Cefnogi dysgu a datblygu gweithwyr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chefnogi dysgu a datblygu gweithwyr. Rydych chi'n hyrwyddo diwylliant o ddysgu ac yn annog gweithwyr i ofyn am adborth a dysgu ohono. Rydych chi'n helpu gweithwyr i nodi'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymhwysedd y mae angen iddynt eu datblygu i fodloni gofynion eu rolau gwaith presennol ac yn y dyfodol, ac i gyflawni eu dyheadau personol. Rydych yn cytuno ar gynlluniau datblygu ac yn galluogi gweithwyr i ymgymryd â dysgu a datblygu i gyflawni eu hamcanion. Rydych hefyd yn helpu gweithwyr i nodi'r mathau o weithgaredd dysgu, dulliau a phlatfformau dysgu sydd fwyaf effeithiol ar eu cyfer, gan ddefnyddio cyfleoedd heb eu cynllunio. Mae'r safon yn cynnwys rhoi cyfleoedd i weithwyr gymhwyso eu sgiliau yn y gwaith a'u hannog i ymgymryd â rolau a chyfrifoldebau newydd.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- hyrwyddo manteision dysgu i weithwyr ym maes eich cyfrifoldeb
- annog gweithwyr i ofyn am adborth ar eu perfformiad gan gydweithwyr sy'n gallu rhoi adborth gwrthrychol, penodol a dilys
- rhoi adborth gwrthrychol, penodol a dilys i weithwyr ar eu perfformiad gwaith, gan drafod a chytuno ar sut y gallant wella
- cytuno gyda gweithwyr ar y wybodaeth, y sgiliau a'r cymhwysedd sy'n ofynnol i fodloni gofynion eu rolau gwaith presennol a rolau posibl yn y dyfodol
- rhoi cyfleoedd ac offer i weithwyr allu gwneud asesiad cywir o lefelau eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u cymhwysedd cyfredol yn ogystal â'u potensial
- gwerthuso unrhyw wybodaeth, sgiliau a chymhwysedd ychwanegol, neu uwch, sydd eu hangen ar weithwyr ar gyfer eu rolau gwaith cyfredol, eu rolau gwaith posibl yn y dyfodol a'u dyheadau personol
- ennyn diddordeb gweithwyr i nodi a chael gwybodaeth am y gweithgareddau dysgu sydd ar gael i fynd i'r afael ag anghenion dysgu a nodwyd
- cytuno ar gynlluniau datblygu personol sy'n cynnwys gweithgareddau dysgu i'w cyflawni, yr amcanion dysgu i'w cyflawni, yr adnoddau a'r amserlenni gofynnol
- nodi a gwerthuso unrhyw anawsterau dysgu neu anghenion penodol a allai fod gan weithwyr
- cynnig cyfleoedd ac offer er mwyn i weithwyr allu nodi'r mathau o ddysgu sydd fwyaf effeithiol yn eu barn nhw
- cynnig gweithgareddau dysgu a datblygu sy'n cyd-fynd â'u dewisiadau dysgu
- nodi'r ystod o ddulliau, platfformau a thechnolegau dysgu i weddu i anghenion neu ddewisiadau unigol
- annog gweithwyr i ganolbwyntio ar eu hanghenion dysgu wedi'u blaenoriaethu wrth ddewis gweithgareddau dysgu a chynllunio eu datblygiad
- trefnu cyngor a chefnogaeth gan arbenigwyr dysgu a datblygu, pan fo angen
- cefnogi gweithwyr i ymgymryd â gweithgareddau dysgu, gan wneud yn siŵr bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael
- dileu unrhyw rwystrau i ddysgu, os oes angen
- cynnig cyfleoedd i weithwyr gymhwyso eu cymwyseddau sy'n datblygu yn y gweithle
- nodi a defnyddio cyfleoedd dysgu heb eu cynllunio
- trafod cynnydd tuag at gyflawni amcanion dysgu
- trafod parodrwydd i ymgymryd â rolau a chyfrifoldebau newydd gyda gweithwyr
- cytuno ar y gefnogaeth a'r oruchwyliaeth y bydd eu hangen ar weithwyr i ymgymryd â rolau a chyfrifoldebau newydd
- penodi gweithwyr i rolau a chyfrifoldebau sy'n cyd-fynd â'u cymwyseddau a'u potensial
- rhoi'r gefnogaeth a'r oruchwyliaeth sydd eu hangen ar weithwyr
- rhoi adborth penodol i alluogi gweithwyr i wella eu perfformiad
- trafod a chytuno ar ddiwygiadau i gynlluniau datblygu personol yn seiliedig ar berfformiad, gweithgareddau dysgu yr ymgymerir â nhw ac unrhyw newidiadau ehangach
- annog pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu a'u datblygiad eu hunain, gan gynnwys ymarfer a myfyrio ar yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu
- gwerthuso gweithgareddau dysgu a datblygu i nodi gwelliannau i'r gefnogaeth a roddir yn y dyfodol
