Gweithredu cynlluniau busnes strategol a gweithredol a'u gwerthuso
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi cynlluniau busnes ar waith a'u gwerthuso. Rydych yn rhoi cynlluniau busnes strategol a gweithredol ar waith trwy ymgysylltu a dirprwyo gwaith i gydweithwyr, monitro cynnydd ac addasu cynlluniau, pan fo angen. Rydych hefyd yn gwerthuso i ba raddau y mae amcanion strategol a gweithredol wedi'u cyflawni, gan ddysgu gwersi, dathlu llwyddiant a chydnabod cyfraniadau gweithwyr.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfleu eich cynllun busnes strategol i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol i ennyn eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth
- dirprwyo cyfrifoldebau am gyflawni amcanion strategol i unigolion a sicrhau eu hymrwymiad i'w cyflawni
- gwerthuso risgiau i gyflawni amcanion strategol a chymryd camau i liniaru risgiau
- dangos eich ymrwymiad personol trwy arwain y gwaith o gyflawni amcanion strategol allweddol
- adolygu'r cynllun busnes strategol yn rheolaidd, gan ystyried newidiadau o bwys yn yr amgylchedd gweithredu er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn gallu cyflawni amcanion y sefydliad o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt
- cyfleu cynlluniau gweithredol er mwyn i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol eu deall a chael eu cefnogaeth
- dirprwyo cyfrifoldebau am gyflawni amcanion gweithredol i unigolion ac ennill eu hymrwymiad i'w cyflawni
- rhoi'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r amcanion yn eich cynlluniau strategol a gweithredol
- dwyn gweithwyr i gyfrif am gyflawni'r amcanion strategol a gweithredol a ddirprwywyd iddynt
- defnyddio dulliau a mesurau y cytunwyd arnynt i fonitro sut y rhoddir eich cynlluniau busnes ar waith
- rhoi cyngor, arweiniad a chefnogaeth er mwyn cyflawni amcanion strategol a gweithredol, pan fo angen
- defnyddio dangosyddion a dulliau ar gyfer monitro cynnydd yn erbyn eich cynlluniau busnes ar adegau y cytunwyd arnynt
- gwerthuso amrywiadau o'ch cynlluniau busnes a'r rhesymau dros amrywiadau o bwys
- gofyn i gydweithwyr egluro amrywiadau a chynnig camau i fynd i'r afael ag amrywiadau o bwys
- addasu eich cynlluniau busnes neu sut y defnyddir gweithwyr ac adnoddau i ystyried amrywiadau o bwys, argaeledd gweithwyr ac adnoddau, neu newidiadau yn amgylchedd gweithredu eich sefydliad
- rhoi gwybod i gydweithwyr am addasiadau i'ch cynlluniau a'u helpu i wneud newidiadau i'w cynlluniau eu hunain
- gwerthuso sut y gweithredir eich cynlluniau busnes i wneud argymhellion sy'n nodi arfer da a meysydd i'w gwella
- gwerthuso a chytuno â chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol ar i ba raddau y mae'r amcanion yn eich cynlluniau busnes strategol a gweithredol wedi'u cyflawni
- dathlu cyflawni amcanion strategol a gweithredol a chydnabod cyfraniadau'r rhai sy'n cymryd rhan
- dadansoddi'r rhesymau dros unrhyw ddiffygion wrth gyflawni amcanion strategol a gweithredol i lywio sut caiff cynlluniau busnes eu datblygu a'u rhoi ar waith yn y dyfodol
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i weithredu a gwerthuso cynlluniau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. egwyddorion a dulliau rheoli strategol, gweithredol a chynllunio busnes
2. sut i ymgynghori â chydweithwyr a rhanddeiliaid eraill
3. pwysigrwydd cyfleu cynlluniau busnes i weithwyr a sut i wirio eu dealltwriaeth o'r hyn sy'n ofynnol
4. egwyddorion a dulliau dirprwyo
5. sut i ddwyn gweithwyr i gyfrif am gyflawni amcanion
6. sut i asesu risg a'i reoli
7. pwysigrwydd dangos eich ymrwymiad personol i gynlluniau busnes a sut i wneud hynny
8. sut i ddefnyddio adnoddau'n effeithiol i gyflawni amcanion
9. sut i ddatblygu ac addasu'r cynllun ymhellach yng ngoleuni amrywiadau, gan gynnwys adleoli gweithwyr ac adnoddau i roi'r cynllun ar waith
10. sut i fonitro ac adolygu gweithrediad a pherfformiad yn erbyn cynlluniau strategol a gweithredol
11. y dangosyddion a'r dulliau ar gyfer mesur cynnydd yn erbyn cynlluniau a gwerthuso sut y rhoddir cynlluniau ar waith
12. sut i werthuso sut y rhoddir cynlluniau busnes ar waith i nodi a rhannu'r gwersi a ddysgwyd
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
13. y tueddiadau a'r datblygiadau yn eich diwydiant a'ch sector ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
14. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i weithredu a gwerthuso cynlluniau busnes
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
15. gweledigaeth, strwythur, strategaeth, diwylliant, rhanddeiliaid allweddol a phrosesau cyfathrebu a busnes eich sefydliad
16. adborth cwsmeriaid a gwybodaeth ariannol a rheoli arall sy'n llywio cynllunio busnes yn eich sefydliad
17. y gweithwyr a'r adnoddau sydd ar gael i gyflawni amcanion strategol eich sefydliad
18. y tueddiadau a'r datblygiadau yn amgylchedd gweithredu eich sefydliad
19. y bygythiadau i gyflawni gweledigaeth a strategaeth eich sefydliad
20. y ffyrdd o ddathlu cyflawniad amcanion strategol eich sefydliad
21. y ffynonellau gwybodaeth y gallwch eu defnyddio i fonitro a gwerthuso cynlluniau a'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd a gwneud argymhellion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Dadansoddi
- Cyfathrebu
- Cyfathrebu
- Ymgynghori
- Dirprwyo
- Gwerthuso
- Dylanwadu
- Arloesi
- Cynnwys cydweithwyr
- Arwain
- Arwain trwy esiampl
- Monitro
- Rhwydweithio
- Argyhoeddi
- Cynllunio
- Cyflwyno gwybodaeth
- Blaenoriaethu
- Datrys problemau
- Rhoi adborth
- Myfyrio
- Adolygu
- Rheoli risg
- Gosod amcanion
- Meddwl yn strategol