Cyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau i gwsmeriaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau i gwsmeriaid. Rydych chi'n pennu disgwyliadau cwsmeriaid a phrosesau dylunio i'w bodloni. Rydych chi'n mesur boddhad cwsmeriaid â'r prosesau, y cynhyrchion a'r gwasanaethau y mae eich sefydliad yn eu cyflwyno. Rydych yn sicrhau bod cydweithwyr yn cael eu briffio ar eu rolau a'u cyfrifoldebau, yn cael hyfforddi a chefnogaeth, a bod prosesau ac adnoddau ar gael ar eu cyfer i gynnig gwasanaeth sy'n rhoi'r cwsmer. Rydych hefyd yn monitro cydweithwyr yn erbyn gwerthoedd eich sefydliad er mwyn eu meithrin i berfformio hyd at y safon ofynnol, gan gydnabod eu cyfraniadau a gwobrwyo eu llwyddiannau.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi gwerthoedd eich sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf
- ymgysylltu â chydweithwyr a rhanddeiliaid wrth gyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau i gwsmeriaid
- sefydlu disgwyliadau cwsmeriaid o ran cynhyrchion, gwasanaethau a'r ffyrdd o gyflwyno'r rhain
- cynllunio prosesau sefydliadol i gyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau yn unol â disgwyliadau cwsmeriaid
- rheoli prosesau sefydliadol i gyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau yn unol â disgwyliadau cwsmeriaid
- gwneud yn siŵr bod cydweithwyr yn cael eu briffio ar brosesau a disgwyliadau cwsmeriaid
- cyfleu rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr wrth fodloni disgwyliadau cwsmeriaid, gan gynnwys unrhyw safonau gwasanaeth i gwsmeriaid y cytunwyd arnynt
- galluogi cydweithwyr i fodloni disgwyliadau cwsmeriaid neu ragori arnynt
- rhoi hyfforddiant, cefnogaeth, goruchwyliaeth ac adnoddau eraill yn ôl yr angen
- sefydlu prosesau cynaliadwy o gefnogi cwsmeriaid a datrys unrhyw broblemau
- monitro ymddygiad cydweithwyr o ddydd i ddydd yn erbyn gwerthoedd eich sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf
- datblygu diwylliant sy'n meithrin, parchu, gwerthfawrogi, cydnabod a gwobrwyo gweithwyr sy'n gweithio ar 'lawr gwlad' yn uniongyrchol gyda chwsmeriaid
- nodi prosesau ar gyfer monitro lefelau boddhad cwsmeriaid â chynhyrchion, gwasanaethau a'r ffyrdd y mae'r rhain yn cael eu cyflwyno
- gweithredu prosesau ar gyfer monitro lefelau boddhad cwsmeriaid
- gwerthuso'r modd y darperir cynhyrchion a gwasanaethau i wneud argymhellion ar gyfer gwelliannau
- dangos lefelau cynyddol o foddhad cwsmeriaid â chynhyrchion, gwasanaethau a phrosesau'r sefydliad
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i gyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau i gwsmeriaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynnwys cydweithwyr a rhanddeiliaid eraill wrth gyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau i gwsmeriaid
2. y gwahaniaeth rhwng gwasanaeth i gwsmeriaid a boddhad cwsmeriaid
3. y ffactorau sy'n gwneud cwsmeriaid yn fodlon ac yn parhau i brynu gennych chi
4. pwysigrwydd sicrhau boddhad cwsmeriaid mewn amgylchedd cystadleuol neu amgylchedd lle mae disgwyl lefelau uchel o wasanaeth
5. yr arfer gorau ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid y tu allan i'ch sector
6. y mathau o arolwg cwsmeriaid sydd ar gael a ffyrdd effeithiol o gasglu adborth
7. y technegau ar gyfer cymell staff i roi gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid
8. sut y gall technoleg gwybodaeth a chyfathrebu gefnogi gwasanaeth i gwsmeriaid a helpu i fesur boddhad cwsmeriaid
9. sut i ddylunio a rheoli prosesau a systemau sy'n canolbwyntio ar anghenion cwsmeriaid
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
10. y tueddiadau cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg sy'n debygol o effeithio ar eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
11. y datblygiadau ym maes technoleg a sut bydd y rhain yn effeithio ar eich gwaith gyda chwsmeriaid
12. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i gyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau i gwsmeriaid
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
13. gweledigaeth, amcanion, cynlluniau, gwerthoedd, rhanddeiliaid, cynhyrchion a gwasanaethau, a chwsmeriaid eich sefydliad
14. cryfderau a gwendidau eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau o ran boddhad cwsmeriaid
15. yr arolwg boddhad cwsmeriaid, adborth a dulliau mesur sy'n addas i'ch sefydliad a pham
16. gweithgareddau a gwasanaethau'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn neu sefydliadau tebyg, a sut y gallai hyn effeithio ar eich cynhyrchion, eich gwasanaethau a'ch prosesau
17. y sefydliadau y mae eich cwsmeriaid yn cymharu'ch sefydliad yn eu herbyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Cyfathrebu
- Grymuso
- Gwerthuso
- Cynnwys eraill
- Arwain
- Monitro
- Yn ysgogi
- Cael adborth
- Argyhoeddi
- Cyflwyno gwybodaeth
- Datrys problemau
- Rhoi adborth
- Cwestiynu
- Adolygu
- Meddwl gyda phwyslais ar gwsmeriaid