Rheoli prosesau busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli prosesau busnes. Rydych chi'n nodi allbynnau sefydliadol ac yn cynnwys rhanddeiliaid wrth reoli prosesau busnes. Rydych chi'n dylunio prosesau ac yn nodi'r adnoddau sydd eu hangen i'w cefnogi, gan wneud cysylltiadau rhwng timau i greu system gyflawn. Mae'r safon yn cynnwys diffinio rolau a chyfrifoldebau unigol, rhoi hyfforddiant a chefnogaeth, ac ystyried y ffactorau a allai effeithio ar sut mae prosesau busnes yn gweithio. Rydych hefyd yn datblygu mesurau ac yn rhoi'r rhain ar waith er mwyn monitro'r prosesau, cynllunio a gweithredu gwelliannau yn ôl yr angen.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi allbynnau eich sefydliad i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a rhanddeiliaid
- cynnwys gweithwyr a rhanddeiliaid wrth reoli prosesau busnes
- dylunio prosesau busnes sy'n sicrhau canlyniadau yn unol â'r strategaeth sefydliadol
- nodi'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer prosesau busnes
- sicrhau'r adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer prosesau busnes
- asesu prosesau busnes i wneud yn siŵr eu bod yn defnyddio adnoddau yn effeithiol, yn effeithlon ac yn gynaliadwy
- nodi ac ystyried ffactorau a allai effeithio ar sut mae prosesau busnes yn gweithio
- cysylltu prosesau busnes fel eu bod yn rhyngweithio ar draws y sefydliad i ffurfio system gyflawn
- diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr o fewn prosesau busnes
- nodi'r gofynion hyfforddi, cefnogi a goruchwylio ar gyfer timau a gweithwyr
- rhoi hyfforddiant, cefnogaeth a goruchwyliaeth i alluogi gweithwyr i gyflawni eu rolau a'u cyfrifoldebau diffiniedig
- datblygu mesurau i reoli prosesau busnes yn effeithiol
- gweithredu mesurau i reoli prosesau busnes yn effeithiol
- adolygu prosesau busnes yn rheolaidd, ac yng ngoleuni newidiadau yn anghenion cwsmeriaid neu strategaeth sefydliadol
- nodi sut y gellir gwella'r prosesau
- cynllunio gwelliannau i brosesau busnes
- gweithredu gwelliannau i brosesau busnes
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal i reoli prosesau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynnwys gweithwyr a rhanddeiliaid eraill wrth reoli prosesau busnes.
2. egwyddorion a modelau rheoli prosesau yn effeithiol a sut i ddiffinio prosesau busnes
3. y mathau o fesurau prosesau busnes a sut i asesu eu haddasrwydd
4. sut i gyfrifo'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer prosesau busnes
5. sut i sicrhau bod prosesau ac adnoddau yn gynaliadwy ac yn effeithiol wrth eu defnyddio, a phwysigrwydd gwneud hynny
6. y gwahaniaeth rhwng allbynnau prosesau a deilliannau
7. sut i asesu newidiadau i brosesau o ran risg ac enillion yn erbyn y gost bosibl o fuddsoddi ynddynt
8. sut i gynnal dadansoddiadau o gostau a manteision
9. mathau o offer dadansoddol a datrys problemau y gallwch eu defnyddio wrth ddatblygu prosesau busnes
10. sut i werthuso'r prosesau busnes
11. sut i fesur effaith newidiadau yn y broses fusnes
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
12. tueddiadau a datblygiadau perthnasol a pherfformiad y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn sy'n effeithio ar eich prosesau busnes
13. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
14. nodau, amcanion, strwythur, gwerthoedd a diwylliant eich sefydliad
15. sut mae eich sefydliad yn ychwanegu gwerth trwy ei gynhyrchion, ei wasanaethau a'i brosesau
16. anghenion eich cwsmeriaid ar hyn o bryd a darpar gwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill
17. y gweithwyr yn eich sefydliad, eu rolau a'u cyfrifoldebau, eu cymwyseddau a'u potensial mewn perthynas â phrosesau busnes
18. cynhyrchion, gwasanaethau a phrosesau eich sefydliad, sut maent yn dibynnu ar ei gilydd a mesurau perfformiad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Dadansoddi
- Asesu
- Cyfathrebu
- Dylanwadu
- Rheoli gwybodaeth
- Cynnwys gweithwyr
- Monitro
- Cyd-drafod
- Argyhoeddi
- Cyflwyno gwybodaeth
- Blaenoriaethu
- Datrys problemau
- Adolygu
- Meddwl yn greadigol
- Meddwl yn systematig