Monitro ac adolygu strategaethau, polisïau a phrosesau rheoli risg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro ac adolygu strategaethau, polisïau a phrosesau rheoli risg. Mae'n cynnwys cadarnhau'r meini prawf ar gyfer monitro ac adolygu'r strategaeth, sefydlu a chytuno ar fframwaith adolygu, methodoleg ac adnoddau, casglu data dilys, dibynadwy a chynhwysfawr, a gwerthuso data ansoddol a meintiol. Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes rheoli risg a gweithwyr eraill sy'n gyfrifol am fonitro ac adolygu strategaethau, polisïau a phrosesau rheoli risg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cadarnhau'r meini prawf ar gyfer monitro'r strategaeth rheoli risg a’i adolygu
2. pennu risgiau i’w hadolygu a’u monitro gan staff mewnol a rhanddeiliaid allanol
3. sefydlu fframwaith adolygu a gofyn am sêl bendith gweithwyr mewnol priodol sy’n gwneud penderfyniadau
4. cytuno ar y fethodoleg adolygu a'r adnoddau cysylltiedig gyda gweithwyr mewnol sy'n gwneud penderfyniadau a rhanddeiliaid allanol
5. casglu data dilys, dibynadwy a chynhwysfawr, gan gynnwys adborth gan randdeiliaid allanol
6. defnyddio dulliau y cytunwyd arnynt i adolygu data meintiol ac ansoddol yn erbyn meini prawf y cytunwyd arnynt
7. nodi'r rhesymau dros amrywiadau mewn perfformiad yn erbyn disgwyliadau
8. rhoi gwybod i'r staff perthnasol a rhanddeiliaid allanol am ganfyddiadau'r adolygiad
9. rhoi sicrwydd i grwpiau trefniadol priodol am effeithiolrwydd y broses rheoli risg
10. cymryd camau priodol yn dibynnu ar ganlyniadau'r adolygiad
11. gwneud yn siŵr bod y strategaethau, polisïau a phrosesau rheoli risg yn cydymffurfio â gofynion a safonau cyfreithiol a rheoliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Mae angen i chi wybod a deall:
1. nodau, amcanion a chynlluniau busnes eich sefydliad
2. strwythur eich sefydliad a'i gynhyrchion a'i wasanaethau
3. diwylliant eich sefydliad a chwmpas y risgiau sy'n gysylltiedig ag ef
4. yr amgylchedd busnes a'r farchnad y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddynt
5. y gofynion a'r safonau cyfreithiol a rheoliadol cyfredol sy'n berthnasol i reoli risg
6. egwyddorion llywodraethu da, cyfrifoldeb amgylcheddol a chymdeithasol, ac arferion moesegol sy'n berthnasol i reoli risg
7. cysyniadau rheoli risg ac ymwybyddiaeth o risg
8. polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rheoli risg, a dogfennaeth ategol gysylltiedig
9. beth yw cynnwys y fframwaith adolygu a sut i’w ddatblygu
10. y dulliau a'r gweithdrefnau adolygu sy’n gysylltiedig â rheoli risg
11. ffynonellau data dilys a dibynadwy
12. y mecanweithiau ar gyfer rhoi sicrwydd a'r rhesymeg
13. sut i ddefnyddio tystiolaeth o'r adolygiad i wneud penderfyniadau ar gamau priodol