Dewis cyflenwyr trwy broses dendro
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dewis cyflenwyr i gyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau trwy broses dendro ffurfiol yn erbyn manyleb. Rydych chi'n creu manyleb ar gyfer y cynhyrchion a'r gwasanaethau ac yn gwahodd darpar gyflenwyr i dendro, gan roi gwybodaeth am y broses a'r gofynion. Rydych chi'n datblygu meini prawf i werthuso tendrau a'u cymhwyso i nodi'r cyflenwr sy'n diwallu eich anghenion orau. Rydych hefyd yn contractio gyda'r cyflenwr llwyddiannus ac yn rhoi adborth i gynigwyr aflwyddiannus gan ddilyn gweithdrefnau eich sefydliad.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ofyn am gefnogaeth gan gydweithwyr neu arbenigwyr caffael neu gyfreithiol ar unrhyw agweddau ar dendro yr ydych yn ansicr yn eu cylch
- paratoi manyleb sy'n disgrifio'r cynhyrchion a'r gwasanaethau sy'n ofynnol, gan gynnwys gwybodaeth am ansawdd, amser a chyfyngiadau cost
- gwahodd nifer ac ystod o ddarpar gyflenwyr â chymwysterau addas i dendro, yn gymesur â gwerth y contract ac amrywiaeth y cyflenwyr sydd ar gael
- rhoi gwybodaeth lawn am y broses dendro
- cadarnhau dyddiadau cau ar gyfer derbyn tendrau
- amlinellu manylion y contract
- nodi sut yr ymdrinnir ag ymholiadau cyn tendr
- ymateb i ymholiadau cyn tendr fel bod yr un wybodaeth ar gael i bob darpar gyflenwr
- sefydlu meini prawf i ganiatáu i dendrau gael eu gwerthuso'n deg fel y gellir dewis y cyflenwr sy'n darparu'r gymysgedd gorau o ansawdd, cost, prydlondeb a dibynadwyedd
- derbyn, recordio ac agor tendrau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- gwerthuso tendrau, naill ai eich hun neu gydag eraill yn ôl yr angen, gan gymhwyso eich meini prawf
- gofyn am eglurhad gan ddarpar gyflenwyr lle bo angen
- cynnig contract i'r cyflenwr a gyflwynodd y tendr gorau yn ôl gwerthusiad i gyflenwi'r cynhyrchion a'r gwasanaethau
- hysbysu darpar gyflenwyr aflwyddiannus o ganlyniad y gwerthusiad a rhoi adborth iddynt lle bo hynny'n briodol
- datrys unrhyw ymholiadau ôl-dendr gyda chyflenwyr aflwyddiannus
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i ddewis cyflenwyr trwy broses dendro
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau sefydliadol a gofynion cyfreithiol a moesegol wrth ddewis cyflenwyr
2. sut i lunio manyleb sy'n disgrifio'r cynhyrchion a'r gwasanaethau sy'n ofynnol, gan gynnwys gwybodaeth am ansawdd, amser a chyfyngiadau o ran cost, lle bo hynny'n briodol
3. pwysigrwydd cyfathrebu gwybodaeth yn glir, yn gryno ac yn gywir, a sut i wneud hynny
4. sut i nodi darpar gyflenwyr sydd â chymwysterau addas i dendro, gan ystyried gwerth y contract ac amrywiaeth y cyflenwyr sydd ar gael
5. pwysigrwydd cynnwys gwybodaeth lawn am y broses dendro, dyddiadau cau ar gyfer derbyn tendrau, manylion contract a sut yr ymdrinnir ag ymholiadau cyn tendr
6. sut i ddelio ag ymholiadau cyn tendro mewn ffyrdd sy'n sicrhau bod yr un wybodaeth ar gael i bob darpar gyflenwr
7. sut i sefydlu meini prawf clir a sut i werthuso'r tendrau'n deg, gan ddefnyddio'r meini prawf, a dewis y cyflenwr sy'n darparu'r cymysgedd gorau posibl o ran ansawdd, cost, prydlondeb a dibynadwyedd
8. sut i werthuso tendrau yn drylwyr a phwysigrwydd gofyn am eglurhad gan ddarpar gyflenwyr, lle bo angen
9. pwysigrwydd hysbysu darpar gyflenwyr aflwyddiannus o ganlyniad y gwerthusiad a rhoi adborth iddynt, lle bo hynny'n briodol
10. sut i ddatrys unrhyw ymholiadau ôl-dendr gyda chyflenwyr aflwyddiannus yn brydlon ac yn effeithiol
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
11. gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer dewis cyflenwyr
12. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i ddewis cyflenwyr trwy broses dendro
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
13. gweithdrefnau a gofynion cyfreithiol a moesegol eich sefydliad ar gyfer dewis cyflenwyr
14. terfynau eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd a'r ffynonellau cyngor, arweiniad a chefnogaeth sydd ar gael (gan gydweithwyr neu arbenigwyr caffael neu gyfreithiol) ar unrhyw agweddau ar dendro am gyflenwadau nad ydych yn siŵr yn eu cylch
15. manylion y manylebau am gynhyrchion a gwasanaethau sy'n ofynnol
16. amrywiaeth y cyflenwyr sydd ar gael ichi yn eich rôl a sut i gysylltu â nhw
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Asesu
- Cyfathrebu
- Gwneud penderfyniadau
- Gwerthuso
- Cyflwyno gwybodaeth
- Datrys problemau
- Rhoi adborth
- Cwestiynu
- Adolygu
- Gosod amcanion
- Rheoli amser