Rheoli adnoddau ariannol

URN: INSML036
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli adnoddau ariannol i gyflawni'r amcanion ar gyfer eich sefydliad neu faes eich cyfrifoldeb. Rydych chi'n rheoli cyllid i gyflawni amcanion sefydliadol trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid. Rydych chi'n nodi'r cyllid sy'n ofynnol ac yn gwerthuso'r costau, y manteision a'r risgiau, ac yn cael cyngor arbenigol yn ôl yr angen. Mae'r safon hefyd yn cynnwys trafod cyllidebau, datblygu prif gynlluniau cyllideb a dirprwyo cyfrifoldebau cyllidebol i gydweithwyr. Rydych chi'n cael cyllid gan ddarparwyr allanol ar gyfer prosiectau neu raglenni gwaith. Rydych hefyd yn sefydlu systemau i fonitro, adrodd a gwerthuso perfformiad cyllideb, gan gymryd camau cywiro yn ôl yr angen.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau eich cyfrifoldebau ariannol, gan gynnwys terfynau eich awdurdod, gyda'r cydweithwyr rydych chi'n atebol iddynt
  2. cynnwys rhanddeiliaid allweddol wrth reoli cyllid i gyflawni amcanion ar gyfer eich sefydliad neu faes eich cyfrifoldeb
  3. gwerthuso gwybodaeth ariannol, amcanion a chynlluniau eich sefydliad i nodi blaenoriaethau, problemau posibl a risgiau
  4. nodi'r cyllid sy'n ofynnol i gyflawni amcanion a chynlluniau eich sefydliad
  5. cael arbenigedd ariannol, lle bo angen
  6. gwerthuso costau, manteision a risgiau gwahanol fathau o gyllid
  7. dewis y mathau o gyllid sy'n diwallu anghenion eich sefydliad, gan ystyried lefelau derbyniol o risg a barn rhanddeiliaid
  8. nodi darpar ddarparwyr cyllid a'u gwerthuso
  9. cyflwyno cynigion neu geisiadau clir, argyhoeddiadol ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ddarpar ddarparwyr cyllid
  10. gofyn am ddiweddariadau ar gynnydd i sicrhau cyllid gan ddarparwyr
  11. gwneud cytundebau ffurfiol gyda darparwyr cyllid, gan nodi symiau, amseriad, costau ac amserlenni ad-dalu
  12. trafod cyllidebau sydd wedi'u dirprwyo gyda chydweithwyr a chytuno ar gyllidebau dros dro
  13. datblygu prif gyllideb ar gyfer eich sefydliad neu faes a'i chyflwyno i'w chymeradwyo gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar y gyllideb, gan nodi'n glir y rhagdybiaethau a wneir, y risgiau dan sylw a sut caiff y rhain eu rheoli
  14. trafod y brif gyllideb arfaethedig gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  15. cyfleu'r gyllideb derfynol i gydweithwyr yn eich maes neu uwch-reolwyr
  16. dirprwyo cyfrifoldeb am gyllidebau i gydweithwyr ar gyfer gweithgareddau sydd wedi'u diffinio'n glir, gan roi cefnogaeth ac adnoddau parhaus yn ôl yr angen
  17. nodi unrhyw ddiffyg yn lefel y cyllid a geir a chymryd camau priodol
  18. rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith i ddelio ag unrhyw broblemau o ran y cyllid sydd ar gael ac unrhyw newidiadau i lefel y cyllid sy'n ofynnol
  19. sefydlu systemau i fonitro a gwerthuso perfformiad yn erbyn cyllidebau sydd wedi'u dirprwyo a'r brif gyllideb, a rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith
  20. nodi achosion unrhyw amrywiadau sylweddol rhwng y gyllideb arfaethedig a'r gyllideb mewn gwirionedd
  21. cymryd camau unioni, gan sicrhau cytundeb gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau, os oes angen
  22. cynnig diwygiadau i'r brif gyllideb, os oes angen, mewn ymateb i amrywiadau a/neu ddatblygiadau o bwys neu annisgwyl
  23. cytuno ar ddiwygiadau i'r brif gyllideb gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  24. adrodd ar berfformiad ariannol eich maes i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  25. cysylltu targedau gweithredol â chanlyniadau ariannol
  26. monitro'r cytundebau ariannol gyda darparwyr, gan nodi newidiadau a'u cyflwyno lle bo angen
  27. cynghori gweithwyr perthnasol yn brydlon os ydych wedi nodi tystiolaeth o unrhyw weithgareddau a allai fod yn dwyllodrus
  28. adolygu perfformiad ariannol eich sefydliad neu faes a nodi gwelliannau i'w gweithredu yn y dyfodol
  29. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i reoli adnoddau ariannol a sicrhau cyllid

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      pwysigrwydd cytuno ar eich cyfrifoldebau ariannol, gan gynnwys terfynau eich awdurdod, gyda'r rhai yr ydych yn atebol iddynt

2.      sut i gael y wybodaeth ariannol sydd ar gael a sut i'w gwerthuso i allu paratoi prif gyllideb realistig

3.      pwysigrwydd ystyried amcanion a chynlluniau cysylltiedig eich maes wrth baratoi'r brif gyllideb a'i rhoi ar waith

4.      pwysigrwydd ymgynghori â chydweithwyr i nodi blaenoriaethau, problemau posibl a risgiau i baratoi'r gyllideb ar gyfer eich maes

5.      sut i drafod a chadarnhau cyllidebau gyda chydweithwyr yn eich maes a gyda gweithwyr sy'n rheoli'r cyllid, a'r ffactorau allweddol y dylid eu cynnwys

6.      ble i gael gwybodaeth a sut i'w gwerthuso i nodi gofyniad sefydliad am gyllid

7.      sut i werthuso costau, manteision a risgiau gwahanol fathau o gyllid a'r rhai sy'n ei ddarparu, gan gynnwys sut i gyfrifo'r gost lawn o gael cyllid gan ddarparwyr

8.      y meini prawf ar gyfer dewis mathau o gyllid a'r rhai sy'n ei ddarparu i gyd-fynd ag anghenion sefydliadol a barn rhanddeiliaid

9.      pwysigrwydd risg wrth gael cyllid a ffyrdd y gellir nodi lefel y risg a'i rheoli

10.  pwysigrwydd cyflwyno cynigion neu geisiadau clir i ddarpar ddarparwyr cyllid a chaniatáu digon o amser i'w cyflwyno a'u hystyried

11.  y math o gytundebau ffurfiol y dylid eu rhoi ar waith gyda darparwyr cyllid, yr hyn y dylent ei gwmpasu, a sut i'w monitro

12.  pam mae'n angenrheidiol rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith mewn perthynas â chael cyllid, a'r math o gynlluniau wrth gefn a allai fod eu hangen

13.  prif achosion amrywiadau, sut i'w hadnabod a'r gwahanol fathau o gamau unioni ar gyfer mynd i'r afael ag amrywiadau a nodwyd

14.  pwysigrwydd cytuno ar ddiwygiadau i'r gyllideb a chyfathrebu'r newidiadau

15.  pwysigrwydd rhoi gwybodaeth reolaidd am berfformiad ariannol eich maes i gydweithwyr a'r hyn y gallent fod eisiau ei wybod

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

16.  y mathau o gyllid a'r darparwyr sy'n tueddu i gael eu defnyddio yn eich diwydiant neu eich sector, a pham maent yn cael eu ffafrio

17.  y ffactorau, y tueddiadau a'r datblygiadau sy'n debygol o effeithio ar reolaeth ariannol yn eich diwydiant a'ch sector

18.  y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i reoli adnoddau ariannol a sicrhau cyllid

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

19.  gweledigaeth, amcanion a chynlluniau eich sefydliad, gan gynnwys y rhai y mae angen cyllid ar eu cyfer

20.  y mathau cyfredol o gyllid a'r darparwyr cyllid a ddefnyddir gan eich sefydliad a darpar ddarparwyr cyllid eraill a'u costau, eu manteision a'u risgiau cysylltiedig

21.  anghenion eich sefydliad ar gyfer sicrhau cyllid, gan gynnwys agwedd y sefydliad tuag at risg a barn rhanddeiliaid ynghylch ariannu prosiectau a gweithgareddau

22.  y cydweithwyr a'r rhanddeiliaid allweddol y dylid ymgynghori â hwy ar gynigion ac argymhellion ar gyfer cael cyllid

23.  yr arbenigedd ariannol y mae eich sefydliad yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd a ffynonellau eraill posibl o arbenigedd

24.  y systemau sydd ar waith ar gyfer monitro effeithiolrwydd y cytundebau ar gyfer cyllid a nodi newidiadau i gytundebau ar gyfer gwneud gwelliannau yn y dyfodol

25.  y wybodaeth ariannol sydd ar gael yn eich sefydliad, y cyfnodau cyllidebu a ddefnyddir, a'r brif gyllideb y cytunwyd arni ar gyfer eich maes, gan gynnwys cyllidebau dirprwyedig

26.  eich cyfrifoldebau ariannol, gan gynnwys terfynau eich awdurdod a'ch cydweithwyr sydd â chyfrifoldeb cyllidebol yn eich sefydliad

27.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer paratoi a chymeradwyo cyllidebau, a'r systemau a sefydlwyd ar gyfer rheoli, adrodd a gwerthuso perfformiad yn erbyn cyllidebau

28.  beth i'w wneud os ydych yn amau bod twyll ariannol wedi'i gyflawni, a gyda phwy i gysylltu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Cyfathrebu
  2. Trefniadau wrth gefn
  3. Gwneud penderfyniadau
  4. Gwerthuso
  5. Darogan
  6. Dylanwadu
  7. Rheoli gwybodaeth
  8. Cynnwys gweithwyr
  9. Arwain
  10. Monitro
  11. Cyd-drafod
  12. Argyhoeddi
  13. Cynllunio
  14. Cyflwyno gwybodaeth
  15. Blaenoriaethu
  16. Datrys problemau
  17. Cwestiynu
  18. Adolygu
  19. Rheoli risg
  20. Meddwl yn strategol

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LEA2, CFAM&LEA3

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; cronfeydd; ffynonellau allanol