Codi ymwybyddiaeth o reoli risg mewn sefydliad

URN: INSRMA003
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Risg
Datblygwyd gan: Instructus
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o reoli risg mewn sefydliad. Mae'n cynnwys datblygu cynllun hyfforddiant ac ymwybyddiaeth o reoli risg yn unol ag anghenion eich sefydliad, gan hyrwyddo manteision rheoli risgiau. Mae'r safon yn cynnwys darparu hyfforddiant, penodi hyrwyddwyr rheoli risg, cymorth a chyngor a gwneud yn siŵr bod prosesau rheoli risg wedi'u hymgorffori yn rhan o swyddogaethau'r sefydliad. Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes rheoli risg ac eraill sy'n gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o reoli risg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.      hyrwyddo a chyfleu manteision rheoli risgiau sy'n gysylltiedig â gweithgareddau eich sefydliad
2.      asesu ymwybyddiaeth o reoli risg ymhlith y gweithwyr
3.      datblygu cynllun hyfforddi rheoli risg yn unol ag anghenion gweithwyr a'ch sefydliad
4.      datblygu cynllun ymwybyddiaeth o reoli risg sy'n ategu ac yn cynorthwyo anghenion hyfforddi gweithwyr a'r sefydliad
5.      nodi hyrwyddwyr rheoli risg i gyfathrebu’r wybodaeth am risg, hyrwyddo cydymffurfiaeth ac adrodd ar feysydd y mae angen eu gwella
6.      trefnu hyfforddiant, cymorth a chyngor ar reoli risg i weithwyr yn unol ag anghenion a chynllun ymwybyddiaeth a nodwyd
7.      cadw golwg ar yr arferion gorau ym maes rheoli risg i barhau i ddatblygu arbenigedd personol a chorfforaethol
8.      gwerthuso effeithiolrwydd eich ymwybyddiaeth o reoli risg a hyfforddiant perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.      nodau, amcanion a chynlluniau busnes eich sefydliad
2.      strwythur eich sefydliad a'i gynhyrchion a'i wasanaethau
3.      diwylliant eich sefydliad a chwmpas y risgiau sy'n gysylltiedig ag ef
4.      y gofynion a'r safonau cyfreithiol a rheoliadol cyfredol sy'n berthnasol i reoli risg
5.      egwyddorion llywodraethu da, cyfrifoldeb amgylcheddol a chymdeithasol, ac arferion moesegol sy'n berthnasol i reoli risg
6.      cysyniadau rheoli risg ac ymwybyddiaeth o risg
7.      sut mae prosesau rheoli risg yn gysylltiedig â chynllunio busnes, pennu cyllidebau a gwneud penderfyniadau
8.      sut i asesu cwmpas ymwybyddiaeth o reoli risg
9.      yr hyn sydd wedi’i gynnwys mewn hyfforddiant a chynllun ymwybyddiaeth o reoli risg a sut i fesur eu heffeithiolrwydd
10.  pwysigrwydd ymgorffori ymwybyddiaeth o risg ar draws eich sefydliad a dulliau o gyflawni hyn
11.  y mathau o rolau a chyfrifoldebau y gallai hyrwyddwyr rheoli risg fod yn meddu arnynt yn y sefydliad
12.  sut i gyfleu manteision rheoli risg ar draws eich sefydliad
13.  sut i gyfleu'r amrywiaeth o risgiau i weithgareddau eich sefydliad
14.  y mathau o hyfforddiant, cymorth a chyngor y gallai fod eu hangen a'r dulliau y gellir eu defnyddio i'w cyflwyno
15.  ffynonellau'r wybodaeth ddiweddaraf am arferion gorau ym maes rheoli risg


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFARMA003

Galwedigaethau Perthnasol

Ymgynghorwyr rheoli a dadansoddwyr busnes, Gweithwyr proffesiynol cyswllt a busnes n.e.c

Cod SOC

2431

Geiriau Allweddol

Strategaeth rheoli risg; strategaeth sefydliadol; cynllun busnes; parodrwydd i dderbyn risg; agwedd at risg; ffactorau risg; diwylliant risg; amcanion rheoli risg