Nodi a chyfiawnhau gofynion ar gyfer adnoddau ariannol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â nodi a chyfiawnhau'r adnoddau ariannol sy'n ofynnol er mwyn cyflawni amcanion sefydliadol. Rydych chi'n nodi'r adnoddau ariannol sy'n ofynnol, gan eu cyfiawnhau yn unol â'r amcanion a osodwyd. Rydych chi'n amcangyfrif costau gweithgareddau a gorbenion ar gyfer y dull rydych chi wedi'i ddewis. Rydych chi'n paratoi achos busnes gan gynnwys dulliau, amserlen, costau, risgiau a threfniadau gwerthuso ac yn gofyn am sêl bendith y rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Mae'r safon hefyd yn cynnwys cynnig opsiynau amgen yn ôl yr angen a chael adborth ar eich cyflwyniad o'r achos busnes i wella cynigion yn y dyfodol.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau'r amcanion sefydliadol i'w cyflawni
- nodi a chyfiawnhau gofynion ar gyfer adnoddau ariannol trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid
- nodi dulliau o gyflawni amcanion
- gwerthuso effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd dulliau o ddewis y dull gorau posibl
- amcangyfrif costau'r gweithgareddau a'r gorbenion sy'n ofynnol i gyflawni amcanion trwy'r dull gorau posibl
- paratoi'r achos busnes sy'n cyflwyno eich gofynion ar gyfer adnoddau ariannol, gan nodi amcanion a manteision cyflawni'r amcanion hyn
- amlinellu'r dull arfaethedig, yr amserlenni ar gyfer gweithgareddau a'r costau sy'n gysylltiedig â'ch achos busnes
- cynnal dadansoddiad o'r costau a'r manteision
- nodi'r rhagdybiaethau a wnaed, y risgiau a sut bydd y rhain yn cael eu rheoli yn eich achos busnes
- amlinellu trefniadau gwerthuso
- cynnig unrhyw opsiynau amgen a ystyrir ond a wrthodir fel rhai is-optimaidd i randdeiliaid
- paratoi opsiynau amgen ar gyfer cyflawni amcanion, rhag ofn na fydd eich gofynion cyllidebol yn cael eu cymeradwyo
- cyflwyno eich achos busnes i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar y gyllideb, gan roi unrhyw wybodaeth neu resymeg bellach sy'n ofynnol
- amddiffyn eich achos busnes, gan ennyn cefnogaeth rhanddeiliaid a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- ceisio cymeradwyaeth ar gyfer opsiynau amgen pan na dderbynnir eich achos busnes gwreiddiol ynghylch gofynion cyllideb
- cael adborth ar eich cyflwyniad o'r achos busnes gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i helpu i wella cynigion yn y dyfodol
- cyfleu'r penderfyniad ar eich gofynion cyllidebol i randdeiliaid, gan esbonio'r rhesymau dros unrhyw newidiadau neu opsiynau amgen a fabwysiadwyd
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i'ch rôl wrth nodi a chyfiawnhau gofynion ar gyfer adnoddau ariannol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynnwys rhanddeiliaid wrth nodi a chyfiawnhau gofynion ar gyfer adnoddau ariannol
2. yr egwyddorion a'r dulliau cynllunio adnoddau ariannol sydd ar gael a sut i'w defnyddio
3. sut i nodi a dewis y dulliau gorau posibl ar gyfer cyflawni amcanion
4. sut i gyfrifo costau sefydlog ac amrywiol gweithgareddau
5. pwysigrwydd technegau dadansoddi costau a manteision a sut i'w defnyddio
6. y gwahanol dechnegau sydd ar gael ar gyfer gwneud penderfyniadau a sut i'w dewis a'u cymhwyso
7. beth ddylai achos busnes ei gwmpasu a sut i ddatblygu dadleuon argyhoeddiadol dros yr hyn rydych chi'n ei gynnig
8. sut i gyflwyno a dadlau achos busnes
9. pwysigrwydd nodi rhagdybiaethau a wneir
10. sut i nodi risgiau a'u rheoli
11. y gwahanol dechnegau trafod y gellir eu defnyddio a sut i'w defnyddio
12. pwysigrwydd datblygu atebion amgen fel sefyllfaoedd wrth gefn
13. pwysigrwydd cael adborth ar eich cyflwyniad o'r achos busnes a sut i ddefnyddio'r adborth hwn i wella cynigion yn y dyfodol
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
14. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i'ch rôl wrth nodi a chyfiawnhau gofynion ar gyfer adnoddau ariannol
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
15. rhanddeiliaid eich sefydliad, a'u buddiannau a'u hamcanion strategol
16. yr amcanion rydych chi'n gyfrifol am eu cyflawni
17. y rolau a'r gweithwyr sydd â chyfrifoldeb cyllidebol yn eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Gweithredu'n bendant
- Dadansoddi
- Cyfathrebu
- Gwneud penderfyniadau
- Gwerthuso
- Cynnwys cydweithwyr
- Cyd-drafod
- Cael adborth
- Argyhoeddi
- Cyflwyno gwybodaeth
- Datrys problemau
- Rhoi adborth
- Myfyrio
- Adrodd