Datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith gyda chydweithwyr yn eich sefydliad eich hun, gweithwyr o sefydliadau eraill y mae eich sefydliad yn gweithio gyda nhw, a rhanddeiliaid allanol eraill. Rydych chi'n defnyddio offer a thechnolegau perthnasol ar gyfer rheoli gwahanol dimau, gan gynnwys yn y swyddfa, ar wasgar, o bell neu gyfuniad ohonynt. Rydych chi'n sefydlu perthnasoedd gwaith ac yn parchu rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr a rhanddeiliaid, gan fynd ati i geisio deall eu safbwyntiau. Rydych chi'n nodi ac yn datrys gwrthdaro, yn monitro perthnasoedd gwaith ac yn nodi agweddau y gellir eu gwella. Rydych hefyd yn creu hinsawdd o ymddiriedaeth sy'n rhoi cefnogaeth i symud sefyllfaoedd anodd ymlaen. Mae'r safon yn cynnwys ymgynghori â rhanddeiliaid, cyflawni cytundebau â nhw a datrys gwrthdaro mewn buddiannau. Rydych chi'n monitro datblygiadau ehangach ac yn casglu adborth i werthuso perfformiad perthnasoedd gwaith.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu perthnasoedd gwaith gyda chydweithwyr perthnasol yn eich sefydliad
- defnyddio offer a thechnolegau perthnasol ar gyfer rheoli gwahanol dimau, gan gynnwys mewn swyddfa, ar wasgar, o bell neu gyfuniad ohonynt
- cydnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau, buddiannau a phryderon cydweithwyr
- creu hinsawdd o ymddiriedaeth a pharchu eich gilydd lle nad oes gennych awdurdod, nac awdurdod a rennir dros eich cydweithwyr
- ystyried sefyllfaoedd a materion anodd o safbwynt cydweithwyr a rhoi cefnogaeth i symud pethau ymlaen
- rhoi gwybodaeth briodol i gydweithwyr i'w galluogi i berfformio'n effeithiol
- ymgynghori â chydweithwyr ynghylch penderfyniadau a gweithgareddau allweddol, gan ystyried eu barn
- cyflawni'r cytundebau a wnaed gyda chydweithwyr
- cynghori cydweithwyr ynghylch anawsterau, neu lle nad yw'n bosibl cyflawni cytundebau
- nodi gwrthdaro mewn buddiannau ac anghytundebau gyda chydweithwyr a'u datrys mewn ffyrdd sy'n lleihau difrod i weithgareddau gwaith ac i'r unigolion dan sylw
- monitro ac adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith gyda chydweithwyr i nodi meysydd i'w gwella
- rhoi adborth i wella perfformiad eich cydweithwyr
- dadansoddi'r adborth a gawsoch i wella'ch perfformiad eich hun
- nodi rhanddeiliaid allanol a natur eu diddordeb yng ngweithgareddau a pherfformiad eich sefydliad
- sefydlu perthnasoedd gwaith gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol
- cydnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau, buddiannau a phryderon rhanddeiliaid, yn enwedig mewn sefyllfaoedd o reoli matrics a gofynion eu rheolwyr
- gwerthuso sefyllfaoedd a materion anodd o safbwynt rhanddeiliaid
- rhoi cefnogaeth, lle bo angen, i symud sefyllfaoedd anodd ymlaen
- rhoi gwybodaeth briodol i randdeiliaid i'w galluogi i berfformio'n effeithiol
- ymgynghori â rhanddeiliaid ynghylch penderfyniadau a gweithgareddau allweddol ac ystyried eu barn, gan gynnwys eu blaenoriaethau, eu disgwyliadau a'u hagweddau at risgiau posibl
- cyflawni cytundebau a wneir gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol
- cynghori rhanddeiliaid yn brydlon ynghylch unrhyw anawsterau neu lle nad yw'n bosibl cyflawni'r cytundebau a wnaed
- nodi a datrys gwrthdaro mewn buddiannau ac anghytundebau â rhanddeiliaid mewn ffyrdd sy'n lleihau difrod i weithgareddau gwaith ac i'r rhanddeiliaid dan sylw
- monitro ac adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith gyda rhanddeiliaid i nodi meysydd i'w gwella
- casglu adborth i wella eich perfformiad chi a pherfformiad rhanddeiliaid
- monitro datblygiadau ehangach i nodi materion o ddiddordeb neu bryder posibl i randdeiliaid yn y dyfodol
- nodi rhanddeiliaid newydd i adeiladu perthnasoedd gwaith gyda nhw
