Cynnig prosesau busnes i gwmnïau allanol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnig prosesau busnes nad ydynt yn rhan o gymwyseddau craidd eich sefydliad i gwmnïau allanol. Rydych chi'n nodi prosesau busnes nad ydynt yn rhai craidd a allai gael eu cynnig i gwmnïau allanol, gan asesu'r manteision a'r risgiau allai ddeillio o hynny i'ch sefydliad. Rydych chi'n paratoi achosion busnes ynghylch cynnig i gwmnïau allanol ac yn cyflwyno'r rhain i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gadarnhau cytundeb. Rydych hefyd yn rheoli'r goblygiadau o ran adnoddau dynol sy'n gysylltiedig â chynnig gwaith i gwmnïau allanol. Mae'r safon yn cynnwys datblygu manyleb i dendro gwerthwyr, gwahodd gwerthwyr i gyflwyno tendrau ac asesu ceisiadau i ddewis y cyflenwr mwyaf addas. Rydych chi'n gweithio gydag arbenigwyr cyfreithiol i drafod contract y gwerthwr ac yn cyfathrebu'r cynlluniau i randdeiliaid mewnol ac allanol. Rydych chi'n gweithio gyda'r gwerthwr i drosglwyddo prosesau busnes, ac yna'n rheoli risgiau a monitro perfformiad yn erbyn y contract.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnwys cydweithwyr a rhanddeiliaid eraill wrth wneud penderfyniadau ynghylch cynnig gwaith i gwmnïau allanol a rheoli'r trefniadau hynny
- dadansoddi cymwyseddau craidd eich sefydliad a nodi prosesau busnes di-graidd
- asesu manteision, costau, anfanteision, risgiau a goblygiadau cyfreithiol a moesegol posibl o gynnig prosesau di-graidd i gwmnïau allanol
- cynhyrchu achosion busnes ar gyfer cynnig prosesau di-graidd i gwmnïau allanol
- cyflwyno achosion busnes i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a chadarnhau camau gweithredu os ydynt yn cytuno ei bod yn werth mynd ar drywydd cynnig y gwaith i gwmnïau allanol
- rheoli'r goblygiadau adnoddau dynol o gynnig gwaith i gwmnïau allanol, gan gynnwys unrhyw ddileu swyddi, adleoli, hyfforddi a datblygu, a materion diwylliannol
- nodi a gwerthuso darpar werthwyr i gynnig prosesau iddynt
- datblygu manyleb o'ch gofynion wrth gynnig gwaith i gwmnïau allanol
- gwahodd darpar werthwyr i dendro am waith a gynigir i gwmnïau allanol
- asesu tendrau a dderbynnir yn erbyn y manylebau
- dewis y gwerthwr sy'n bodloni eich meini prawf orau
- trafod contract a gynigir i gwmnïau allanol gyda'r gwerthwr sy'n nodi maint a lefel y gwasanaeth sydd i'w ddarparu, telerau talu
- monitro perfformiad y gwerthwr mewn partneriaeth â gwaith gydag arbenigwyr cyfreithiol
- cyfathrebu cynlluniau i gynnig gwaith i gwmnïau allanol, a gwneud hynny'n fewnol ac yn allanol yn ôl yr angen
- monitro ymatebion staff i gynlluniau i gynnig gwaith i gwmnïau allanol a mynd i'r afael â'u pryderon
- datblygu cynllun i drosglwyddo'r prosesau busnes i'r gwerthwr gan gynnwys cynlluniau wrth gefn i reoli risgiau
- trosglwyddo'r prosesau busnes i'r gwerthwr, gan fynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg
- monitro perfformiad parhaus y gwerthwr yn unol â'r contract, gan fynd i'r afael ag unrhyw anghysonderau
- adolygu'r trefniant o roi'r gwaith i gwmnïau allanol ar adegau y cytunwyd arnynt ac os bydd newidiadau sylweddol yn yr amgylchedd gweithredu
- gwerthuso'r prosesau o gynnig gwaith i gwmnïau allanol i nodi meysydd i'w gwella
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i gynnig prosesau busnes i gwmnïau allanol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynnwys cydweithwyr a rhanddeiliaid mewn penderfyniadau i gynnig gwaith i gwmnïau allanol a rheoli'r trefniadau hynny
2. y gwahaniaeth rhwng prosesau busnes craidd a di-graidd
3. sut i asesu manteision, costau, anfanteision, risgiau a goblygiadau cyfreithiol a moesegol posibl o gynnig prosesau di-graidd i gwmnïau allanol
4. sut i gyflwyno achos busnes dros gynnig prosesau di-graidd i gwmnïau allanol
5. rheoli'r goblygiadau posibl o ran adnoddau dynol o gynnig gwaith i gwmnïau allanol, gan gynnwys unrhyw ddileu swyddi, adleoli, hyfforddi a datblygu, a materion diwylliannol
6. sut i nodi a gwerthuso darpar werthwyr allanol y gallech gynnig y broses iddynt, gan gynnwys defnyddio systemau graddio gwerthwyr
7. pwysigrwydd gwahodd darpar werthwyr i dendro yn erbyn manyleb o'ch gofynion
8. sut i asesu a dewis y gwerthwr sy'n bodlonirrpa eich meini prawf orau
9. y technegau ar gyfer trafod a chytuno ar gontract allanol sy'n rhwymo'n gyfreithiol, a sut i weithio gydag arbenigwyr cyfreithiol
10. pwysigrwydd contract allanol sy'n rhwymo'n gyfreithiol gyda gwerthwr sy'n nodi'n fanwl faint a lefel y gwasanaeth sydd i'w ddarparu, telerau talu a sut bydd perfformiad y gwerthwr yn cael ei fonitro
11. pwysigrwydd cyfathrebu, yn fewnol ac yn allanol yn ôl yr angen, y cynlluniau i gynnig gwaith i gwmnïau allanol, a sut i wneud hynny'n glir ac yn effeithiol
12. sut i fonitro perfformiad gwerthwr yn unol â'r contract, gan fynd i'r afael ag unrhyw anghysonderau yn gyflym ac yn effeithiol
13. pwysigrwydd gweithio'n agos gyda'r gwerthwr i drosglwyddo'r broses fusnes iddynt, a sut i wneud hyn
14. sut i nodi risgiau posibl a materion sy'n dod i'r amlwg wrth drosglwyddo'r broses fusnes a sut i'w datrys
15. pwysigrwydd adolygu'r trefniant i gynnig gwaith i gwmnïau allanol ar adegau y cytunwyd arnynt ac os bydd newidiadau o bwys yn yr amgylchedd busnes
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
16. gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer cynnig prosesau busnes i gwmnïau allanol
17. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal i gynnig prosesau busnes i gwmnïau allanol
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
18. yr unigolion ym maes eich gwaith, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu cymwyseddau a'u potensial
19. prosesau busnes craidd a di-graidd eich sefydliad
20. gweithdrefnau eich sefydliad a gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer gwahodd tendrau i gyflenwi eich gofynion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Dadansoddi
- Asesu
- Cyfathrebu
- Gwneud penderfyniadau
- Gwerthuso
- Monitro
- Cyd-drafod
- Argyhoeddi
- Cyflwyno gwybodaeth
- Cwestiynu
- Adolygu
- Rheoli risg
- Meddwl yn strategol