Gwneud y defnydd gorau posibl o dechnolegau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwneud y gorau o'r defnydd o dechnolegau. Rydych chi'n ymgysylltu â chydweithwyr i ddatblygu dulliau ar gyfer defnyddio technolegau, cael gafael ar arbenigwyr a'u defnyddio yn ôl yr angen. Rydych chi'n adolygu strategaethau ar gyfer defnyddio technolegau a monitro eu perfformiad. Rydych hefyd yn nodi newidiadau technoleg a gynlluniwyd gan gynnwys eu defnyddio at ddibenion newydd a chyflwyno technolegau newydd. Rydych chi'n meincnodi i nodi arfer da a sicrhau bod eich technolegau'n cyd-fynd â'r strategaeth sefydliadol. Mae'r safon hefyd yn cynnwys cyfathrebu'r strategaeth, gwneud yn siŵr ei bod yn gydnaws, datrys problemau technoleg a pharatoi cynlluniau wrth gefn. Rydych chi'n cefnogi cydweithwyr i ddefnyddio technolegau, yn monitro a chynnal systemau wrth roi strategaethau ar waith ac yn adrodd ar berfformiad.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- datblygu dulliau effeithiol o ddefnyddio technolegau trwy ymgysylltu â chydweithwyr perthnasol
- nodi a sicrhau ffynonellau cefnogaeth narbenigol mewnol ac allanol
- nodi'r dulliau cyfredol o ddefnyddio technolegau yn eich sefydliad neu faes eich cyfrifoldeb
- nodi unrhyw gynlluniau i gael gwared ar dechnolegau neu eu cyflwyno, neu ddefnyddio technolegau sy'n bodoli eisoes at wahanol ddibenion yn eich sefydliad neu faes eich gwaith
- meincnodi i nodi arfer da mewn perthynas â defnyddio technolegau
- nodi'r gwersi a ddysgwyd a defnyddio'r rhain yn eich sefydliad
- nodi cyfleoedd ar gyfer cyflwyno technolegau newydd, addasu technolegau sy'n bodoli eisoes neu eu defnyddio at wahanol ddibenion
- datblygu eich strategaeth ar gyfer defnyddio technolegau a monitro perfformiad, gan ddefnyddio arbenigedd yn ôl yr angen
- rhoi eich strategaeth ar gyfer defnyddio technolegau a monitro perfformiad ar waith, gan ddefnyddio arbenigedd yn ôl yr angen
- adolygu eich strategaeth ar gyfer defnyddio technolegau a monitro eu perfformiad
- gwneud yn siŵr bod eich strategaeth ar gyfer defnyddio technolegau yn cyd-fynd â gweledigaeth, gwerthoedd, amcanion a chynlluniau cyffredinol eich sefydliad
- cyfleu'r strategaeth dechnoleg i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
- gwneud yn siŵr bod technolegau newydd yn gydnaws â thechnolegau sy'n bodoli eisoes
- monitro sut y cyflwynir unrhyw dechnoleg, neu sut caiff technoleg sy'n bodoli eisoes ei haddasu
- datrys problemau technolegol o fewn lefelau gwasanaeth sefydliadol y cytunwyd arnynt
- rhoi adnoddau a chefnogaeth i alluogi cydweithwyr i ddefnyddio technolegau yn effeithiol
- sicrhau bod cynlluniau wrth gefn ar waith rhag ofn y bydd technoleg yn methu
- cynnal systemau i fonitro sut y rhoddir technolegau ar waith
- adrodd ar berfformiad technoleg ar gyfer eich sefydliad neu faes eich cyfrifoldeb
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o dechnoleg
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. y gwahanol fathau o dechnolegau a'r prif ffactorau i'w hystyried wrth asesu sut caiff technolegau newydd eu defnyddio neu eu cyflwyno, gan gynnwys y costau a'r manteision llawn
2. pwysigrwydd ymgynghori â chydweithwyr a phartïon perthnasol mewn perthynas â thechnolegau
3. yr hyn y dylai strategaeth sefydliadol effeithiol ar gyfer defnyddio technolegau ei gwmpasu
4. pwysigrwydd paratoi cynlluniau wrth gefn mewn perthynas â defnyddio neu gyflwyno technolegau yn barhaus a sut i wneud hyn
5. y gwahanol dechnegau a dulliau cyfathrebu strategaeth eich sefydliad ar gyfer defnyddio technolegau
6. sut i feincnodi defnydd eich sefydliad o strategaeth yn erbyn sefydliadau eraill
7. sut i wneud yn siŵr bod technolegau newydd yn gydnaws â thechnolegau presennol
8. sut i sefydlu systemau ar gyfer adolygu sut rhoddir y strategaeth ar waith a nodi meysydd i'w gwella
9. y mathau o adnoddau a chefnogaeth sydd eu hangen i alluogi cydweithwyr i wneud y defnydd gorau o dechnolegau
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
10. y tueddiadau a'r mathau o dechnoleg sydd ar gael i'ch diwydiant a'ch sector a'u prif nodweddion, manteision ac anfanteision
11. y cymhellion ariannol neu'r mathau eraill o gefnogaeth a allai fod ar gael ar gyfer buddsoddi mewn technoleg yn eich diwydiant a'ch sector
12. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i wneud y defnydd gorau o dechnoleg
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
13. rôl technolegau yn niwylliant eich sefydliad a sut maent yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd
14. y cynlluniau i gael gwared ar dechnoleg neu ei chyflwyno, neu ddefnyddio technolegau presennol at wahanol ddibenion a phwy y mae angen ymgynghori â nhw ar draws y sefydliad
15. y partïon eraill sydd â diddordeb yn nefnydd eich sefydliad o dechnolegau
16. gweledigaeth, gwerthoedd, amcanion a chynlluniau eich sefydliad a sut mae'r strategaeth dechnoleg yn cyd-fynd â nhw
17. y systemau sydd ar waith ar gyfer monitro'r defnydd o dechnolegau ac adrodd arnynt, gan gynnwys cynlluniau wrth gefn
18. yr arbenigwyr sy'n gallu cynghori'ch sefydliad ar ddefnyddio technolegau
19. pa dechnolegau sydd eisoes wedi'u defnyddio yn eich sefydliad a beth oedd y deilliannau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Meincnodi
- Cyfathrebu
- Ymgynghori
- Trefniadau wrth gefn
- Rheoli gwybodaeth
- Arloesi
- Cynnwys cydweithwyr
- Arwain trwy esiampl
- Arwain
- Monitro
- Rhwydweithio
- Cynllunio
- Datrys problemau
- Cwestiynu
- Adrodd
- Adolygu
- Meddwl yn strategol
- Meddwl yn systematig