Cyflwyno cynnig am gontractau i gyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau

URN: INSML048
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflwyno cynnig am gontractau i gyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau yn dilyn proses dendro ffurfiol. Rydych chi'n nodi cyfleoedd i dendro, yn cynnal ymchwil wedi'i thargedu ymhlith cwsmeriaid, ac yn gwerthuso gallu ac adnoddau eich sefydliad i ymateb. Rydych chi'n paratoi tendrau gyda dyfynbrisiau ariannol ac yn cyflwyno'r rhain i ddarpar gwsmeriaid. Rydych hefyd yn gwerthuso ffyrdd posibl o gyfaddawdu ac yn ymateb i ymholiadau a gwrthwynebiadau. Mae'r safon yn cynnwys trafod contractau a gofyn am adborth i wella cynigion yn y dyfodol.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ymgysylltu â chydweithwyr a rhanddeiliaid wrth gael contractau i gyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau
  2. cynnal systemau i nodi cyfleoedd i gyflwyno cynnig i gyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau
  3. cynnal ymchwil wedi'i thargedu ymhlith cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid i nodi cyfleoedd i dendro i gyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau
  4. gwerthuso adnoddau a gallu eich sefydliad i ymateb i gyfleoedd i dendro i gyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau mewn modd credadwy a chystadleuol
  5. cydweithredu ar dendrau â sefydliadau eraill sydd â galluoedd cyflenwol, lle bo hynny'n briodol
  6. paratoi tendrau yn unol â gofynion cwsmeriaid, gan bwysleisio adnoddau a gallu eich sefydliad a nodweddion unigryw a manteision posibl eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
  7. paratoi dyfynbrisiau ariannol sy'n ystyried amcanion ariannol eich sefydliad, gallu'r cwsmer i dalu a'ch amcangyfrifon o ddyfyniadau'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn
  8. cyflwyno eich cynigion i ddarpar gwsmeriaid, gan ragweld neu achub y blaen ar unrhyw ymholiadau a gwrthwynebiadau
  9. gwerthuso dulliau posibl o gyfaddawdau fydd o fudd i'r cwsmer ac i'ch sefydliad
  10. ymateb i unrhyw ymholiadau neu wrthwynebiadau gan ddarpar gwsmeriaid
  11. gwneud yn siŵr bod darpar gwsmeriaid yn deall ac yn derbyn eich ymatebion i wrthwynebiadau ac ymholiadau
  12. trafod contractau sy'n bodloni gofynion y cwsmer newydd a'ch sefydliad
  13. sicrhau bod cytundebau ffurfiol yn cael eu llunio a'u llofnodi sy'n bodloni gofynion cyfreithiol
  14. cael adborth gan gwsmeriaid i nodi sut y gallwch wella mewn achosion lle byddwch yn methu â chael contractau
  15. adolygu'r broses dendro gyda chydweithwyr a defnyddio'r gwersi a ddysgwyd i wella cynigion yn y dyfodol
  16. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol wrth gyflwyno cais am gontractau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.    sut i gynnwys cydweithwyr a rhanddeiliaid wrth gael contractau i gyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau

2.    y sgiliau cyfathrebu gan gynnwys gwrando'n astud, gofyn gwahanol fathau o gwestiynau, egluro pwyntiau, ac ailddatgan neu aralleirio datganiadau i wneud yn siŵr bod pawb yn deall

3.      sut i gynnal ymchwil i nodi cyfleoedd gwerthu

4.      sut i baratoi tendrau sy'n pwysleisio adnoddau a gallu eich sefydliad a nodweddion a manteision unigryw eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau

5.      sut i gyfrifo cost cyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau a pharatoi dyfynbrisiau ariannol cystadleuol

6.      sut i gyflwyno tendrau yn glir ac yn argyhoeddiadol, gan ragweld ymholiadau neu wrthwynebiadau cwsmeriaid, a sut i wneud hynny

7.      pwysigrwydd nodi cyfleoedd i gyfaddawdau, lle gallai agweddau penodol ar eich cynnig gael eu gwella, ac agweddau eraill llai pwysig gael eu lleihau, a sut i wneud hynny

8.      yr egwyddorion a'r dulliau trafod a sut i ddod i gytundebau sydd o fudd i bawb, i fodloni gofynion y cwsmer a'ch sefydliad.

9.      pa elfennau ddylai gael ei gynnwys mewn cytundebau i gyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau a sut i lunio'r rhain

10.  pwysigrwydd gofyn am adborth gan gwsmeriaid i wella tendrau yn y dyfodol

11.  pwysigrwydd adolygu'r broses dendro a nodi'r gwersi i'w dysgu

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

12.  gofynion, canllawiau a chodau ymarfer y diwydiant a'r sector ar gyfer caffael

13.  y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol wrth gyflwyno cais am gontractau

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

14.  amcanion ariannol, rhanddeiliaid, gofynion tendro, gofynion cytundebol, cynhyrchion a gwasanaethau eich sefydliad yn ogystal â'u nodweddion a'u manteision posibl i gwsmeriaid

15.  cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid eich sefydliad, eu hanghenion a'u cymhellion

16.  adnoddau a gallu eich sefydliad i gyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau

17.  sefydliadau eraill y gall eich sefydliad gydweithio â nhw ar dendrau, gan gynnwys cydweithredwyr presennol a rhai newydd posib


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Dadansoddi
  2. Cyfathrebu
  3. Gwerthuso
  4. Rheoli gwybodaeth
  5. Arloesi
  6. Cynnwys cydweithwyr
  7. Cyd-drafod
  8. Rhwydweithio
  9. Cael adborth
  10. Argyhoeddi
  11. Cynllunio
  12. Cyflwyno gwybodaeth
  13. Blaenoriaethu
  14. Adolygu
  15. Meddwl yn strategol
  16. Meddwl gyda phwyslais ar gwsmeriaid

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LFC2

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; cynnig; contractau