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cynhyrchiol gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. pwysigrwydd cydnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau, buddiannau a phryderon cydweithwyr a rhanddeiliaid
2. yr offer a'r technolegau perthnasol ar gyfer rheoli gwahanol dimau, gan gynnwys yn y swyddfa, ar wasgar, o bell neu gyfuniad ohonynt
3. pwysigrwydd creu hinsawdd o ymddiriedaeth a pharchu ei gilydd lle nad oes gennych awdurdod, nac awdurdod a rennir, dros y rhai rydych chi'n gweithio gyda nhw
4. pwysigrwydd deall sefyllfaoedd anodd a phroblemau o safbwynt cydweithwyr a rhoi cefnogaeth, lle bo angen, i symud pethau ymlaen
5. sut i nodi anghenion gwybodaeth cydweithwyr a rhanddeiliaid a'u diwallu
6. y wybodaeth sy'n briodol i'w rhoi i gydweithwyr a rhanddeiliaid a'r ffactorau y mae angen eu hystyried
7. sut i ymgynghori â chydweithwyr a rhanddeiliaid ynghylch penderfyniadau a gweithgareddau allweddol
8. pwysigrwydd ystyried barn, a chael eich gweld yn ystyried barn, cydweithwyr a rhanddeiliaid, yn enwedig mewn perthynas â'u blaenoriaethau, eu disgwyliadau a'u hagweddau at risgiau posibl
9. pam mae cyfathrebu â chydweithwyr a rhanddeiliaid ynghylch cyflawni cytundebau neu unrhyw broblemau sy'n effeithio ar gyflawniad neu'n ei atal yn bwysig
10. sut i nodi gwrthdaro mewn buddiannau gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid a'r technegau y gellir eu defnyddio i'w rheoli neu eu dileu
11. sut i nodi anghytundebau â chydweithwyr a rhanddeiliaid a'r technegau ar gyfer eu datrys
12. y difrod y gall gwrthdaro mewn buddiannau ac anghytundebau â chydweithwyr a rhanddeiliaid ei achosi i unigolion a sefydliadau
13. sut i fonitro ac adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid
14. sut i gael adborth gan gydweithwyr a rhanddeiliaid a gwneud defnydd effeithiol ohono
15. sut i roi adborth i gydweithwyr a rhanddeiliaid sydd wedi'i gynllunio i wella eu perfformiad
16. y gwahanol fathau o randdeiliaid ac egwyddorion allweddol sy'n sail i'r cysyniad o 'randdeiliad'
17. sut i nodi rhanddeiliaid eich sefydliad, gan gynnwys gwybodaeth gefndir, natur eu diddordeb yn eich sefydliad a'u disgwyliadau
18. sut i gydnabod ac ystyried materion gwleidyddol wrth ddelio â rhanddeiliaid
19. pwysigrwydd monitro datblygiadau ehangach mewn perthynas â rhanddeiliaid i reoli eu disgwyliadau
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
20. safonau ymddygiad a pherfformiad yn eich diwydiant a'ch sector
21. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol a sefydliadol sy'n berthnasol i ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cynhyrchiol gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
22. y cytundebau sydd ar waith ar hyn o bryd gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid a'u hanghenion gwybodaeth a nodwyd
23. y mecanweithiau ar gyfer ymgynghori a chyfathrebu â chydweithwyr a rhanddeiliaid ar benderfyniadau a gweithgareddau allweddol
24. y pŵer, y dylanwad a'r wleidyddiaeth o fewn eich sefydliad a'ch diwylliant
25. y safonau ymddygiad a pherfformiad a ddisgwylir yn eich sefydliad
26. y mecanweithiau sydd ar waith ar gyfer monitro ac adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid
27. y rhanddeiliaid allweddol, eu cefndir a'u buddiannau yng ngweithgareddau a pherfformiad eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Cyfathrebu
- Dangos empathi
- Rheoli gwybodaeth
- Arwain trwy esiampl
- Rheoli gwrthdaro
- Rhwydweithio
- Cael adborth
- Blaenoriaethu
- Rhoi adborth
- Rheoli Straen
- Cydbwyso anghenion a buddiannau sy'n cystadlu â'i gilydd
- Cyfathrebu
- Ymgynghori
- Dangos empathi
- Rheoli gwybodaeth
- Cynnwys cydweithwyr
- Arwain
- Rheoli gwrthdaro
- Monitro
- Rhwydweithio
- Cael adborth
- Cyflwyno gwybodaeth
- Blaenoriaethu
- Datrys problemau
- Rhoi adborth
- Adolygu
- Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi