Adrodd ar risgiau, eu trin a’u monitro

URN: INSRMA005
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Risg
Datblygwyd gan: Instructus
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag adrodd ar risgiau, eu trin a’u monitro. Mae'n cynnwys y mathau o ddulliau adrodd a chyfathrebu, nodi dulliau priodol o drin risg, yn ogystal â monitro ac adolygu'r prosesau rheoli risg. Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes rheoli risg a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gyfrifol am adrodd ar risgiau, eu trin a’u monitro.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.      coladu risgiau o'r cynllun rheoli risg i roi gwybod i'r perchnogion risg perthnasol, rheolwyr a bwrdd y cyfarwyddwyr
2.      coladu'r risgiau er mwyn adrodd yn allanol i'r rhanddeiliaid perthnasol yn unol â llywodraethu corfforaethol
3.      blaenoriaethu a dirprwyo neu uwchgyfeirio risgiau fel y bo'n briodol
4.      neilltuo staff mewnol priodol a rhanddeiliaid allanol i fod yn berchen ar risg
5.      nodi’r camau rheoli sydd eu hangen i liniaru risgiau a nodwyd
6.      nodi unrhyw ddiffygion sylweddol a diffinio camau adfer, lle bo'n briodol
7.      nodi triniaethau risg priodol, gan weithio gyda pherchnogion risg mewnol, rheolwyr, bwrdd cyfarwyddwyr a rhanddeiliaid allanol
8.      monitro ac adolygu gweithgareddau rheoli risg a gwneud diwygiadau priodol lle bo'n addas
9.      rheoli a chynnal y gofrestr risg, gan wneud yn siŵr bod risgiau’n cael eu cofnodi’n gywir a thynnu sylw at unrhyw anghysondebau mewn cofnodion
10.  rheoli materion sy'n codi o nodi risg, gan gymryd camau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau rheoli risg
11.  cwblhau dogfennaeth a’u diweddaru’n briodol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau rheoli risg
12.  cynhyrchu adroddiadau risg ar gyfer y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a gwneud yn siŵr bod y staff mewnol, yn ogystal â rhanddeiliad allanol lle bo’n briodol, yn cael gwybod am y camau gweithredu gofynnol
13.  gwneud yn siŵr bod risgiau a chamau rheoli yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd
14.  gwneud yn siŵr bod y gwaith rheoli risg yn cydymffurfio â gofynion a safonau cyfreithiol a rheoliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.      nodau, amcanion a chynlluniau busnes eich sefydliad
2.      strwythur eich sefydliad a'i gynhyrchion a'i wasanaethau
3.      diwylliant eich sefydliad a chwmpas y risgiau sy'n gysylltiedig ag ef
4.      yr amgylchedd busnes a'r farchnad y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddynt
5.      y gofynion a'r safonau cyfreithiol a rheoliadol cyfredol sy'n berthnasol i reoli risg
6.      egwyddorion llywodraethu da, cyfrifoldeb amgylcheddol a chymdeithasol, ac arferion moesegol sy'n berthnasol i reoli risg
7.      cysyniadau rheoli risg ac ymwybyddiaeth o risg
8.      sut i neilltuo staff mewnol a rhanddeiliaid allanol i fod yn berchen ar risg
9.      sianeli cyfathrebu ac adrodd mewnol ac allanol
10.  ystod y rolau a chyfrifoldebau corfforaethol sy’n gysylltiedig â rheoli risg
11.  y systemau perthnasol ar gyfer rheoli'r risgiau yn dibynnu ar eu difrifoldeb
12.  y prosesau trin risg a’r rheolaethau ar gyfer gwahanol fathau o risgiau
13.  y systemau adolygu a monitro perthnasol
14.  gweithdrefnau rheoli parhad busnes eich sefydliad a sut mae'r rhain yn gysylltiedig â rheoli risg
15.  polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rheoli risg a dogfennau ategol cysylltiedig
16.  sut i reoli materion sy'n codi o ganlyniad i nodi risg, gan gynnwys diffygion sylweddol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFARMA005

Galwedigaethau Perthnasol

Ymgynghorwyr rheoli a dadansoddwyr busnes, Gweithwyr proffesiynol cyswllt a busnes n.e.c

Cod SOC

2431

Geiriau Allweddol

Strategaeth rheoli risg; strategaeth sefydliadol; cynllun busnes; parodrwydd i dderbyn risg; agwedd at risg; ffactorau risg; diwylliant risg; amcanion rheoli risg