Rheoli rhaglenni gwaith neu brosiectau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli rhaglenni gwaith neu brosiectau y rhoddwyd cyfrifoldeb i chi eu cyflawni i gyflawni nodau strategol. Rydych chi'n cwrdd â noddwyr neu randdeiliaid i gadarnhau amcanion y rhaglen neu brosiect allweddol a nodi'r cysylltiadau ag anghenion sefydliadol. Rydych yn cadarnhau gofynion o ran adnoddau ac yn defnyddio'r rhain, yn monitro cynnydd rhaglenni neu brosiectau ac yn cymryd camau i ymateb i newidiadau. Mae'r safon hefyd yn cynnwys cyfathrebu cynnydd a chanlyniadau. Mae'r safon yn cynnwys cyflwyno prosiectau ar amser, o fewn y gyllideb, er boddhad noddwyr prosiectau a rhanddeiliaid.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu amcanion cyffredinol y rhaglen neu'r prosiect a chysylltu'r rhain â nodau strategol
- trafod a chytuno ar amcanion a chwmpas y rhaglen neu'r prosiect gyda noddwyr a rhanddeiliaid
- cadarnhau'r adnoddau sydd ar gael gyda'r noddwyr a'r rhanddeiliaid
- nodi sut mae'r rhaglen arfaethedig neu'r prosiect yn cyd-fynd â gweledigaeth, amcanion a chynlluniau cyffredinol eich sefydliad
- datblygu rhaglen neu gynllun prosiect drwy ymgynghori ag aelodau tîm y prosiect
- cytuno ar y rhaglen neu gynllun y prosiect gyda noddwyr a rhanddeiliaid, gan wneud newidiadau, lle bo angen
- briffio aelodau tîm y prosiect ar y rhaglen derfynol neu'r cynllun prosiect a'u rolau a'u cyfrifoldebau
- rhoi cefnogaeth, anogaeth a gwybodaeth barhaus i aelodau tîm y prosiect
- defnyddio adnoddau yn unol â gofynion a blaenoriaethau'r rhaglen neu brosiect
- gweithredu prosesau ac adnoddau i reoli risgiau posibl sy'n codi o'r prosiect a delio â chynlluniau wrth gefn
- gweithredu'r rhaglen neu gynllun y prosiect, gan ddewis a chymhwyso offer a thechnegau rheoli prosiect er mwyn monitro, rheoli ac adolygu cynnydd
- sefydlu cyfraniad gwahanol gamau'r rhaglen neu'r prosiect tuag at gyflawni'r amcanion cyffredinol
- asesu a rheoli risgiau ar gyfer gwahanol gerrig milltir y rhaglen neu'r prosiect
- sicrhau bod eich cydweithwyr yn cyflawni eu cyfrifoldebau i gyflawni gwahanol gamau o'r rhaglen neu'r prosiect
- monitro'r rhaglen neu'r prosiect i wneud yn siŵr ei fod yn cyflawni ei amcanion ar amser ac o fewn y gyllideb
- cyfleu cynnydd a chanlyniadau'r rhaglen neu'r prosiect a'i wahanol gamau i gydweithwyr a rhanddeiliaid
- newid y rhaglen neu gynllun y prosiect i ymateb i broblemau a wynebir neu newidiadau i amcanion sefydliadol
- sicrhau cytundeb gan noddwyr prosiect a rhanddeiliaid eraill, i newidiadau i'r rhaglen neu gynllun y prosiect, lle bo angen
- cyflawni amcanion rhaglen neu brosiect ar amser ac o fewn y gyllideb
- cadarnhau bod y prosiect wedi'i gwblhau'n foddhaol gyda noddwr y prosiect ac unrhyw randdeiliaid allweddol
- gwneud argymhellion sy'n nodi arfer da a meysydd i'w gwella
- gwerthuso llwyddiant y prosiect, gan nodi pa wersi y gellir eu dysgu a'u rhannu
- dathlu cwblhau'r prosiect, gan gydnabod cyfraniadau aelodau tîm y prosiect
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal i reoli rhaglenni neu brosiectau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. nodweddion rhaglen neu brosiectau yn hytrach na swyddogaethau rheoli arferol, gweithgareddau a'u camau allweddol
2. rôl a chyfrifoldebau allweddol rheolwr prosiect, gan gynnwys pwysigrwydd y berthynas rhwng rheolwr y prosiect, noddwyr a rhanddeiliaid
3. pam mae'n bwysig trafod a chytuno ar amcanion a chwmpas allweddol rhaglen arfaethedig neu brosiect gyda noddwyr a rhanddeiliaid cyn i'r cynllunio manwl ddechrau
4. pam mae'n bwysig gallu nodi a deall sut mae rhaglen neu brosiect yn cyd-fynd â gweledigaeth, amcanion a chynlluniau cyffredinol y sefydliad ac unrhyw raglenni gwaith neu brosiectau eraill sy'n cael eu cynnal
5. pam mae'n bwysig ymgynghori â gweithwyr i ddatblygu cynllun prosiect a'r math o wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cynllunio prosiect yn effeithiol
6. beth ddylid ei gynnwys mewn rhaglen neu gynllun prosiect, yn enwedig gweithgareddau, adnoddau ac amserlenni gofynnol a pham mae angen trafod y cynllun a chytuno arno gyda noddwyr y prosiect ac unrhyw randdeiliaid allweddol
7. sut i friffio aelodau tîm y rhaglen neu'r prosiect ynglŷn â'r cynllun, cadarnhau eu rolau a'u cyfrifoldebau a rhoi cefnogaeth, anogaeth a gwybodaeth barhaus
8. sut i nodi a rheoli risgiau posibl a phwysigrwydd paratoi cynlluniau wrth gefn
9. y math o newidiadau y gallai fod angen eu gwneud i raglen neu gynllun prosiect wrth eu gweithredu a phwysigrwydd cytuno ar y rhain gyda'r noddwyr a'r rhanddeiliaid
10. pam mae'n bwysig cadarnhau bod y rhaglen neu'r prosiect wedi'i gwblhau'n foddhaol gyda'r noddwyr a'r rhanddeiliaid
11. sut i sefydlu systemau effeithiol ar gyfer gwerthuso llwyddiant y rhaglen neu'r prosiect i nodi gwersi ar gyfer y dyfodol a chydnabod cyfraniadau aelodau'r tîm
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
12. yr offer a'r technegau rheoli prosiect a ddefnyddir yn gyffredin yn y diwydiant a'r sector
13. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
14. y noddwyr, y rhanddeiliaid, cwmpas y cynllun a'r amcanion allweddol y cytunwyd arnynt a'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer y rhaglen neu'r prosiect
15. gweledigaeth, amcanion a chynlluniau cyffredinol y sefydliad ac unrhyw raglenni gwaith perthnasol eraill neu brosiectau eraill sy'n cael eu cynnal
16. methodoleg, offer a thechnegau rheoli prosiect eich sefydliad a ddefnyddir i fonitro, rheoli ac adolygu cynnydd
17. y mecanweithiau ar gyfer ymgynghori ar ddatblygiad y rhaglen neu gynllun y prosiect a'r adborth a geir gan weithwyr perthnasol
18. rolau a chyfrifoldebau aelodau tîm y rhaglen neu'r prosiect a'r dulliau a ddefnyddir ar gyfer briffio, cefnogi, annog a rhoi gwybodaeth iddynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Gweithredu'n bendant
- Dadansoddi
- Cydbwyso anghenion a buddiannau sy'n cystadlu â'i gilydd
- Cyfathrebu
- Gwneud penderfyniadau
- Dirprwyo
- Dylanwadu
- Rheoli gwybodaeth
- Cynnwys gweithwyr
- Arwain
- Rheoli gwrthdaro
- Rheoli rhaglenni
- Rheoli prosiectau
- Monitro
- Yn ysgogi
- Cyd-drafod
- Cynllunio
- Cyflwyno gwybodaeth
- Blaenoriaethu
- Datrys problemau
- Rhoi adborth
- Cwestiynu
- Adrodd
- Rheoli risg
- Gosod amcanion
- Rheoli Straen
- Adeiladu Tîm
- Meddwl yn strategol
- Meddwl yn systematig
- Rheoli amser