Darparu amgylcheddau ac arferion gwaith iach a diogel

URN: INSML055
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu amgylcheddau ac arferion gwaith iach a diogel. Rydych yn sicrhau bod yr amgylchedd ffisegol ac arferion gwaith ym maes eich cyfrifoldeb yn cydymffurfio â datganiad polisi iechyd a diogelwch eich sefydliad a bod adnoddau'n ddiogel. Rydych chi'n ymgynghori â'ch tîm a'ch cynrychiolwyr ar faterion iechyd a diogelwch, gan sicrhau bod systemau ar waith i nodi ac asesu peryglon a risgiau. Rydych hefyd yn cymryd camau i reoli peryglon neu eu dileu, gan ddefnyddio arbenigwyr neu gyfeirio pryderon at gydweithwyr pan fyddant y tu allan i derfynau eich awdurdod. Mae'r safon hefyd yn cynnwys sefydlu systemau i fonitro, mesur ac adrodd ar iechyd, diogelwch, diogeledd a chynhyrchedd ym maes eich gwaith. Rydych chi'n dangos eich ymrwymiad i iechyd, diogelwch, diogeledd a chynhyrchedd trwy osod esiampl dda i'ch tîm.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi eich cyfrifoldebau a'ch rhwymedigaethau personol o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch
  2. cyfleu datganiad polisi iechyd a diogelwch eich sefydliad i weithwyr ym maes eich cyfrifoldeb a chydweithwyr eraill
  3. sicrhau bod yr amgylcheddau gwaith a'r arferion ym maes eich cyfrifoldeb yn cydymffurfio â datganiad polisi iechyd a diogelwch eich sefydliad a'u bod yn cael eu hadolygu yn ôl yr angen
  4. gwirio cydymffurfiaeth â datganiad polisi iechyd a diogelwch eich sefydliad yn dilyn unrhyw newidiadau o bwys i'r amgylchedd, arferion neu ddeddfwriaeth
  5. ymgynghori â gweithwyr ym maes eich cyfrifoldeb neu eu cynrychiolwyr ar faterion iechyd a diogelwch, yn unol â gofynion y sefydliad
  6. sefydlu system ar gyfer nodi peryglon iechyd a diogelwch ym maes eich cyfrifoldeb
  7. rhoi system asesu risg ar waith ym maes eich cyfrifoldeb
  8. sicrhau bod system ar waith ar gyfer nodi ac asesu risgiau i ddiogelwch adnoddau ym maes eich cyfrifoldeb
  9. cytuno ar gamau i ddileu neu reoli peryglon a nodwyd a rheoli risgiau a nodwyd
  10. cyfeirio peryglon a risgiau a nodwyd sydd y tu allan i lefel/maes eich awdurdod at gydweithwyr sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch
  11. sicrhau bod iechyd a diogelwch gweithwyr a diogelwch adnoddau a gwybodaeth yn brif ystyriaethau wrth ddylunio neu adolygu amgylcheddau ac arferion gwaith
  12. dyrannu digon o adnoddau ar draws maes eich cyfrifoldeb i ddelio â materion iechyd, diogelwch a diogeledd
  13. ceisio arbenigedd arbenigol, lle bo angen, a'i ddefnyddio
  14. sefydlu systemau ar gyfer monitro, mesur ac adrodd ar berfformiad iechyd, diogelwch, diogeledd a chynhyrchedd ym maes eich cyfrifoldeb
  15. dangos eich ymrwymiad personol i iechyd, diogelwch a chynhyrchedd trwy eich gweithredoedd
  16. adolygu sut mae datganiad polisi iechyd a diogelwch yn cael ei gymhwyso ym maes eich cyfrifoldeb a gwneud argymhellion i lywio datblygiadau yn y dyfodol
  17. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i ddarparu amgylcheddau ac arferion gwaith iach a diogel

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      pwysigrwydd iechyd a diogelwch yn y gweithle, eich cyfrifoldebau a'ch rhwymedigaethau personol o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a sut i gadw golwg ar ddatblygiadau deddfwriaethol a datblygiadau eraill sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch.

2.      sut i gyfleu'r datganiad polisi iechyd a diogelwch ysgrifenedig i weithwyr sy'n gweithio ym maes eich cyfrifoldeb a phartïon perthnasol eraill

3.      sut i nodi risgiau i ddiogelwch adnoddau a gwybodaeth a'r camau y gallwch eu cymryd i liniaru'r risgiau hyn

4.      sut a phryd i ymgynghori â gweithwyr ym maes eich cyfrifoldeb neu eu cynrychiolwyr ar faterion iechyd, diogelwch a diogeledd

5.      y ffyrdd o ddatblygu diwylliant yn eich maes cyfrifoldeb sy'n rhoi iechyd, diogelwch a diogeledd yn gyntaf a phwysigrwydd gosod esiampl dda i weithwyr

6.      sut i sefydlu a defnyddio systemau ar gyfer nodi peryglon ac asesu risgiau, y camau y dylid eu cymryd i'w rheoli neu eu dileu, a'r math o adnoddau sydd eu hangen

7.      sut i sefydlu systemau ar gyfer monitro, mesur ac adrodd ar berfformiad iechyd, diogelwch a diogeledd ym maes eich cyfrifoldeb

8.      sut a phryd i adolygu sut y cymhwysir y datganiad polisi iechyd a diogelwch ysgrifenedig ym maes eich cyfrifoldeb a chynhyrchu/cyflwyno canfyddiadau i lywio cynllunio a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

9.      deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau a chodau ymarfer diwydiant a sector-benodol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch a diogeledd

10.  y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i ddarparu amgylcheddau ac arferion gwaith iach, diogel a chynhyrchiol

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

11.  y gweithwyr sydd â diddordeb mewn iechyd, diogelwch a diogeledd ym maes eich cyfrifoldeb

12.  datganiad polisi iechyd a diogelwch ysgrifenedig eich sefydliad a sut mae'n cael ei gyfleu i weithwyr yn eich sefydliad ac i bartïon perthnasol eraill

13.  y ffynonellau arbenigol sydd ar gael i'ch cefnogi chi i reoli iechyd, diogelwch a diogeledd

14.  y cynlluniau gweithredol ar gyfer maes eich cyfrifoldeb a'r adnoddau a ddyrennir i faes eich cyfrifoldeb ar draws iechyd, diogelwch a diogeledd

15.  y cyfrifoldebau a ddyrannwyd ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd yn eich maes chi a'ch sefydliad yn gyffredinol

16.  y systemau sydd ar waith ym maes eich cyfrifoldeb i nodi peryglon, asesu risgiau, cymryd camau a phwy i gyfeirio atynt pan fydd peryglon neu risgiau a nodwyd y tu allan i lefel a maes eich awdurdod

17.  y systemau sydd ar waith ar gyfer monitro, mesur ac adrodd ar berfformiad iechyd, diogelwch ym maes eich cyfrifoldeb


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Cyfathrebu
  2. Ymgynghori
  3. Gwneud penderfyniadau
  4. Rheoli gwybodaeth
  5. Cynnwys gweithwyr
  6. Arwain
  7. Monitro
  8. Cynllunio
  9. Cyflwyno gwybodaeth
  10. Blaenoriaethu
  11. Cwestiynu
  12. Adrodd
  13. Adolygu
  14. Rheoli risg
  15. Meddwl yn systematig

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LEB1

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; iach; diogel; cynhyrchiol; amgylchedd gwaith; arferion