Rheoli systemau gwybodaeth a chyfathrebu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli systemau gwybodaeth a chyfathrebu ar gyfer eich sefydliad neu faes eich cyfrifoldeb. Rydych chi'n datblygu systemau trwy ymgysylltu â chydweithwyr a rhanddeiliaid, gan ystyried anghenion ar hyn o bryd ac ar gyfer y dyfodol. Rydych yn gwerthuso gallu systemau gwybodaeth a chyfathrebu eich sefydliad i nodi unrhyw newidiadau sy'n ofynnol. Rydych hefyd yn gwerthuso'r technolegau a'r cyflenwyr sydd ar gael i ddiwallu anghenion sefydliadol, gan gynnwys lefelau diogelwch perthnasol. Mae'r safon yn cynnwys rhoi protocolau ar waith ar gyfer defnyddio systemau a sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu hyfforddi a'u cefnogi. Rydych yn hwyluso'r gwaith o greu, cynnal a rhannu gwybodaeth sefydliadol gan nodi safonau a phrosesau. Rydych chi'n ystyried diwylliant y sefydliad, y gwerthoedd, yr arferion gwaith a'r ymddygiadau sy'n eich atal rhag rheoli gwybodaeth yn effeithiol ac yn rhoi strategaethau ar waith i oresgyn y rhain. Rydych yn annog uwch-reolwyr i ddangos esiampl o ran arferion da a hyrwyddo rheoli gwybodaeth.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnwys cydweithwyr a rhanddeiliaid wrth ddatblygu, gweithredu a chynnal systemau gwybodaeth a chyfathrebu
- sefydlu anghenion gwybodaeth a chyfathrebu gweithwyr eich sefydliad ar hyn o bryd, yn ogystal ag anghenion tebygol yn y dyfodol, neu o ran maes eich cyfrifoldeb chi a rhanddeiliaid eraill
- sefydlu'r lefelau diogelwch sy'n ofynnol ar gyfer systemau gwybodaeth a chyfathrebu
- gwerthuso gallu'r systemau gwybodaeth a chyfathrebu presennol i ddiwallu anghenion cyfredol
- gwerthuso gallu'r systemau gwybodaeth a chyfathrebu presennol i ddiwallu anghenion tebygol yn y dyfodol, a nodi newidiadau a gwelliannau
- gwerthuso gallu technolegau a chyflenwyr i ddiwallu anghenion gwybodaeth a chyfathrebu cyfredol a thebygol yn y dyfodol
- dewis technolegau a chyflenwyr sy'n gallu diwallu anghenion gwybodaeth a chyfathrebu cyfredol a thebygol yn y dyfodol hyd at y lefel diogelwch sy'n ofynnol o fewn cyfyngiadau adnoddau
- gweithredu unrhyw brotocolau newydd neu rai wedi'u haddasu er mwyn gallu defnyddio systemau gwybodaeth a chyfathrebu yn effeithiol ac yn ddiogel
- gwerthuso'r hyfforddiant a'r gefnogaeth barhaus sy'n ofynnol i alluogi gweithwyr i ddefnyddio systemau gwybodaeth a chyfathrebu yn effeithiol, yn effeithlon ac yn ddiogel
- datblygu a gweithredu cynlluniau i gyflwyno newidiadau a gwelliannau i systemau gwybodaeth a chyfathrebu sy'n lleihau effeithiau andwyol ar weithgareddau busnes
- galluogi gweithwyr i elwa o'r newidiadau a'r gwelliannau
- rhoi hyfforddiant i ddefnyddwyr yn ogystal â'r gefnogaeth barhaus sy'n ofynnol
- sicrhau bod systemau gwybodaeth a chyfathrebu yn cael eu cynnal a'u diweddaru fel sy'n ofynnol gan eich sefydliad
- monitro diogelwch systemau a'u heffeithiolrwydd wrth ddiwallu anghenion gwybodaeth a chyfathrebu gweithwyr, a chymryd camau effeithiol i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau
- nodi lle mae gwybodaeth allweddol yn cael ei chreu, ei datblygu, ei rhannu a'i throsglwyddo a sut mae'n ychwanegu gwerth i'ch sefydliad neu faes cyfrifoldeb
- diffinio strategaethau sy'n hwyluso'r gwaith o greu, cynnal a rhannu gwybodaeth sefydliadol, a chael cefnogaeth ar eu cyfer
- nodi safonau a phrosesau sy'n cefnogi'r gwaith o greu, datblygu, rhannu a nodi gwybodaeth i sicrhau bod gwybodaeth werthfawr yn cael ei chofnodi
- darparu systemau ac offer i gefnogi'r gwaith o reoli gwybodaeth a'i rhannu
- sicrhau bod gan weithwyr yr arweiniad a'r cymhwysedd angenrheidiol i ddefnyddio systemau ac offer yn effeithiol
- nodi lle mae diwylliant, gwerthoedd, arferion gwaith ac ymddygiadau sefydliadol yn rhwystro'r gwaith o reoli a rhannu gwybodaeth yn effeithiol, ac unrhyw newidiadau sy'n ofynnol
- gweithredu newidiadau mewn diwylliant, gwerthoedd, arferion gwaith ac ymddygiadau sefydliadol i allu rheoli a rhannu gwybodaeth yn effeithiol