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i gefnogi dysgu a datblygu gweithwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. manteision dysgu i weithwyr a'r ffyrdd y gallwch ddatblygu diwylliant lle mae dysgu'n cael ei werthfawrogi a pharodrwydd ac ymdrechion i ddysgu yn cael eu cydnabod
2. sut i nodi rolau a chyfrifoldebau posibl gweithwyr yn y dyfodol
3. sut i roi adborth penodol i weithwyr sydd wedi'i gynllunio i wella eu perfformiad
4. yr offer sydd ar gael ar gyfer asesu gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd
5. sut i ddadansoddi'r bylchau rhwng y lefelau cyfredol o wybodaeth, sgiliau a chymhwysedd, a'r lefelau sy'n ofynnol
6. sut i ddatblygu cynlluniau dysgu a datblygu yn seiliedig ar ddadansoddiad cadarn o anghenion dysgu
7. pam mae'n bwysig bod gan weithwyr gynllun datblygiad personol ysgrifenedig a'r hyn y dylai ei gynnwys (er enghraifft, anghenion dysgu a nodwyd, gweithgareddau dysgu i'w cyflawni a'r amcanion dysgu i'w cyflawni, amserlenni a'r adnoddau gofynnol)
8. sut i flaenoriaethu anghenion dysgu gweithwyr, gan gynnwys ystyried anghenion a blaenoriaethau sefydliadol, a'r anghenion datblygu personol a gyrfaol
9. y gwahanol fathau o weithgareddau dysgu, eu manteision a'u hanfanteision a'r adnoddau gofynnol (er enghraifft, amser, ffioedd, staff dirprwyol)
10. yr ystod o ddulliau, platfformau a thechnolegau ar gyfer dysgu a datblygu
11. sut a ble i gael gwybodaeth am wahanol weithgareddau dysgu a sut i'w paru â gwahanol ddewisiadau dysgu unigol a chynnwys dysgu.
12. sut i osod amcanion dysgu sy'n Benodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Realistig ac â therfyn amser (CAMPUS)
13. y mathau o gefnogaeth y gallai fod eu hangen ar weithwyr i ymgymryd â gweithgareddau dysgu, y mathau o rwystrau y gallent eu hwynebu a sut gellir eu datrys
14. sut i fonitro a gwerthuso a yw gweithgareddau dysgu wedi cyflawni eu hamcanion dysgu arfaethedig
15. pwysigrwydd adolygu a diweddaru cynlluniau datblygu personol yn rheolaidd yn seiliedig ar berfformiad, gweithgareddau dysgu yr ymgymerir â hwy ac unrhyw newidiadau ehangach
16. sut i annog gweithwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu a'u datblygiad eu hunain, gan gynnwys myfyrio'n bersonol ar eu perfformiad
17. ffynonellau arbenigol mewn perthynas â nodi dysgu a'i ddarparu i weithwyr
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
18. gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer datblygu neu gynnal gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd yn ogystal â chynlluniau a threfniadau penodol
19. y codau ymarfer a pholisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i gefnogi dysgu a datblygiad proffesiynol gweithwyr
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
20. y gweithwyr yn eich tîm, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu cymwyseddau a'u potensial
21. y gofynion gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd ar gyfer gwahanol rolau ym maes eich cyfrifoldeb y bylchau a nodwyd yng ngwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd gweithwyr
22. yr offer a ddefnyddir yn eich sefydliad i nodi anghenion a dewisiadau dysgu unigol
23. yr anghenion dysgu a nodwyd ar gyfer y gweithwyr a'u cynlluniau datblygu personol sy'n gysylltiedig â rheoli perfformiad neu arfarnu
24. y gweithgareddau dysgu a'r adnoddau sydd ar gael yn eich sefydliad
25. y cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu gyrfaoedd gweithwyr yn eich sefydliad
26. y gefnogaeth a'r oruchwyliaeth sydd ar gael i weithwyr yn eich sefydliad
27. polisi ac arferion dysgu a datblygiad personol a phroffesiynol eich sefydliad
28. ffynonellau cyngor a chefnogaeth arbenigol fewnol ac allanol sydd ar gael i chi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Hyfforddi
- Cyfathrebu
- Gwneud penderfyniadau
- Dirprwyo
- Dangos empathi
- Grymuso
- Gwerthuso
- Dylanwadu
- Ysbrydoledig
- Cynnwys eraill
- Arwain trwy esiampl
- Mentora
- Monitro
- Yn ysgogi
- Argyhoeddi
- Cynllunio
- Cyflwyno gwybodaeth
- Blaenoriaethu
- Datrys problemau
- Rhoi adborth
- Cwestiynu
- Adolygu
- Gosod amcanion
- Meddwl yn strategol
- Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi