Rheoli gwasanaeth i gwsmeriaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli gwasanaeth i gwsmeriaid. Rydych chi'n trefnu gweithwyr ac adnoddau i gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid yn unol â safonau eich sefydliad. Rydych chi'n rhoi hyfforddiant a chefnogaeth gwasanaeth cwsmeriaid i alluogi staff i roi gwasanaeth yn annibynnol hyd at lefelau penodol. Mae'r safon yn cynnwys ymateb i gwsmeriaid sy'n cael eu cyfeirio atoch chi, monitro perfformiad gwasanaeth cwsmeriaid, cael adborth a dadansoddi data i nodi gwelliannau ac argymell newidiadau i brosesau, systemau a safonau.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymgysylltu â chydweithwyr a rhanddeiliaid wrth reoli gwasanaeth cwsmeriaid
- sefydlu safonau mesuradwy o wasanaeth i gwsmeriaid, gan ystyried disgwyliadau cwsmeriaid ac adnoddau eich sefydliad
- trefnu cydweithwyr ac adnoddau i fodloni safonau gwasanaeth i gwsmeriaid, gan ystyried lefelau amrywiol o alw a chynlluniau wrth gefn tebygol
- mesur cymhwysedd cydweithwyr i wneud yn siŵr eu bod yn gallu rhoi'r lefel ofynnol o wasanaeth i gwsmeriaid
- rhoi hyfforddiant, cefnogaeth a goruchwyliaeth i gydweithwyr yn ôl yr angen
- cyfleu safonau gwasanaeth i gwsmeriaid y mae disgwyl i gydweithwyr eu cyflwyno
- amlinellu lefel annibyniaeth cydweithwyr i ymateb i geisiadau a phroblemau cwsmeriaid
- ymateb i geisiadau gan gwsmeriaid a phroblemau a gyfeiriwyd atoch
- gofyn am gyngor gan arbenigwyr a/neu uwch-reolwyr, lle bo angen
- rhoi gwybod i gwsmeriaid am y camau rydych chi'n eu cymryd i ddelio â'u ceisiadau a'u problemau
- cael adborth ar ganfyddiadau staff a chwsmeriaid o safonau'r gwasanaeth i gwsmeriaid y mae eich sefydliad yn eu darparu
- monitro'r gwasanaeth i gwsmeriaid a ddarperir, ceisiadau, problemau ac adborth cwsmeriaid yn erbyn safonau gwasanaeth i gwsmeriaid eich sefydliad
- dadansoddi data gwasanaeth i gwsmeriaid eich sefydliad i nodi achosion problemau
- nodi cyfleoedd i wella gwasanaeth i gwsmeriaid yn seiliedig ar adborth a monitro
- argymell newidiadau i brosesau, systemau neu safonau i wella gwasanaeth i gwsmeriaid
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i reoli gwasanaeth i gwsmeriaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynnwys cydweithwyr a rhanddeiliaid wrth reoli gwasanaeth i gwsmeriaid
2. sut i sefydlu safonau clir a mesuradwy ar gyfer gwasanaeth i gwsmeriaid, gan ystyried disgwyliadau cwsmeriaid ac adnoddau eich sefydliad
3. sut i drefnu staffio ac adnoddau eraill i fodloni safonau gwasanaeth i gwsmeriaid, gan gynnwys pwysigrwydd ystyried lefelau amrywiol o alw a chynlluniau wrth gefn tebygol
4. pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod staff gwasanaeth i gwsmeriaid yn gymwys i gyflawni eu dyletswyddau, a sut i roi unrhyw hyfforddiant a chefnogaeth angenrheidiol
5. pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod staff yn deall safonau y mae disgwyl iddynt eu darparu o ran gwasanaeth i gwsmeriaid
6. faint o annibyniaeth sydd gan staff i ymateb i geisiadau a phroblemau cwsmeriaid, a phryd i gyfeirio'r rhain at uwch-aelod o'r staff
7. pwysigrwydd cymryd cyfrifoldeb am ddelio â cheisiadau a phroblemau cwsmeriaid a gyfeiriwyd atoch, a rhoi gwybod iddynt am y camau yr ydych yn eu cymryd
8. sut i fonitro safonau'r gwasanaeth i gwsmeriaid a ddarperir
9. nodi a rheoli materion posibl cyn iddynt ddatblygu'n broblemau, ceisiadau ac adborth cwsmeriaid (gan staff a chwsmeriaid), a phwysigrwydd gwneud hynny
10. y mathau o ddata sydd ar gael am wasanaeth i gwsmeriaid a sut i'w ddadansoddi i nodi achosion problemau a chyfleoedd i wella gwasanaeth i gwsmeriaid
11. pwysigrwydd gwneud neu argymell newidiadau i brosesau, systemau a safonau i wella gwasanaeth i gwsmeriaid, a sut i wneud hynny
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
12. gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
13. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i reoli gwasanaeth i gwsmeriaid
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
14. rhanddeiliaid eich sefydliad a'u buddiannau, a'r adnoddau sydd ar gael
15. cwsmeriaid eich sefydliad a'u disgwyliadau o ran gwasanaeth i gwsmeriaid
16. y mathau o broblemau sy'n codi a pholisi a gweithdrefnau cwynion eich sefydliad
17. trefniadau staffio eich sefydliad mewn perthynas â rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid
18. ffynonellau cyngor, arweiniad a chefnogaeth gan arbenigwyr gwasanaeth i gwsmeriaid neu uwch-reolwyr
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Gweithredu'n bendant
- Dadansoddi
- Cyfathrebu
- Rheoli gwybodaeth
- Rheoli gwrthdaro
- Monitro
- Cael adborth
- Cynllunio
- Datrys problemau
- Adolygu
- Adeiladu Tîm
- Meddwl gyda phwyslais ar gwsmeriaid