Rheoli gwrthdaro yn yr amgylchedd gwaith
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli gwrthdaro yn yr amgylchedd gwaith ehangach. Gall y gwrthdaro fod rhwng gwahanol randdeiliaid, cydweithwyr sy'n gweithio ar wahanol lefelau, gweithwyr mewn gwahanol adrannau neu sefydliadau eraill. Rydych chi'n cyfleu prosesau rheoli gwrthdaro a datrys i'r amgylchedd gwaith ehangach, gan nodi gwahaniaethau mewn disgwyliadau i hyrwyddo ffyrdd o reoli sefyllfaoedd. Rydych chi'n cymryd camau ataliol i osgoi effeithiau negyddol gwrthdaro a datrys gwrthdaro pan fyddant yn dod i'r amlwg. Rydych hefyd yn gweithredu fel cyfryngwr ac yn cael gafael ar gefnogaeth gan arbenigwyr yn ôl yr angen.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfleu'r gwahanol fathau o brosesau rheoli gwrthdaro a datrys anghydfodau sydd ar gael i'ch sefydliad
- nodi gwahaniaethau mewn disgwyliadau a dulliau gweithio gweithwyr o wahanol gefndiroedd
- hyrwyddo ffyrdd o reoli gwahaniaethau sy'n ystyried gwahanol ddisgwyliadau
- creu hinsawdd o ymddiriedaeth a pharchu ein gilydd
- cymharu sefyllfaoedd anodd o safbwyntiau gwahanol weithwyr i ddeall y gwrthdaro
- nodi unrhyw broblemau gyda strwythurau, systemau neu weithdrefnau sefydliadol sy'n debygol o arwain at wrthdaro
- datrys unrhyw broblemau gyda strwythurau, systemau neu weithdrefnau sefydliadol sy'n creu gwrthdaro
- nodi gwrthdaro posibl ar draws y sefydliad ehangach neu gyda sefydliadau eraill a chymryd camau ataliol i osgoi'r rhain
- annog y gweithwyr dan sylw i ddatrys eu problemau a'u gwrthdaro ymysg ei gilydd
- cymryd camau i weithredu fel cyfryngwr trydydd parti i ddelio â gwrthdaro pan nad yw'r gweithwyr dan sylw yn gallu datrys y gwrthdaro eu hunain
- dangos parch at emosiynau gweithwyr ynglŷn â'r gwrthdaro
- rheoli unrhyw emosiynau negyddol sydd gennych chi bobl o dan sylw
- ymchwilio i achosion y gwrthdaro, gan roi cyfleoedd i bawb o dan sylw gyflwyno'r ffeithiau a'u canfyddiadau am y gwrthdaro
- cytuno ar sut i ddatrys y gwrthdaro gyda phawb o dan sylw, heb roi'r bai ar neb
- derbyn cefnogaeth gan gydweithwyr neu arbenigwyr, lle bo angen
- cydymffurfio â gofynion sefydliadol a chyfreithiol wrth ddatrys gwrthdaro
- cadw cofnodion cyflawn, cywir a chyfrinachol o wrthdaro a'u canlyniadau, yn unol â pholisi sefydliadol
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i reoli gwrthdaro yn yr amgylchedd gwaith ehangach
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. egwyddorion cyfathrebu, rheoli gwrthdaro a datrys anghydfodau a sut i'w cymhwyso
2. sut i nodi a mynd i'r afael ag unrhyw faterion gyda strwythurau, systemau neu weithdrefnau sefydliadol a allai greu gwrthdaro
3. sut y gall cefndiroedd gweithwyr greu gwahaniaethau mewn disgwyliadau a sut i reoli'r gwahaniaethau hyn
4. pwysigrwydd nodi gwrthdaro posibl ar draws y sefydliad i gymryd camau ataliol i osgoi'r rhain, a sut i wneud hynny
5. y ffyrdd o ddelio â gwrthdaro pan fyddant yn codi, gan gynnwys pa fathau o gamau y dylid eu cymryd a phryd
6. proses ac egwyddorion cyfryngu i ddatrys gwrthdaro yn y gwaith
7. y gwahanol dechnegau datrys gwrthdaro a sut i'w cymhwyso mewn gwahanol sefyllfaoedd
8. pwysigrwydd cydnabod a pharchu emosiynau gweithwyr ynglŷn â'r gwrthdaro a sut i reoli unrhyw emosiynau negyddol sydd gennych chi eich hun a'ch gweithwyr
9. sut i nodi achosion y gwrthdaro, aros yn ddiduedd, a rhoi cyfleoedd i bawb o dan sylw gyflwyno'r ffeithiau a'u canfyddiadau am y gwrthdaro
10. pwysigrwydd nodi a chytuno ag aelodau'r tîm ynglŷn â sut i ddatrys y gwrthdaro, heb roi'r bai ar neb, a sut i wneud hynny
11. pryd a sut i ofyn am gefnogaeth gan gydweithwyr neu arbenigwyr
12. sut a pham mae gwrthdaro yn digwydd yn yr amgylchedd gwaith ehangach, rhwng gwahanol randdeiliaid, gwahanol lefelau, gwahanol adrannau neu sefydliadau
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
13. gofynion a systemau'r diwydiant a'r sector ar gyfer rheoli gwrthdaro
14. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol er mwyn rheoli gwrthdaro yn yr amgylchedd gwaith ehangach
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
15. diwylliant, safle a rôl hierarchaethau eich sefydliad, a sut mae rolau gwaith yn rhyngwynebu, yn ategu ac yn cefnogi ei gilydd
16. y strwythurau, y systemau a'r gweithdrefnau sefydliadol sy'n debygol o greu gwrthdaro
17. y ffynonellau cefnogaeth arbenigol neu allanol sydd ar gael ichi i reoli gwrthdaro
18. y gofynion sefydliadol a chyfreithiol ar gyfer datrys gwrthdaro a chynnal cofnodion a'u deilliannau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Cyfathrebu
- Dangos empathi
- Gwerthuso
- Rheoli gwybodaeth
- Rheoli gwrthdaro
- Monitro
- Cael adborth
- Datrys problemau
- Rhoi adborth
- Cwestiynu
- Adolygu
- Rheoli risg
- Rheoli Straen
- Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi