Datblygu strategaeth rheoli risg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu strategaeth rheoli risg yn unol â chynhyrchion a gwasanaethau, amcanion a chynlluniau busnes eich sefydliad. Mae'n cynnwys nodi'r holl fathau o risgiau cysylltiedig a'u hasesu; mae hefyd yn golygu dadansoddi a gwerthuso tueddiadau a digwyddiadau a allai effeithio ar y sefydliad. Mae strategaeth Rheoli Risg yn cynnwys cylch parhaus o nodi, asesu, ymateb i risgiau a'u monitro. Mae hefyd yn cynnwys ymgynghori â rhanddeiliaid allanol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewnol. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes rheoli risg ac eraill sy'n gyfrifol am ddatblygu strategaeth rheoli risg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. nodi tueddiadau, digwyddiadau a risgiau sy’n gysylltiedig â chynhyrchion a gwasanaethau, amcanion a chynlluniau busnes eich sefydliad
2. diffinio'r amcanion strategol, tactegol a gweithredol ar gyfer strategaeth rheoli risg
3. gwneud yn siŵr bod y strategaeth yn cyd-fynd ag amcanion a gweithgareddau sefydliadol
4. nodi ffactorau risg a allai effeithio ar eich sefydliad
5. asesu pa mor agored i niwed yw gweithgareddau eich sefydliad
6. dadansoddi a gwerthuso cwmpas y goblygiadau sy’n peri risg i'r sefydliad
7. cynnig atebion rheoli risg a gwneud yn siŵr bod y rhain yn briodol
8. datblygu’r camau lliniaru yn unol â thebygolrwydd y risgiau a nodwyd a difrifoldeb eu heffaith
9. diffinio sut mae risgiau a chanlyniadau asesiadau risg yn cael eu dogfennu
10. gofyn am gyngor ac arweiniad gan ffynonellau arbenigol cydnabyddedig ar ddatblygu strategaeth rheoli risg
11. ymgynghori â rhanddeiliaid allanol ac addasu'r strategaeth yn unol â'u hadborth
12. trafod a chytuno ar y strategaeth gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewnol a gofyn am eu sêl bendith
13. adolygu’r strategaeth rheoli risg yn rheolaidd yn unol â’r canlyniadau a’r gwersi a ddysgwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. nodau, amcanion a chynlluniau busnes eich sefydliad
2. strwythur eich sefydliad a'i gynhyrchion a'i wasanaethau
3. yr amgylchedd busnes a'r farchnad y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddynt
4. diwylliant eich sefydliad a chwmpas y risgiau sy'n gysylltiedig ag ef
5. yr amcanion strategol, tactegol a gweithredol ar gyfer strategaeth rheoli risg
6. y gofynion a'r safonau cyfreithiol a rheoliadol cyfredol sy'n berthnasol i reoli risg
7. egwyddorion llywodraethu da, cyfrifoldeb amgylcheddol a chymdeithasol, ac arferion moesegol sy'n berthnasol i reoli risg
8. cysyniadau rheoli risg ac ymwybyddiaeth o risg
9. egwyddorion a dulliau ysgrifennu strategaeth rheoli risg
10. cwmpas a ffocws asesiad risg
11. y dulliau asesu, dadansoddi a gwerthuso risgiau a allai effeithio ar eich sefydliad
12. pwysigrwydd datblygu camau lliniaru yn unol â thebygolrwydd risgiau a difrifoldeb yr effaith
13. sut i wneud yn siŵr bod y strategaeth risg yn cyd-fynd ag amcanion sefydliadol a chynlluniau busnes
14. yr arbenigwyr y mae angen ymgynghori â nhw ynghylch y strategaeth rheoli risg
15. sut y gellir nodi ystod o ffynonellau gwybodaeth perthnasol am reoli risg a chael gafael arnynt
16. rolau a chyfrifoldebau rhanddeiliaid allanol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau’n fewnol sy'n gysylltiedig â rheoli risgiau
17. eich gweithdrefnau llywodraethu sefydliadol sy’n sail i’r strategaeth rheoli risg