- annog uwch-reolwyr a dylanwadwyr allweddol yn eich sefydliad i fod yn esiamplau wrth ddefnyddio safonau, systemau, offer a phrosesau rheoli gwybodaeth
- gweithredu systemau a gweithdrefnau effeithiol i amddiffyn eiddo deallusol rhag cael ei ddefnyddio heb awdurdod
- nodi a gweithredu prosesau sy'n hyrwyddo dulliau rheoli gwybodaeth yn effeithiol a rhannu a chyfleu'r manteision o wneud hynny
- monitro ac adolygu cynnydd wrth ymgorffori diwylliant o reoli a rhannu gwybodaeth yn eich sefydliad a chynllunio unrhyw newidiadau hanfodol
- gwerthuso a chofnodi gwerth rheoli a rhannu gwybodaeth i'r sefydliad
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i reoli systemau gwybodaeth a chyfathrebu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynnwys cydweithwyr a rhanddeiliaid wrth reoli gwybodaeth, rhannu dealltwriaeth a systemau cyfathrebu
2. sut i gasglu a dadansoddi data am anghenion gwybodaeth a chyfathrebu gweithwyr
3. yr egwyddorion, y dulliau, yr offer a'r technegau ar gyfer cadw gwybodaeth a chyfathrebu'n ddiogel a sut i sefydlu lefelau a dulliau diogelwch priodol
4. sut i werthuso systemau gwybodaeth a chyfathrebu cyfredol a'u gallu i ddiwallu anghenion y dyfodol
5. yr ystod o dechnolegau gwybodaeth a chyfathrebu sydd ar gael, a sut i sicrhau bod eu nodweddion a'u manteision yn cyd-fynd â'ch anghenion
6. cyflenwyr technolegau gwybodaeth a chyfathrebu a'u galluoedd
7. sut i ddatblygu protocolau er mwyn gallu defnyddio systemau gwybodaeth a chyfathrebu yn effeithiol ac yn ddiogel
8. yr hyfforddiant a'r gefnogaeth wrth ddefnyddio'r systemau gwybodaeth a chyfathrebu sydd eu hangen ar weithwyr
9. yr egwyddorion, y dulliau, yr offer a'r technegau rheoli newid sy'n helpu i gefnogi'r gwaith o weithredu systemau gwybodaeth a chyfathrebu
10. sut i sefydlu'r gofynion ar gyfer cynnal systemau a'u diweddaru
11. y damcaniaethau, y cysyniadau, y strategaethau, yr egwyddorion, y technegau a'r arferion da sy'n bodoli eisoes ac sy'n dod i'r amlwg ym maes rheoli gwybodaeth
12. y systemau a'r offer sydd ar gael i gefnogi'r gwaith o reoli gwybodaeth a'i rhannu a sut i ddewis rhai priodol
13. sut i nodi safonau a phrosesau i gefnogi'r gwaith o reoli gwybodaeth a'i rhannu
14. y systemau a'r gweithdrefnau i amddiffyn eiddo deallusol rhag cael ei ddefnyddio heb awdurdod a sut i nodi rhai priodol a'u datblygu
15. sut i werthuso gwerth rheoli gwybodaeth i'r sefydliad
a chael cefnogaeth ar gyfer strategaethau sefydliadol
16. sut i fonitro effeithiolrwydd systemau gwybodaeth, rhannu gwybodaeth a chyfathrebu i nodi problemau a chymryd camau i fynd i'r afael â nhw
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
17. safonau, gofynion a meincnodau'r diwydiant ar gyfer rheoli a rhannu gwybodaeth a systemau cyfathrebu
18. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i reoli systemau gwybodaeth a chyfathrebu
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
19. yr unigolion a'r grwpiau yn eich sefydliad a'u hanghenion gwybodaeth a chyfathrebu
20. systemau gwybodaeth a chyfathrebu cyfredol eich sefydliad
21. y lefelau diogelwch gwybodaeth a chyfathrebu sy'n ofynnol gan eich sefydliad
22. y lefelau diogelwch sy'n briodol ar gyfer gwahanol ddefnyddwyr systemau gwybodaeth a chyfathrebu eich sefydliad
23. gweithgareddau a phrosesau busnes eich sefydliad
24. sut mae gwybodaeth yn cael ei chreu, ei datblygu, ei rhannu a'i defnyddio yn eich sefydliad
25. diwylliant, gwerthoedd ac arferion gwaith eich sefydliad a sut gall y rhain helpu neu rwystro'r gwaith o reoli a rhannu gwybodaeth yn effeithiol
26. yr uwch-reolwyr a'r dylanwadwyr allweddol yn eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Dadansoddi
- Asesu
- Cyfathrebu
- Gwneud penderfyniadau
- Gwerthuso
- Darogan
- Dylanwadu
- Rheoli gwybodaeth
- Cynnwys gweithwyr
- Monitro
- Cael adborth
- Cynllunio
- Cyflwyno gwybodaeth
- Rhoi adborth
- Cwestiynu
- Adolygu