroddiadau ariannol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFASAL010

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr marchnata a gwerthu, Rheolwyr cyfrifon gwerthu a datblygu busnes, Galwedigaethau sy’n gysylltiedig â gwerthu, Gweithredwyr gwerthu busnes, Gweithredwyr gwerthu, Cyfarwyddwyr Cyllid a Gwerthu

Cod SOC

7129

Geiriau Allweddol

Perfformiad ariannol; offer ariannol; asesu risgiau busnes ac ariannol; gwneud yr elw mwyaf sy’n bosibl; mesur gwerth posibl cwsmeriaid; llif arian gwerth oes; cyflawni proffidioldeb targed; technegau llif arian gostyngol; datganiad elw cwsmer;