Datblygu polisïau a gweithdrefnau rheoli risg

URN: INSRMA002
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Risg
Datblygwyd gan: Instructus
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu polisïau a gweithdrefnau rheoli risg. Mae'r rhain yn diffinio'r prosesau a'r dulliau i'w dilyn mewn perthynas â rheoli risg. Dylai polisïau a gweithdrefnau rheoli risg gael eu strwythuro’n systematig yn unol ag anghenion sefydliadol a rhaid iddynt gynnwys yr holl randdeiliaid. Mae'n cynnwys sefydlu isadeiledd priodol ar gyfer risg a chynhyrchu polisïau a gweithdrefnau yn unol â nodau ac amcanion eich sefydliad. Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes rheoli risg ac eraill sy'n gyfrifol am ddatblygu polisïau a gweithdrefnau rheoli risg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.      diffinio'r parodrwydd i dderbyn risg a'r lefelau goddefgarwch ar gyfer eich sefydliad
2.      sefydlu isadeiledd priodol o ran risg
3.      dyrannu a phennu rolau a chyfrifoldebau unigolion a phwyllgorau i'r risgiau a nodwyd
4.      nodi'r fethodoleg rheoli risg a'r prosesau i'w dilyn
5.      pennu strwythurau ar gyfer sianeli cyfathrebu, monitro risg ac adrodd
6.      gwneud yn siŵr bod polisïau a gweithdrefnau rheoli risg yn cael eu datblygu yn unol â’r strategaeth rheoli risg
7.      cynhyrchu polisïau a gweithdrefnau rheoli risg yn unol â gofynion cyfreithiol a rheoliadol, safonau cyfredol a fframweithiau rheoli risg
8.      gwneud yn siŵr bod polisïau a gweithdrefnau rheoli risg yn gymesur ag anghenion eich sefydliad a bod modd eu rhoi ar waith yn gyson ar draws y sefydliad
9.      trafod polisïau a gweithdrefnau rheoli risg a chytuno arnynt gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewnol a gofyn am sêl eu bendith
10.  cyfleu beth yw’r isadeiledd, y polisïau a’r gweithdrefnau rheoli risg i staff mewnol a rhanddeiliaid allanol, gan wneud yn siŵr eu bod yn eu deall
11.  pennu pwy sy’n berchen ac yn gyfrifol am risg yn eich sefydliad
12.  datblygu dogfennau canllaw priodol ar gyfer staff mewnol a rhanddeiliaid allanol i gynorthwyo’r gwaith o roi isadeiledd, polisïau a gweithdrefnau rheoli risg ar waith
13.  cynllunio camau i gydymffurfio gymaint â phosibl â phrosesau rheoli risg a’u rhoi ar waith
14.  nodi cwmpas y gwelliannau er mwyn gwerthuso'r polisïau a’r gweithdrefnau rheoli risg yn rheolaidd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.      maint eich sefydliad a'i gapasiti
2.      yr amgylchedd busnes a'r farchnad y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddynt
3.      nodau, amcanion a chynlluniau busnes eich sefydliad
4.      strwythur eich sefydliad a'i gynhyrchion a'i wasanaethau
5.      diwylliant eich sefydliad a'i agwedd at risgiau
6.      y gofynion cyfreithiol a rheoliadol cyfredol o ran rheoli risg
7.      y safonau a'r fframweithiau perthnasol wrth reoli risg
8.      egwyddorion llywodraethu da, ffactorau amgylcheddol, cyfrifoldeb chymdeithasol a’r arferion moesegol sy'n berthnasol i reoli risg
9.      parodrwydd eich sefydliad i dderbyn risg a’i lefelau goddefgarwch
10.  y mathau o isadeiledd risg a’r adnoddau priodol i liniaru'r effaith
11.  y mathau o rolau sy’n berchen ac yn gyfrifol am risg yn eich sefydliad
12.  rolau a chyfrifoldebau unigolion a phwyllgorau
13.  egwyddorion a dulliau ysgrifennu polisïau a gweithdrefnau rheoli risg
14.  elfennau polisi rheoli risg a phrosesau rheoli risg
15.  y dogfennau ategol mewnol sydd eu hangen i gofnodi risgiau, eu monitro ac adrodd arnynt
16.  y dogfennau, y polisïau a’r gweithdrefnau ategol allanol sy’n berthnasol i’r risgiau sy’n cael eu rheoli a’u heffeithiau posibl ar eich sefydliad
17.  sut i wneud yn siŵr bod polisïau a gweithdrefnau yn gymesur ag anghenion eich sefydliad
18.  y sianeli cyfathrebu i wneud yn siŵr bod yr isadeiledd, y polisïau a'r gweithdrefnau rheoli risg yn cael eu deall
19.  sut i ddatblygu dogfennau canllaw ar gyfer rheoli risg sy’n cyd-fynd â gweithgareddau sefydliadol
20.  pam mae’n bwysig adolygu'r polisïau a'r gweithdrefnau risg yn rheolaidd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFARMA002

Galwedigaethau Perthnasol

Ymgynghorwyr rheoli a dadansoddwyr busnes, Gweithwyr proffesiynol cyswllt a busnes n.e.c

Cod SOC

2431

Geiriau Allweddol

Strategaeth rheoli risg; strategaeth sefydliadol; cynllun busnes; parodrwydd i dderbyn risg; agwedd at risg; ffactorau risg; diwylliant risg; amcanion rheoli risg